Mae Cyngor Wrecsam yn ymroddedig i gyfle cyfartal i bawb.
Rydym yn ymroddedig i wneud cydraddoldeb yn realiti wrth ddarparu gwasanaethau, yn ein rôl fel cyflogwr ac fel arweinydd cymunedol allweddol.
Mae Cyngor Wrecsam yn ymroddedig i gyfle cyfartal i bawb.
Rydym yn ymroddedig i wneud cydraddoldeb yn realiti wrth ddarparu gwasanaethau, yn ein rôl fel cyflogwr ac fel arweinydd cymunedol allweddol.
Credwn fod gan bawb yr hawl i gael eu trin yn deg, ag urddas a pharch ac ni fyddwn yn gwahaniaethu ar sail oedran, rhyw, anabledd, hil, gogwydd rhywiol na chrefydd a chred.
Rydym yn ymroddedig i ddatblygu gweithlu sy’n adlewyrchu’r gymuned leol yn gyffredinol a byddwn yn sicrhau bod pob ymgeisydd am swydd yn cael triniaeth deg a chyfartal. Gwerthfawrogwn amrywiaeth yn ein gweithlu a phenodwn ar deilyngdod yn unig. Ni fyddwn yn gwahaniaethu ar sail hil, rhyw, anabledd, oedran, crefydd a chred na gogwydd rhywiol.
Anelwn at greu amgylchedd gwaith positif sy’n rhydd o aflonyddwch a gwahaniaethu a lle anogir pobl i gyflawni eu potensial go iawn. Rydym yn gweithio tuag at wella ein gwasanaethau’n barhaus a’r ffordd y darperir nhw er mwyn sicrhau y bodlonir anghenion pobl leol.
Rydym yn ymroddedig i weithio gyda’n partneriaid a chymunedau lleol i ddatblygu ymdeimlad o berthyn i Fwrdeistref Sirol Wrecsam.
Daw Deddf Cydraddoldeb 2010 i fod yn un Ddeddf yn unig yn lle’r deddfau presennol yn erbyn gwahaniaethu. Mae’n symleiddio’r gyfraith, gan ddileu anghysondebau a’i gwneud yn haws i bobl ei deall a chydymffurfio â hi. Mae hi hefyd yn cryfhau’r gyfraith ar sawl gwedd bwysig er mwyn helpu i fynd i’r afael â gwahaniaethu a chydraddoldeb.
Daw’r rhan fwyaf o’r Ddeddf Cydraddoldeb i rym y 1 Hydref 2010. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ymrwymo i gydraddoldeb a thegwch ac mae’n croesawu’r deddfau newydd. Rydym ar hyn o bryd yn adolygu ein polisïau a chynlluniau cydraddoldeb er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni holl ofynion y gyfraith.
Mae’r Ddeddf newydd yn cynnwys amrywiaeth o hawliau, pwerau a rhwymedigaethau newydd a fydd yn gymorth yn yr ymgyrch tuag at gydraddoldeb, yn cynnwys mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sy’n deillio o’r fan lle cawsoch eich geni a gwaith eich rhieni.
Mae’r Ddeddf newydd yn cryfhau cyfreithiau cydraddoldeb y DU:
Fe gewch fwy o wybodaeth am y Ddeddf newydd trwy ddilyn y dolenni isod:
Mae nifer o sesiynau hyfforddi hanner diwrnod wedi eu trefnu ar gyfer dydd Iau’r 2 Medi, dydd Gwener y 10 Medi a dydd Gwener y 24 Medi. I gadw lle, cysylltwch ag Adam Morris ar 01978 298370.
Fe gewch fwy o wybodaeth am ddull y Cyngor o ymdrin â chydraddoldeb ac amrywiaeth trwy e-bostio equality@wrexham.gov.uk neu ffonio Rheolwr Cydraddoldeb y Cyngor ar 01978 292808
Rhwng 1991 a 2001, gwelwyd cynnydd cyffredinol o 4% ym mhoblogaeth Wrecsam. Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd poblogaeth Wrecsam yn 128,500. Mae oddeutu traean o’r boblogaeth gyfan yn byw yng nghanol Wrecsam ac mae’r ddwy draean arall yn byw yn ardaloedd allanol y fwrdeistref.
