Ein nod yw rhoi gofal o’r radd flaenaf i’r cwsmer.
Byddwn yn ei gwneud yn hawdd i chi gysylltu â ni a byddwn yn rhoi gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol bob amser. Ein nod yw sicrhau y bydd yr un cyntaf y byddwch yn siarad ag ef neu hi yn datrys eich ymholiad. Os nad yw’n gallu eich helpu chi byddwn yn dod o hyd i’r un iawn a fydd yn gallu helpu. Byddwn yn gosod safonau a byddwn yn dweud wrthych sut yr ydym yn cyflawni’r safonau hynny.
Pa fodd bynnag y byddwch yn cysylltu â ni, gallwch ddisgwyl y byddwn:
- Yn gwrando ar eich ymholiad
- Yn egluro’r hyn y gallwn ei wneud i helpu neu ddod o hyd i rywun sy’n gallu eich helpu chi
- Egluro’r hyn fydd yn digwydd nesaf
- Dweud wrthych ba bryd y gallwch chi ddisgwyl derbyn y gwasanaeth
- Croesawu adborth ynghylch y gwasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn
Pan fyddwch yn cysylltu ag un o’n gwasanaethau ar y ffôn, ein nod fydd cyflawni’r safonau canlynol:
- Fel arfer byddwn yn ateb eich galwad o fewn 15 eiliad neu 5 caniad
- Byddwn yn rhoi ein henw ac enw’r gwasanaeth yr ydych wedi cysylltu ag ef
- Byddwn yn ateb eich galwad gyda chyfarchiad yn Gymraeg ac yn Saesneg
- Byddwn yn ymateb i’ch ymholiad yn Gymraeg os gallwn neu byddwn yn trosglwyddo eich galwad i gydweithiwr sy’n siarad Cymraeg
- Byddwn yn sicrhau bod pob un o’n rhifau ffôn sydd wedi eu cyhoeddi ar gael rhwng 8.30 a 5.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener
- Byddwn yn rhoi rhifau ffôn y gallwch chi eu galw mewn argyfwng ar wahân i’r oriau hynny
Pan fyddwch yn cysylltu ag un o’n gwasanaethau drwy’r E-bost, ein nod fydd cyflawni’r safonau canlynol:
- Byddwn yn cydnabod eich e-bost o fewn 24 awr
- Byddwn yn rhoi ein henw ac enw’r gwasanaeth yr ydych wedi cysylltu ag ef
- Byddwn yn ymateb i’ch e-bost yn Gymraeg os ydych chi wedi cysylltu â ni yn Gymraeg
- Byddwn fel arfer yn rhoi ymateb llawn i’r e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith
- Os na fedrwn ni roi ateb llawn i’ch ymholiad o fewn 5 diwrnod gwaith byddwn yn rhoi gwybod i chi pa bryd y gallwch ddisgwyl ymateb.
Pan fyddwch yn ymweld ag un o’n Swyddfeydd, ein nod fydd cyflawni’r safonau canlynol:
- Bydd pob un o’n derbynfeydd yn hygyrch, croesawus a glan
- Bydd y gweithwyr yn gwisgo bathodyn enw
- Os oes apwyntiad gennych byddwch yn cael eich gweld ar amser fel arfer
- Os nad oes apwyntiad gennych, byddwn yn ceisio eich gweld o fewn 6 munud
- Byddwn yn darparu ystafelloedd cyfweld preifat
Safonau Gofal Cwsmer
Safonau Gofal Cwsmer – Ffersion PDF 199Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.
yn ôl i'r brig