Bob blwyddyn penderfynir ar lefel y lwfans ar gyfer taliadau a wneir i’n haelodau etholedig gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, rydym yn cyhoeddi gwybodaeth yn flynyddol ynghylch y taliadau mae aelodau etholedig yn eu cael.
1. O 1 Ebrill, 2020 i 31 Mawrth, 2021 cafodd aelodau etholedig y taliadau canlynol:
Cyflog sylfaenol blynyddol
- £14,218
Uwch gyflogau blynyddol (yn cynnwys cyflog sylfaenol uchod)
- Arweinydd y Cyngor - £49,450
- Dirprwy Arweinydd - £34,950
- Aelodau Bwrdd Gweithredol gyda chyfrifoldeb arwain - £30,450
- Cadeirydd Pwyllgor - £22,918
Cyflogau dinesig
- Maer - £22,918
- Dirprwy Faer - £17,918
Ffioedd Aelodau cyfetholedig
- Cadeirydd - £256 yn ddyddiol (£128 hanner diwrnod)
- Aelod arferol – £198 y dydd (£99 am hanner diwrnod)
2. Mae ad-daliad costau teithio a threuliau wrth wneud dyletswyddau a gymeradwywyd gan yr awdurdod hefyd wedi eu cynnwys ar y rhestr.
3. Mae taliadau a wnaed gan gyrff eraill i aelodau etholedig yr awdurdod hwn hefyd wedi eu cynnwys ar y rhestr.
Rydym hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth ar dâl aelodau.