Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd

Rhyddid Gwybodaeth Cynllun Cyhoeddi

 

Croeso i Ryddid Gwybodaeth Cynllun Cyhoeddi. Mae'r tudalen hwn yn ddarparu canllaw cynhwysfawr am wybodaeth wedi ei cyhoeddi gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Gwybodaeth mwy am Rhyddid Gwybodaeth a gwybodaeth defnyddio am ymgeiswyr.

Rhan1 - Gwyboaeth am Cynllun

Beth yw'r Cynllun Cyhoeddi?

 

A oes rhaid talu am y wybodaeth?

Sut mae'r Cynllun wedi'i Lunio?

 

Ein Cyfrifoldebau Ni

Sut gaiff Gwybodaeth ei Darparu?

 

Cefndir y Cynllun Cyhoeddi

 

Rhan 2 - Gwybodaeth sy'n berthnasol i'r Cyngor i gyd

Llwythwch isod am ran 2 o'r Cynllun Cyhoeddi sydd yn rhoi manylion cyffredinol am y dosbarthiadau o wybodaeth sydd ar gael:

Rhan 2 - Gwybodaeth sy'n berthnasol i'r Cyngor i gyd - Fersiwn MS Word 164Kb

Rhan 2 - Gwybodaeth sy'n berthnasol i'r Cyngor i gyd - Fersiwn PDF 132Kb

Rhan 2 - Gwybodaeth sy'n berthnasol i'r Cyngor i gyd - Fersiwn RTF 318Kb


Defnyddiwch y cyfleuster isod i chwilio y gronfa ddata o ddogfennau penodol sydd ar gael drwy'r Cynllun Cyhoeddi.

Chwilio'r Cynllun Cyhoeddi Chwilio'r Cynllun Cyhoeddi >>

Yn anffodus, nid yw'r dudalen hon ar gael yn Gymraeg.

 

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word


Beth Yw'r Cynllun Cyhoeddi?

Arweiniad i'r wybodaeth y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ei chyhoeddi'n rheolaidd yw'r cynllun. Disgrifiad o'r dosbarthiadau neu'r math o wybodaeth a gyhoeddwn ydyw, yn hytrach na rhestr o ddogfennau penodol, gan y bydd y rhain yn newid gydag amser. Rhydd Rhan 2 o'r cynllun ddisgrifiad o'r dosbarthiadau o wybodaeth. Rydym wedi cyhoeddi'r cynllun er mwyn cydymffurfio ag Adran 19 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae'r cynllun yn rhoi braslun o'r canlynol:

  • y wybodaeth a gyhoeddwn, neu yr ydym yn bwriadu ei chyhoeddi, yn ôl yr arfer
  • sut y bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi
  • pa gostau, os o gwbl, a godir am y wybodaeth

Mae Deddf Diogelu Data 1998 eisoes yn rhoi hawl i unigolion weld gwybodaeth amdanynt eu hunain. O fis Ionawr 2005, bydd y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ymestyn yr hawl hwn i ganiatáu aelodau o'r cyhoedd gael gweld pob math o wybodaeth a gedwir gan awdurdodau lleol. Diben y Cynllun yw sicrhau bod digon o wybodaeth ar gael yn hawdd ac na fydd angen i unigolion wneud cais neilltuol i'w gweld, ac, er mwyn hybu dulliau agored o fewn yr awdurdod lleol.

yn ôl i'r brig

Sut Mae'r Cynllun Wedi'i Lunio?

Mae'r cynllun yn cyfeirio at ddosbarthiadau neu fathau o wybodaeth a gyhoeddwn. Seilir y dosbarthiadau a ddisgrifir yn Rhan 2 ar ddosbarthiadau cyffredinol ac ni ddylai fod angen unrhyw wybodaeth am strwythur yr awdurdod i ddod o hyd i'r ffordd o gwmpas y cynllun. Mae Rhan 2 wedi'i rannu yn 2 adran. Mae Adran A yn cynnwys dosbarthiadau sy'n rhoi gwybodaeth gyffredinol am y Cyngor ac mae Adran B yn amlinellu'r dosbarthiadau sy'n rhoi gwybodaeth am wasanaethau unigol. Wrth baratoi'r cynllun rydym wedi talu sylw i les y cyhoedd ac wedi ystyried ceisiadau poblogaidd am wybodaeth a chwestiynau a ofynnir yn aml.

yn ôl i'r brig

Sut Gaiff Gwybodaeth ei Darparu?

