Os ydych chi’n blentyn neu’n berson ifanc, neu os ydych yn gwybod am blentyn neu berson ifanc, yn ardal Sir y Fflint neu Wrecsam sy’n dioddef camdriniaeth, gallwch gael help drwy ffonio’r Gweithiwr Cymdeithasol ar ddyletswydd ar:

neu drwy edrych ar Gwybodaeth i Blant a Phobl Ifanc / Gwybodaeth i Rieni/Gofalwyr / Gwybodaeth i Weithwyr Proffesiynol uchod.


Croeso i dudalennau gwe Bwrdd Lleol Diogelu Plant Sir y Fflint a Wrecsam. Gobeithio y cewch lawer o wybodaeth ynddynt. Partneriaeth statudol amlasiantaethol yw’r Bwrdd sy’n gyfrifol am gyd-drefnu a monitro effeithiolrwydd gwaith a wneir i ddiogelu plant a phobl ifanc. Mae’n dod â chynrychiolwyr ynghyd o bob un o’r prif asiantaethau sy’n gyfrifol am helpu i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag camdriniaeth ac esgeulustod.

Rydym yn awyddus iawn i glywed eich barn am bolisi ac ymarfer diogelu, felly defnyddiwch Gerdyn post y Bwrdd i gysylltu â ni. Mae’r cardiau post yn galluogi unrhyw aelod o’r system amlasiantaeth, aelodau o’r cyhoedd a phlant a phobl ifanc i godi materion, pryderon a rhoi canmoliaeth ynglŷn â gweithgarwch diogelu i Gadeirydd y Bwrdd.

Julie Gillbanks
Cadeirydd y Bwrdd