Deddf Diogelu Data
Dan Ddeddf Diogelu Data, mae gennym gyfrifoldeb gyfreithiol
i ddiogelu unrhyw ddata a gyflwynir gennych.
Fel rhan o gyflwyno gwasanaethau a gwybodaeth trwy'r wefan
hon, efallai bydd angen prosesu gwybodaeth bersonol. Gellir cadw'r wybodaeth
hon ar ffeiliau ysgrifenedig neu ar gyfrifiadur ac fe'i defnyddir i gyflwyno
gwasanaethau'r Cyngor. Dim ond y wybodaeth leiaf a ofynnir amdani a'i
chadw, a chaiff ei chadw dim ond tra bo'i hangen.
Caiff gwybodaeth a gesglir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
ei storio a'i phrosesu mewn databasau ym meddiant Cyngor Bwrdeistref Sirol
Wrecsam yn unig.
Ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth bersonol chi, a geir trwy
gyfrwng y wefan, i gwmnïau eraill nac i unigolion oni ofynnir am
hynny dan y gyfraith.
yn ôl i'r brig
Gwarchod Data - Dogfen Bolisi
Gwarchod Data - Dogfen Bolisi
Mae'r ddogfen yma gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Gwarchod Data - Dogfen Bolisi - Fersiwn Word 48Kb 
Gwarchod Data - Dogfen Bolisi - Fersiwn PDF 122Kb 
Gwarchod Data - Dogfen Bolisi - Fersiwn Testun Plaen 138Kb 
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
|
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

|
yn ôl i'r brig
Cofrestr Diogelu Gwybodaeth
Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gorff
sy'n prosesu gwybodaeth bersonol yn hysbysu'r Comisiynydd Gwybodaeth o'r
hyn y maent yn ei wneud.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cofrestru'r gwaith prosesu
perthnasol gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae'r gofrestr i'w gweld
ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.
Mae'r gofrestr yn dangos beth y mae corff neu unigolyn wedi ei gofrestru
i'w wneud. Nid yw'n datgelu os yw'n cadw gwybodaeth bersonol ar berson
penodol.
Os ydych eisiau copi o'r gofrestr, cysylltwch gyda:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Ffôn: (01625) 545 745
Ffacs: (01625) 524510
Mae copïau papur o gofnodion unigol ar y gofrestr ar gael o Swyddfa'r
Comisiynydd Gwybodaeth, yn rhad ac am ddim (mae ffi fechan yn daladwy
am gopïau wedi eu tystysgrifo).
yn
ôl i'r brig
Cysylltiadau
Gweler hefyd ein Polisi Preifatrwydd, yr
Ymwadiad Cyffredinol a gwybodaeth ar Ryddid
Gwybodaeth.
|