Mae cyfle i hysbysebu ar wefan Cyngor Wrecsam a’r fewnrwyd i staff i fusnesau a sefydliadau addas.

Bydd dros 2 filiwn o bobl yn ymweld â Wrecsam.gov.uk bob blwyddyn. Mae hyn, nghyd a’r gwasanaethau a ddarperir ar y wefan yn ei wneud yn ddull pwerus i sefydliadau lleol a chenedlaethol i hyrwyddo eu hunain i bobl Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Pam y byddwn yn cynnig hysbysebu ar ein gwefan?

  • Er mwyn sianelu ymgyrch hysbysebu cenedlaethol i Wrecsam ac yn ddiweddarach ei ail-fuddsoddi er mwyn gwella ein gwefan a’r amrywiaeth o wasanaethau sy’n cael eu cynnig arni.
  • Er mwyn cynnig dull marchnata pwerus i fusnesau a’r economi lleol.
  • Er mwyn cynnig sianel ymgysylltu a chyfathrebu i’r cyhoedd lleol a sefydliadau’r trydydd sector.

Mae Wrecsam yn defnyddio Rhwydwaith Hysbysebu’r Cyngor (CAN) i hysbysebu ar ei wefan a’i fewnrwyd.  Mae Rhwydwaith Hysbysebu’r Cyngor (CAN) yn rhwydwaith o awdurdodau lleol sy’n cynhyrchu incwm o hysbysebu a ddaw o ffynhonnell briodol yn eu hystadau digidol.

Os ydych am hysbysebu ar ein gwefan ac yr hoffech ragor o wybodaeth anfonwch CAN local (dolen gyswllt allanol).

Hysbysebu

Mae Rhwydwaith Hysbysebu'r Cyngor yn gyfrifol am gyflwyno hysbysebion ar wefan Cyngor Wrecsam. Cymerwch eiliad i ddarllen eu polisi preifatrwydd sy'n cynnwys gwybodaeth am cwcis a manylion ar sut i eithrio CAN preifatrwydd gwefan (dolen gyswllt allanol).

Sut y gallwch chi reoli cwcis hysbysebu (eithrio)

Os nad ydych am i ni gasglu'ch data nad yw'n bersonol am unrhyw reswm, gallwch chi eithrio ar YourOnlineChoices.com (dolen gyswllt allanol). Os byddwch chi'n dewis eithrio, byddwch yn dal i weld hysbysebu ar y rhyngrwyd. Fodd bynnag, mae'n golygu na chaiff yr hysbysebu a welwch ar wefannau ei deilwra i'ch diddordebau neu'ch hoffterau tebygol ar y porwr gwe rydych chi'n ei ddefnyddio ar hyn o bryd.

Os ydych chi'n ymweld â'r wefan hon o Ogledd America ac eisiau eithrio, awgrymwn eich bod yn ymweld â'r Cynghrair Hysbysebu Digidol ac yn dilyn y cyfarwyddiadau eithrio (dolen gyswllt allanol).

Gallwch hefyd ddefnyddio Gosodiadau Google Ads (dolen gyswllt allanol) i reoli'r hysbysebion Google rydych chi'n eu gweld a pheidio â dewis Ads. Hyd yn oed os byddwch yn gwrthod Peilysu Ads, efallai y byddwch yn dal i weld hysbysebion yn seiliedig ar ffactorau fel eich lleoliad cyffredinol sy'n deillio o'ch cyfeiriad IP, eich math o borwr, a'ch termau chwilio.

Canllawiau Hysbysebu ar Wefan

Fel rhan o nod hirdymor y Cyngor i leihau costau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (“y Cyngor”) wedi caniatáu hysbysebion a reolir ar ei wefan sef  www.Wrecsam.gov.uk. Bydd unrhyw incwm a gynhyrchir o’r hysbysebion ar y safle yn cael ei ddefnyddio i gymorthdalu cadw a datblygu’r safle’n gyffredinol.

Egwyddorion Cyffredinol

Bydd hysbysebu ar y safle yn cael ei gydlynu er mwyn sicrhau ei fod yn cydweddu â phrif bwrpas ac ymarferoldeb y wefan. 

Mae pob  hysbyseb yn destun cymeradwyaeth cyn ei osod ar wefan y Cyngor.  Bydd y Cyngor yn cadw’r hawl i wrthod hyrwyddo neu dynnu unrhyw hysbyseb unigol, sy’n cael ei ystyried yn anaddas ym marn y Cyngor. Gellir gwirio addasrwydd yr hysbysebwyr unigol gan Adran Safonau Masnach y Cyngor.

Rhaid i bob hysbyseb gydymffurfio â chod ymarfer yr Awdurdod Safonau Hysbysebu ac ni ddylent fynd yn erbyn ag egwyddorion ac amcanion y Cyngor.  Mae Cod yr Awdurdod Safonau Hysbysebu yn cynnwys darpariaethau sy’n marchnata cyfathrebiadau:

  • Rhaid iddynt fod yn gyfreithiol, yn wir, yn weddus, a gonest
  • Ni ddylai ddod ag anfri ar hysbysebu, ac ni ddylai ddod ag anfri ar y Cyngor ychwaith.
  • Rhaid iddo gydymffurfio â’r Cod.
  • Rhaid iddo barchu egwyddorion cystadleuaeth deg
  • Bydd hysbysebion hefyd yn destun Cod Ymarfer Arferion Cyhoeddusrwydd Llywodraeth Leol a gofynion yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

Ni ddylai unrhyw hysbyseb ar wefan y Cyngor gael ei ystyried fel cymeradwyaeth swyddogol neu argymhelliad i brynu/defnyddio nwyddau neu wasanaethau’r hysbysebwr.

Nid yw'r Cyngor yn gyfrifol am safon na dibynadwyedd y nwyddau neu wasanaethau a gynigir mewn unrhyw hysbyseb.  Ni fydd y Cyngor yn dangos hysbyseb sy’n gamarweiniol, yn anwir, sarhaus neu’n dwyllodrus yn fwriadol. Nid yw Cyngor Wrecsam yn cefnogi nac yn cymeradwyo unrhyw gwmni neu sefydliad sy’n hysbysebu ar ei wefan.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn cyfrifoldeb am gamgymeriadau, esgeulustod neu unrhyw achos sy’n codi o ganlyniad i wefannau trydydd parti pan fydd y ddolen hysbysebu yn cael ei dilyn.