Cynllun Plant a Phobl Ifanc (CPPhI)

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) wedi gofyn i bob sir (yn cynnwys ni yn Wrecsam) gynhyrchu cynllun Plant a Phobl Ifanc sy’n egluro beth yr ydym am ei wneud yn y dyfodol fydd o fudd i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Cynllun partneriaeth yw ein Cynllun Plant a Phobl Ifanc ac mae’n cynnwys yr holl bartneriaethau a sefydliadau sy’n perthyn i’n Partneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc. Mae’r rhain yn cynnwys ein Cyngor, ein Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Cymru, ein heddlu a’n gwasanaethau prawf, ein Gwasanaeth Tân ac Achub a’r Trydydd sector neu’r sector gwirfoddol yn Wrecsam.

Ein gweledigaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yn Wrecsam yw:

Gwella ansawdd bywyd pawb ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam a’i gwneud yn:

  • lle mae plant a phobl ifanc yn cael eu gwerthfawrogi
  • lle sy’n darparu fframwaith sy’n galluogi ein plant a’n pobl ifanc i wireddu eu breuddwydio
  • lle sy’n sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael pob cyfle i gyflawni eu potensial

Mae Cynllun Plant a Phobl Ifanc Wrecsam 2008-11 wedi’i osod mewn pedair prif bennod sy’n adlewyrchu’r modd yr ydym wedi trefnu’n gwaith gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd.  Y penodau yw:

  • Byddwch yn Iach ac Actif
  • Dysgwch a Chyflawnwch
  • Byddwch yn Ddiogel rhag Niwed
  • Mwynhewch, Cymerwch Ran a chael eich Gwerthfawrogi

Mae’r pedair pennod hyn yn cynnwys saith Nod Craidd LlCC y mae’n rhaid i Gynllun Plant a Phobl Ifanc ymdrin â hwy.  Seilir y saith nod craidd ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n dweud bod gan holl blant a phobl ifanc Cymru'r hawl i:

  1. Ddechrau teg mewn bywyd
  2. Ystod eanfg o gyfleoedd addysg, hyfforddiant a dysgu
  3. Iechyd gorau posibl yn rhydd o gamdriniaeth, erledigaeth ac ecsploetiaeth
  4. Gweithgareddau chwarae, hamdden,  chwaraeon a diwylliannol
  5. Gael eu trin â pharch a chael cydnabyddiaeth i‘w hunaniaeth hiliol a diwylliannol
  6. Cartref a chymuned ddiogel
  7. Heb fod dan anfantais oherwydd tlodi

Bu i ni ymgynghori ar ein cynllun drafft ym misoedd Mai - Gorffennaf 2008 a daeth llawer o bobl i weithdai a / neu anfon ffurflenni ymateb atom.  Rydym wedi cynnwys eu sylwadau a’u syniadau yn y cynllun terfynol lle'r oedd hynny’n bosibl. 

I weld neu i lawrlwytho CPPhI terfynol Wrecsam neu ddogfennau perthnasol cliciwch ar y cysylltiadau. 

Cynllun Plant a Phobl Ifanc

Cynllun Plant a Phobl Ifanc

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Crynodeb) - Fersiwn PDF 1.4Mb

Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cwestiynau Ymgynghori) - Fersiwn PDF 2.4Mb

Cynllunio ar y Cyd i Wella Canlyniadau Deddf Plant 2004: Canllawiau Cynllunio

Cynllunio ar y Cyd i Wella Canlyniadau Deddf Plant 2004: Canllawiau Cynllunio

Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Cynllunio ar y Cyd i Wella Canlyniadau Deddf Plant 2004: Canllawiau Cynllunio - Fersiwn PDF 540KB (cyswllt i'r safle allanol)

Partneriaethau Cryfach i Wella Canlyniadau: Canllawiau ar Gydweithio Lleol o dan Ddeddf Plant 2004 - Fersiwn PDF 204KB (cyswllt i'r safle allanol)

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

yn ôl i'r brig