|
Mae’n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyflwyno cyfleusterau sy’n ei gwneud yn haws i chi ddefnyddio ein gwefan sydd wedi ennill gwobrau os oes gennych anawsterau darllen.
Erbyn hyn, mae’n bosibl ‘gwrando ar ein gwefan’ trwy ddefnyddio’r ddau ddull canlynol:
ReadSpeaker
I’ch helpu i ddefnyddio ein gwefan, defnyddiwn feddalwedd ReadSpeaker XT. Bydd y meddalwedd hwn – pan fydd yn cael ei actifadu – yn darllen cynnwys a chysylltiadau tudalen we allan yn uchel, gan gynnwys dogfennau mewn fformatiau PDF a Word.
Gwrandewch ar y wefan hon gyda Readspeaker
Gyda ReadSpeaker XT, nid oes raid i chi lawrlwytho, gosod na phlygio meddalwedd i mewn a bydd yn gweithio ar y rhan fwyaf o gyfrifiaduron, gan gynnwys PC/Windows, Mac, Linux a SUN. Mae ReadSpeaker XT yn cefnogi’r rhan fwyaf o borwyr, gan gynnwys Internet Explorer (IE), Netscape, Opera, Safari, Mozilla a Lynx.
Yr unig bethau sydd eu hangen arnoch yw cyswllt byw â’r rhyngrwyd, porwr ac unedau sain (neu bensetiau). Bydd ReadSpeaker XT yn gweithio ar gysylltiadau arafach (modem 33k ac uwch).
Sut i actifadu ReadSpeaker XT
- Gwrandewch ar y wefan hon gyda ReadSpeaker trwy glicio ar y botwm ReadSpeaker XT - bydd bar llywio’n ymddangos ar ben y dudalen.
- Dewiswch opsiwn; darllen y testun, darllen y cysylltiadau neu stopio (gweler isod).
- Sicrhewch fod y sain wedi ei droi i fyny. Gallwch weld cysylltiadau cyflym y bysellfwrdd mewn cromfachau.
Cyfarwyddiadau Ar Gyfer Defnyddio Readspeaker
Mae ReadSpeaker yn gyfleuster gweinydd sy'n galluogi gwefannau i lefaru. Nid yw'n disodli darllenwyr sgrin ond mae'n cefnogi pobl sy'n ei chael hi'n anodd darllen ac nad yw'r offer ganddynt i'w helpu.
| Botymau |
Eglurhad |
Bysellau Alt |
 |
Mae'n darllen cynnwys testun y dudalen. Gallwch hefyd ddewis testun drwy ei oleuo cyn clicio "Darllen Testun" a dim ond y testun rydych wedi'i oleuo y bydd yn ei ddarllen. Mae hi'n bosibl newid y ffordd y caiff ei ddarllen dan "Gosodiadau". |
Alt + T |
 |
Mae'n stopio'r darllen |
Alt + X |
 |
Yma gallwch newid y ffordd y mae ReadSpeaker yn gweithio. |
Alt + I |
 |
Mae'n dangos y dudalen help. |
Alt + H |
 |
Cau ReadSpeaker. Caiff y dudalen ar y sgrin ei hail-lwytho ond heb ReadSpeaker. |
Alt + Z |
Gwrando ar dudalennau gyda ReadSpeaker
Gall ReadSpeaker ddarllen y dudalen we mewn amryfal ffyrdd:
- Gallwch ddewis testun drwy ei oleuo, clicio'r botwm "Darllen Testun" a dim ond y testun rydych wedi'i oleuo y bydd ReadSpeaker yn ei ddarllen.
- Os nad ydych wedi dewis testun, bydd ReadSpeaker yn darllen yn ôl y dewisiadau rydych wedi'u nodi dan "Gosodiadau". Yn fan honno gallwch ddewis a ydych chi am i'r botwm "Darllen Testun" ddarllen y testun yn unig, darllen y dudalen gyfan gan gynnwys y dolenni ynteu ddarllen fesul adran.
- Os ydych wedi dewis eich bod am wrando ar un adran ar y tro, bydd yr adran wedi'i goleuo wrth iddi gael ei darllen. Er mwyn darllen yr adran nesaf, cliciwch y botwm "Darllen Testun" eto.
^ yn ôl i'r brig
Browsealoud
Mae'r gwasanaeth Browsealoud yn gallu darllen tudalennau gwe yn y Saesneg yn unig. Os ydych yn dymuno defnyddio'r gwasanaeth hwn, ewch yn ôl i'r wefan Saesneg.
Rydym wedi ymuno â Texthelp Systems i gynnig gwasanaeth sy'n rhoi cyfle i'n hymwelwyr wrando ar wrecsam.gov.uk. Yr unig beth sy'n rhaid i chi ei gwneud yw gosod y meddalwedd Browsealoud rhad ac am ddim drwy ddilyn y camau isod.
Mae Browsealoud yn borwr Windows a gynlluniwyd ar gyfer Internet Explorer 4 ac uwch neu Netscape Navigator. Gallwch reoli'r llais, y tôn a'r cyflymdra. Pan fyddwch yn sgrolio'r testun ar y wefan, bydd browsealoud yn darllen ac yn siarad.
Cyn i chi osod y meddalwedd, gallwch gael mwy o wybodaeth drwy fynd i wefan Browsealoud.
Cam 1
I osod y meddalwedd, cliciwch ar y cyswllt ac ewch i wefan BrowseAloud.

Cam 2
I osod browsealoud, mae gennych ddau opsiwn:
Cliciwch y cyswllt 'DOWNLOAD Interactive Installation' ar y wefan, dewiswch 'Save'. Unwaith i'r ffeil hon gael ei lawrlwytho, cliciwch 'Open' i ddechrau gosod.
Cliciwch y cyswllt 'DOWNLOAD Single Installation File' a dewiswch 'Save'. Unwaith i'r ffeil gael ei lawrlwytho, cliciwch 'Open' i ddechrau gosod.
* Mae maint y lawrlwythiad yn dibynnu ar gyfluniad eich cyfrifiadur. Mae angen cysylltu â'r rhyngrwyd er mwyn gosod y meddalwedd hwn.
Defnyddio Browsealoud
Lleferydd
Gallwch newid tôn, cyflymdra a sain y cyfleuster lleferydd. Symudwch y llithrydd i'r chwith neu i'r dde hyd nes i chi gael y sain sydd orau gennych.
Gallwch ddewis llais dyn neu ferch.

Ynganiad
Gallwch ychwanegu geiriadur o eiriau a sut i'w hynganu yn y darn hwn. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer geiriau anodd, yn enwedig geiriau ac enwau Cymraeg, y bydd Browsealoud yn ei chael hi'n anodd eu hynganu.

Diweddariadau
Gallwch ddiweddaru eich gwybodaeth yn rheolaidd yn y darn hwn. Mae dewisiadau i lawrlwytho mwy o leisiau, diweddaru'r meddalwedd, ayb a chyfle i ddiweddaru eich rhestr o wefannau y gall Browsealoud fynd atynt.

Amrywiol
Mae'r darn hwn yn caniatáu i chi benderfynu sut ddylai Browsealoud weithio gyda'ch cyfrifiadur a sut mae'n gweithio wrth fynd i wefannau eraill.
|