Mae Cyfrifiad 2001 yn dweud wrthym fod 2.6% o’r boblogaeth wedi nodi eu hunain fel rhywbeth heblaw am "Gwyn Prydeinig". O’r rhain, daw 1.1% o grwpiau ethnig lleiafrifol megis unigolion croenddu, Asiaidd, Tsieineaidd a chefndir cymysg. Fodd bynnag, nid yw’r Cyfrifiad yn adlewyrchu gwir faint yr amrywiaeth gan nad yw sawl grŵp – megis sipsiwn, teithwyr, ceiswyr noddfa, ffoaduriaid, gweithwyr ymfudol a myfyrwyr tramor – yn cael eu cynnwys. Mewn gwirionedd, mae’r boblogaeth ethnig yn llawer mwy na’r hyn a awgrymir gan y Cyfrifiad.
Mae ceisiadau am gyfieithu a gweithio gyda phartneriaid yn dweud wrthym fod sawl iaith wahanol yn cael eu siarad yn Wrecsam gan gynnwys Saesneg, Cymraeg, Pwyleg, Rwseg, Portiwgaleg, Arabeg, Tsieinëeg, Bangla, Wrdw, Hindi, Sorani, Ffrangeg, Tigrinia, Somali a Farsi.
Yn ôl ffigyrau’r Gofrestr Anableddau ar gyfer 2003/2004, mae pobl anabl yn cwmpasu rhyw 1.6% o’r boblogaeth gyfan.
Er nad oes unrhyw ffigyrau sy’n mesur y boblogaeth yn ôl gogwydd rhywiol, amcangyfrifwn fod oddeutu un allan o ddeg unigolyn yn y DU yn lesbiaid, yn ddynion hoyw neu’n ddeurywiol.
Arferir sawl ffydd yn Wrecsam. Mae canol y dref yn gartref i bron i 30 o fannau addoli gwahanol. Y grŵp ffydd mwyaf yw’r ffydd Gristnogol. Mae eraill yn cynnwys Moslemiaeth, Bwdhistiaeth, Iddewiaeth a Hindŵaeth.
Monitro cydraddoldeb yw’r broses a ddefnyddir i gasglu, cadw a dadansoddi data am gefndiroedd pobl. Heb fonitro cydraddoldeb, ni fyddem yn gwybod a yw ein polisïau a chynlluniau cydraddoldeb yn gweithio ac a yw pob grŵp yn cael eu trin yn deg.
Pwrpas monitro cydraddoldeb yw ein helpu i amlygu anghydraddoldebau posibl, ymchwilio i’r achosion ac adnabod camau i’w cymryd i gael gwared ar unrhyw annhegwch neu anfantais. Mae’n ein helpu hefyd i ddeall a yw’n polisïau a gweithdrefnau’n gweithio ac yn hybu cyfle cyfartal i bawb.
Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gwelwn monitro fel rhan o broses gyfredol o ddadansoddi, gofyn cwestiynau, ymchwilio a gwneud newidiadau sy’n gwella ansawdd bywyd pawb yn Wrecsam yn barhaus.
Casglwn wybodaeth am grwpiau hiliol, rhyw ac anableddau trwy ofyn i bobl, megis ymgeiswyr swyddi, gwblhau holiadur byr.
Mae cadw golwg ar gydraddoldeb mewn cyflogaeth yn helpu i ni reoli amrywiaeth ein gweithlu a deall sut mae ein polisïau a gweithdrefnau cyflogi’n effeithio ar wahanol grwpiau. Mae dadansoddi’r wybodaeth hon yn helpu i ni sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg ac yn unol â’n polisi cydraddoldeb.
Mae monitro cydraddoldeb darpariaeth gwasanaeth yn ein helpu i ddeall pa grwpiau sy’n defnyddio ein gwasanaethau. Trwy gymharu’r canlyniadau, gallwn benderfynu a yw’r lefelau bodlonrwydd mewn perthynas â gwasanaeth yr un fath ar gyfer pawb. Mae’n dweud wrthym hefyd os ydym yn cyrraedd grwpiau a dangynrychiolir ac os yw’n gwasanaethau’n berthnasol i’w hanghenion ac yn cael eu darparu’n deg.
Monitro cydraddoldeb a’r gyfraith
Mae Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygiad) 2000) yn ei gwneud yn ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i gael gwared ar wahaniaethu hiliol anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal a hybu perthynas dda rhwng pobl o wahanol grwpiau hil.
