YSGOL MORGAN LLWYD
“Gweledigaeth eglur o ragoriaeth mewn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg”
Ystod oedran : 11-18+ Nifer disgyblion : tua 800 Myfyrwyr y Chweched Dosbarth : tua 150
Yn eisiau erbyn Ionawr 2013:
PENNAETH CYNORTHWYOL (gyda chyfrifoldeb penodol am CA4) Cyflog : L9-L13 (£44,610 - £49,226)
Yn dilyn dyrchafiad y deilydd presennol i swydd Dirprwy Bennaeth, mae’r llywodraethwyr yn chwilio am berson uchelgeisiol, llwyddiannus a phrofiadol i lenwi’r swydd allweddol hon. Byddwch yn gwbl ymrwymedig i addysg gyfrwng Cymraeg o’r ansawdd uchaf ac yn llwyddiannus wrth weithio i godi safonau disgyblion. Gallwch ddisgwyl gan Ysgol Morgan Llwyd y cyfleoedd gorau posibl am ddatblygiad proffesiynol pellach.
Bwriedir cynnal y cyfweliadau ddydd Gwener, Mehefin 22, 2012 Pecyn ymgeisio ar gael gan Mrs Marie Nicholas, Ysgol Morgan Llwyd, Ffordd Cefn, Wrecsam. LL13 9NG. Ffôn : 01978 315050. Ffacs : 01978 315051. E-bost : bocspost@ysgolmorganllwyd.wrexham.sch.uk Os am wybodaeth pellach neu sgwrs anffurfiol, cysyllter â Mr Huw Foster Evans, Prifathro yn y cyfeiriad uchod. Dyddiad cau : 4.00 p.m, dydd Iau, 14 Mehefin, 2012. |