Internet Explorer
Medrwch nodi maint y ffont, ei harddull a'i lliw a lliwiau cefndir a
thu blaen y tudalennau Gwe ar sgrîn eich cyfrifiadur, hyd yn oed os yw
awdur y dudalen We eisoes wedi eu nodi. Yn ogystal â hyn, medrwch nodi'r
lliw sydd i ddangos y cysylltiadau yn nhudalennau'r We, neu liw a ddefnyddir
yn benodol ar gyfer y cysylltiadau pan fo'r llygoden yn pasio dros y cyswllt.
Mae hyn yn ddefnyddiol os nad yw'ch golwg yn dda, eich bod angen ffontiau
mwy, neu angen lliwiau mewn cyferbyniad eglur. Medrwch osod Internet Explorer
i ddefnyddio'r lliwiau a'r ffontiau a nodwch, eich lliwiau a ffontiau
Windows diofyn, neu'r gosodiadau a nodwch yn eich taflen arddull chi.
Dyma'r ffordd hawddaf o newid y gosodiadau pori: dewis Fonts o'r
ddewislen View yn Internet Explorer 4 neu fersiynau cynharach,
neu ddewis Text Size o'r ddewislen View yn Internet Explorer
5 a chlicio ar faint y testun yr ydych am ei ddefnyddio.
I gael rhagor o reolaeth dros y gosodiadau pori dewiswch Internet
Options o'r ddewislen View yn Internet Explorer 4 neu fersiynau
cynharach, neu'r ddewislen Tools yn Internet Explorer 5.
Mae Internet Options yn eich caniatáu i newid y ffontiau a lliwiau'r
cefndir ac i ddefnyddio eich taflenni arddull eich hun i addasu'r porwr
ymhellach ar gyfer eich anghenion defnyddio.
Netscape
Medrwch nodi pa ffontiau a maint ffontiau y dylid eu defnyddio i ddangos
tudalennau'r we yn eich porwr. Medrwch ddewis symbolau wedi eu hamgodio
hefyd.
-
Agorwch ddewislen Edit a dewiswch Preferences.
-
Agorwch yr Appearance group a chliciwch y categori Ffontiau.
-
Dewiswch gôd i ddweud wrth y cyfrifiadur pa fath o lythrennau a symbolau
i'w defnyddio.
-
Dewiswch eich ffontiau diofyn o'r dewislenni codi Variable Width
Font a Fixed Width Font. (Defnyddir Fixed-width
fonts yn aml i lenwi ffurflenni.)
-
Cliciwch un o'r canlynol:
-
Er mwyn nodi eich bod bob amser am ddefnyddio eich ffontiau diofyn
yn hytrach na'r ffontiau a ddewiswyd gan awdur y ddogfen cliciwch "Use my default fonts, overriding document-specified fonts."
-
Er mwyn nodi bod ffontiau tudalen i'w defnyddio pan fyddant ar
gael heb lwytho i lawr (i arbed amser), cliciwch "Use document-specified
fonts, but disable Dynamic Fonts."
-
Er mwyn nodi bod ffontiau tudalen yn cael eu defnyddio trwy gydol
yr amser, cliciwch "Use document-specified fonts, including
Dynamic Fonts."
Os ydych yn edrych ar dudalennau'r We mewn mwy nag un cynllun amgodio
(e.e. Gorllewinol a Thsieineaidd), medrwch ddewis ffontiau a maint ffontiau
ar gyfer pob côd.
yn ôl i'r Cyfarwyddiadau Mynediad
'W3C Web Accessibility Initiative': y W3C yw'r awdurdod rhyngwladol cydnabyddedig
ar safonau Gwe
access.adobe.com offer defnyddio ar gyfer gweithio gyda ffeiliau PDF
syniadau RNIB ar gyfer dylunio safleoedd Gwe hygyrch
Canllaw Mynediad
|