Gellir canfod, a lawr-lwytho, llawer o'r deunydd a restrir yn y cynllun hwn o'n gwefan ( www.wrexham.gov.uk ) neu fel deunydd argraffedig a geir yn ddidrafferth o'r Cyngor. Ein bwriad yw sicrhau bod cymaint â phosibl o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.

Neu, gellir gweld copïau caled o'r wybodaeth yn ein swyddfeydd a/neu'n Llyfrgelloedd, neu drwy wneud cais dros y ffôn neu e-bost fel a nodir yn y disgrifiadau o'r gwahanol ddosbarthiadau o wybodaeth yn Rhan 2.

Mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth sy'n gynwysedig yn y cynllun ar gael yn ddwyieithog yn Saesneg ac yn y Gymraeg. Bydd y deunydd yn cael ei gyfieithu dros gyfnod er mwyn sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn cydymffurfio â'n Cynllun Iaith Gymraeg. Bydd peth o'r wybodaeth yn y cynllun ar gael mewn nifer o ffurfiau os gofynnir amdano e.e. Braille.

yn ôl i'r brig

A Oes Rhaid Talu Am Y Wybodaeth?

Mae'r wybodaeth sy'n gynwysedig yn y cynllun ar gael am ddim, oni nodir yn wahanol. Gellir gweld y wybodaeth am ddim ond mae'n bosibl y bydd yn rhaid talu am lungopïau.

yn ôl i'r brig

Ein Cyfrifoldebau Ni

Lluniwyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ym 1996 yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru. Rydym yn gyfrifol am ddarparu'r holl wasanaethau llywodraeth leol yn y fwrdeistref sirol. Gellir gweld rhestr lawn o'n gwasanaethau yn Nosbarth 1, yr A i Y o Wasanaethau'r Cyngor.

yn ôl i'r brig

Cefndir Y Cynllun Cyhoeddi

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynhyrchu swm anferth o wybodaeth yn ystod ei fusnes dyddiol. Mae llawer o'r wybodaeth yr ydym yn ei chadw yn bersonol ac yn breifat i unigolion ac felly mae wedi'i heithrio o'r cynllun cyhoeddi hwn. Nid yw'r cynllun yn cynnwys gwybodaeth sy'n fasnachol sensitif. Mae'n bosibl bod peth gwybodaeth o fewn rhai dosbarthiadau neilltuol yn eithriedig (h.y. gwybodaeth sy'n dod o fewn Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu ddeddfwriaeth berthnasol arall fel gwybodaeth eithriedig). Lle mae peth gwybodaeth o fewn dosbarth yn eithriedig, bydd y wybodaeth nad yw'n eithriedig o fewn y dosbarth hwnnw ar gael.

Y Prif Swyddog Hamdden, Llyfrgelloedd a Diwylliant sy'n gyfrifol am y Cynllun a chyfrifoldeb yr Archifydd/Rheolwr Cofnodion yw rheoli'r cynllun o ddydd i ddydd. Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun yn eich galluogi i ddod o hyd i wybodaeth yn hawdd. Rydym yn croesawu awgrymiadau am y cynllun a sut y gellid gwella'r wybodaeth neu'r cyhoeddiadau sy'n rhan ohono. Dylid anfon unrhyw gwestiynau, sylwadau neu gwynion am y Cynllun hwn ar bapur at:

Archifydd/Rheolwr Cofnodion
Amgueddfa Wrecsam
Stryt y Rhaglaw
Wrecsam
LL11 1RB

Ffôn: 01978 317976
Ebost: foi@wrexham.gov.uk


Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth yn goruchwylio'r Deddfau Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data ac mae'n gyfrifol am gymeradwyo Cynlluniau Cyhoeddi. Os oes gennych unrhyw broblemau heb eu datrys o ran dod o hyd i wybodaeth o dan ein cynllun, gellir eu cyfeirio at:

Information Commissioner
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545700
Ebost: mail@ico.gsi.gov.uk

 
English
 

Cyswllt i

Beth yw'r Cynllun Cyhoeddi?
Sut Mae'r Cynllun Wedi'i Lupio?
Sut gaiff Gwybodaeth ei Darparu?
A Oes Rhaid Talu Am Y Wybodaeth?
Ein Cyfrifoldebau Ni
Cefndir y Cynllun Cyhoeddi
Chwilio'r Cynllun Cyhoeddi
Cyngor
 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

 


CBSW
Hawlfraint