Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant– Arolwg Rhieni/Gofalwyr 2012Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ddiddordeb mewn gwybod eich barn am ddarpariaeth gofal plant. Mae eich safbwyntiau'n bwysig i ni a byddant yn ein helpu i sicrhau y darperir gwasanaethau gofal plant hygyrch ac o safon ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam i blant sy'n 0-15 oed (15-17 i blant ag anableddau).
Dychwelwch yr arolygon erbyn 27 Chwefror 2012 i Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam, Llyfrgell a Chanolfan Gelf Wrecsam, Ffordd Rhosddu, Wrecsam, LL11 1AU.
Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant– Arolwg Rhieni/Gofalwyr 2012
Gellir lawr lwytho'r ddogfen hon yn y fformatiau canlynol:
Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant– Arolwg Rhieni/Gofalwyr 2012 - Fersiwn Word 151Kb ![]()
Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant– Arolwg Rhieni/Gofalwyr 2012 - Fersiwn PDF 103Kb ![]()
Mae'r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant sy'n ddogfen ategol i'n Cydgynllun (Cynllun Plant a Phobl Ifanc a'r Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles), yn nodi bylchau yn y farchnad gofal plant, ac yn awgrymu sut i hyrwyddo'r farchnad gofal plant orau i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion rheini sy'n gweithio; yn arbennig y rhieni sydd ar incwm isel, y plant sydd ag anableddau, neu'r rheiny sy'n dymuno i'w plant fynychu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Rydym yn ddiolchgar i bob un o’r bobl sydd wedi cymryd rhan yn y broses ymgynghori ar gyfer yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant rhwng 8 Tachwedd a 30 Ionawr. Roedd dros 1,869 o rieni / gofalwyr ynghlwm wrth y broses cyn-ymgynghori, yn ogystal â 56 o fusnesau, 56 o ddarparwyr gofal plant a phobl ifanc cofrestredig. Ymatebodd 223 o blant ac unigolion ifanc a 34 o grwpiau o bobl i’r ymgynghoriad ar yr adroddiad drafft unai fel unigolion neu sefydliadau cynrychioliadol a hynny mewn cyfarfodydd, gweithdai, cyfweliadau wyneb yn wyneb neu ar yr e-bost, neu drwy’r post.
Casglwyd yr holl ymatebion a’u trafod mewn cyfarfodydd o’r tîm a oedd yn llunio’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror. Arweiniodd hyn at addasu’r ddogfen Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant i ystyried yr adborth a dderbyniwyd. Cwblhawyd yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant ac mae ar waith ers 1 Ebrill 2011.
E-bost: ourjointplan@wrexham.gov.uk
Tîm Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Ffyniant
Ail Lawr
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1AY
Facs: 01978 297065
Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2011-14
Gellir lawr lwytho'r ddogfen hon yn y fformatiau canlynol:
Asesiad Digonedd Gofal Plant 2011-14 (Adroddiad Cryno) - Fersiwn PDF 2.6Mb ![]()
Asesiad Digonedd Gofal Plant 2011-14 (Adroddiad Dadansoddi) - Fersiwn PDF 5.1Mb
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |