Sefydlwyd Grÿp Wrecsam Hygyrch gan Gyngor Wrecsam i hyrwyddo gweithio ar y cyd rhwng Cyngor Wrecsam a phobl leol anabl a grwpiau anabledd a mynediad.
Bydd y grÿp yn cyfarfod bob chwe wythnos ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers cael ei sefydlu nifer o flynyddoedd yn ôl ac wedi helpu gwneud nifer o welliannau ar hyd a lled Bwrdeistref Wrecsam.
Cadeirydd y grÿp yw’r Cynghorydd Alun Jenkins gyda chefnogaeth Celia Hart, Rheolwr Cydraddoldeb Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Meddai’r Cynghorydd Alun Jenkins: “Mae Grÿp Wrecsam Hygyrch yn ffynnu diolch i’r grwpiau ac unigolion lleol sy’n dod i’n cyfarfodydd ond gobeithiwn y bydd mwy fyth o bobl yn ymuno â’r grÿp ac yn gweithio efo ni i wella mynediad drwy’r fwrdeistref sirol i gyd er lles holl bobl anabl.”
I gael rhagor o wybodaeth am Grÿp Wrecsam Hygyrch, cysylltwch â Chelia Hart ar 01978 292808 neu e-bostio: equality@wrecsam.gov.uk
Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn Neuadd y Dref, Wrecsam bob chwe wythnos.
Bydd cyfarfodydd yn dechrau am 11.00am ac yn para ryw ddwyawr.
Gwnawn bob ymdrech i sicrhau bod cyfarfodydd yn groesawus, yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb. Rydym yn hapus i drefnu cymorth cyfathrebu a gallwn ddarparu gwybodaeth mewn dewis o ffurfiau hygyrch. Cysylltwch â’r Rheolwr Cydraddoldeb os hoffech fynychu cyfarfod.
Mae dyddiadau 2010 fel a ganlyn:
Mae Grÿp Wrecsam Hygyrch yn tynnu ynghyd ac yn ymwneud â Rhanddeiliaid, Partneriaid a swyddogion allweddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a fydd yn gweithio fel partneriaid i wneud Wrecsam yn dref hygyrch. Nod y grÿp yw cynorthwyo’r Cyngor ateb gofynion Deddf Anffafrio’r Anabl 1995 a Dyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl sydd yn Neddf Anffafrio’r Anabl 2005.
Bydd Grÿp Wrecsam Hygyrch yn gwneud y canlynol: