|
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am adnoddau sydd ar gael ar y
wefan hon gan gynnwys dulliau symud o gwmpas y safle a chyswllt gyda safleoedd
gyda chyngor hygyrchedd a gwybodaeth am bori'r safle gydag offer darllen
sgrin, yn ogystal â manylion am fysellau mynediad a gwybodaeth am
y porwr ac opsiynau hygyrchedd.
Mae'r dudalen hon ar gael o bob tudalen o wefan Cyngor Wrecsam.
Newyddion: Gwrandewch ar y wefan
Newyddion: Arweiniad i Hygyrchedd Canol Tref Wrecsam
Ynghylch y safle
Er mwyn hyrwyddo Wrecsam fel ardal arloesol a diddorol i fwy, ymweld
a buddsoddi ynddi, mae gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn darparu
ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth am y Cyngor a'i wasanaethau.
Dyluniwyd y wefan i fod yn hygyrch i gymaint o ddefnyddwyr a phosibl,
mae'r tudalennau wedi eu hoptimeiddio a gellid eu gweld orau drwy osod
eich sgrin i 800x600 picsel a defnyddio porwyr fersiwn 4 neu uwch. (Internet
Explorer a Netscape Navigator). Er mwyn cael y gorau o'r delweddau lliw
sydd ar y tudalennau hyn, rydym yn awgrymu eich bod yn defnyddio dyfnder
mwy na 256 o liwiau.
Defnyddio'r Wefan
Gellir symud o gwmpas y wefan drwy ddefnyddio'r dulliau canlynol:
-
Defnyddio dewislen lywio'r cynnwys fel cyswllt i brif rannau cynnwys
y safle, megis y Cyngor neu Hamdden a Thwristiaeth.
-
Defnyddio llywiwr cyffredinol y safle ar y dechrau sydd hefyd ar
ddiwedd pob tudalen:
-
Adref: cyswllt i dudalen hafan Cyngor Wrecsam
-
Cynnwys y Safle: cyswllt i dudalen Cynnwys y Safle sy'n cynnwys amlinelliad
o strwythur y wefan a chyswllt i'r cynnwys
-
Canllaw Mynediad: cyswllt i'r sgrin hon
-
Cysylltwch â ni: cyswllt i'r ffurflen atborth a'r dudalen gysylltu
-
Mae'r mynegai A-Y yn darparu manylion cyswllt Gwasanaethau'r Cyngor
sydd o ddiddordeb i chi yn nhrefn yr wyddor
-
Mae rhai tudalennau gyda dewislen cynnwys ychwanegol sy'n galluogi
i ddefnyddwyr symud at brif adrannau neu destun o ddiddordeb penodol
o fewn y pwnc sydd o dan sylw.
-
Gallwch hefyd cael mynedfa i'r Wefan wrth defnyddio un or cyfeiriadau fyr e.e. www.wrecsam.gov.uk/cynghorydd.
Hygyrchedd
Mae Cyngor Wrecsam yn ymroddedig i wneud eu gwefan mor hygyrch â
phosibl i ddefnyddwyr, gan gynnwys defnyddwyr dall neu brin eu golwg.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw'r awdurdod lleol cyntaf yn y DU i
dderbyn logo Gwefan Glir "Gweld yn Gywir" Cymdeithas Frenhinol
Genedlaethol y Deillion.
Rhoddir y logo gan CFGD (RNIB) i wefannau sydd wedi'u hasesu'n ffurfiol
ganddynt ac sy'n darparu safon hygyrchedd uchel.
Mae dyluniad ein gwefan yn cynnwys nifer o nodweddion hygyrchedd gan
gynnwys:
-
bysellau mynediad
-
cyngor am opsiynau hygyrchedd y porwr
-
cynllun cyffredin drwyddo draw yn hytrach na darparu tudalennau testun
yn unig i ddefnyddwyr ag anableddau, ac yn caniatau newid maint yr
ysgrifen a'i liw i gydweddu ag anghenion y defnyddiwr.
-
sicrhau bod yr holl ddelweddau a ddefnyddir ar ein safle â
disgrifiadau testun addas gwahanol ("ALT texts"), fel sy'n
ofynnol gan ganllawiau cydnabyddedig rhyngwladol
hygyrchedd gwefannau. Mae bysellau llywio graffeg hefyd yn defnyddio
ALT.
-
er mwyn cynorthwyo defnyddwyr testun yn unig a phorwyr sain, rydym
wedi cynnwys cyfleuster hygyrchedd cudd, sy'n galluogi i'r defnyddiwr
'adael' bysellau llywio y brif dudalen (yn hytrach na gorfod pwyso
tab ar ddechrau pob tudalen). Felly, gall y defnyddiwr symud i'r dudalen
gynnwys yn syth.
-
rydym bob amser yn ceisio osgoi defnyddio fframiau ar brif wefan
y cyngor.
-
mae'r wefan hon yn defnyddio ffeil PDF (Adobe Acrobat) ar gyfer argraffu
dogfennau sylweddol neu gymhleth. Nodwch y gellir trosi dogfennau
Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen drwy ddefnyddio
gwasanaeth trosi Adobe ar y we.
- Er mwyn archwilio ac argraffu ffeiliau PDF rhaid i ffeiliau Adobe®
Acrobat® Reader gael eu gosod ar y cyfrifiadur: cliciwch ar y cyswllt
isod i lwytho'r meddalwedd.
cliciwch yr icon hwn i lwytho'r meddalwed
Rydym yn ceisio gwella nodweddion hygyrchedd www.wrexham.gov.uk,
ac yn croesawu eich awgrymiadau a'ch sylwadau.
Os ydych yn profi unrhyw broblemau hygyrchedd neu dechnegol pan yn
defnyddio'r safle, anfonwch ebost at Dîm Datblygu'r Wefan:webmaster@wrexham.gov.uk
neu cwblhewch y ffurflen atborth ar-lein.
|