Mae monitro cydraddoldeb, sy’n ofynnol dan y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygiad), yn cwmpasu cyflogaeth a’r ddarpariaeth o bolisïau a gwasanaethau.
Gofynnir i’r Cyngor gyhoeddi canlyniadau bob blwyddyn. Mae monitro cydraddoldeb yn destun y Ddeddf Gwarchod Data.
Monitro Cydraddoldeb 2005-06
Mae'r ddogfen yma ar gael i ddadlwytho yn y fformat isod:
Monitro Cydraddoldeb 2005-06 - Fersiwn Word 154Kb ![]()
Monitro Cydraddoldeb 2005-06 - Fersiwn PDF 618Kb ![]()
Monitro Cydraddoldeb 2005-06 - Fersiwn RTF 421Kb ![]()
|
I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe. |
I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd. |
Mae’r ddeddf hon yn gosod dyletswydd statudol ar y Cyngor i fonitro gweithwyr, ymgeiswyr swyddi, ymgeiswyr dyrchafiadau a hyfforddiant yn ôl grwpiau hil. Yn ogystal, gofynnir i ni fonitro’r rhai sy’n derbyn hyfforddiant, sy’n manteisio neu sy’n dioddef anfantais o ganlyniad i asesiadau perfformiad, sy’n rhan o achosion achwyn, sy’n destun achos disgyblu ac sy’n rhoi’r gorau i weithio gyda’r Cyngor yn ôl grwpiau hil.
Rhaid i’r Cyngor osod allan yn ei Gynllun Cydraddoldeb Hiliol sut bydd yn monitro effaith pob polisi a fabwysiedir neu a fwriedir eu mabwysiadu ar hybu cydraddoleb hiliol a sut gallai effeithio ar wahanol grwpiau hil. Mae hyn yn berthnasol i’r holl swyddogaethau a pholisïau sy’n berthnasol i’r ddyletswydd gyffredinol. Gallwch gael gwybod mwy am hyn yn y darn am asesiadau effaith.
Addysg
Rhaid i ysgolion asesu effaith eu holl bolisïau ar ddisgyblion, staff a rhieni o wahanol grwpiau hil. Rhaid iddynt fonitro’r ffordd y mae eu polisïau’n gweithio a rhoi pwyslais arbennig ar lefelau cyflawniad disgyblion.
Mae asesiad effaith yn broses lle gwneir asesiad strwythuredig i weld a yw amcanion swyddogaeth neu bolisi, gan gynnwys sut y darperir neu y gweithredir nhw, yn gallu arwain at driniaeth lai ffafriol i rai grwpiau.
Mae gwneud asesiadau effaith yn rhan o’r dyletswyddau cyfreithiol a osodir allan yn y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygiad). Dan y ddeddf hon, rhaid i’r Cyngor ystyried sut mae ei swyddogaethau a pholisïau, gan gynnwys sut y darperir nhw, yn effeithio ar wahanol grwpiau hiliol. Mae asesiad effaith yn gam rhagweithiol yn bennaf ac yn fesur ataliol i osgoi gwahaniaethu neu annhegwch cyn iddynt ddigwydd. Nid yw’n rhywbeth a wnawn unwaith y mae polisi newydd yn cael ei ysgrifennu. Mae’n rhan o’r broses o ddatblygu polisi ac mae’n effeithio ar sut rydym yn cynllunio ein gwasanaethau.
Mae asesiadau effaith yn ffordd hanfodol o helpu’r Cyngor i wella gwasanaethau a chael canlyniadau gwell i bawb yn Wrecsam. Er bod gofyn i ni asesu’r effaith ar grwpiau hiliol yn unig yn ôl y gyfraith, rydym wedi estyn ein hymagwedd i gynnwys nifer o linynnau eraill o gydraddoldeb, gan gynnwys oedran, rhyw, anabledd, gogwydd rhywiol a chrefydd a chred.
Mae asesiadau effaith yn helpu’r Cyngor i:
Y broses o asesu effaith
Gwneir asesiadau effaith yn raddol:
Lle nodir gwahaniaethu neu arfer annheg, byddem yn ystyried y camau i’w cymryd i wella’r polisi neu’r swyddogaeth. Byddai’r camau hyn yn cael eu cofnodi mewn cynllun gweithredu. Byddai ymgynghoriad yn cael ei wneud cyn gweithredu unrhyw newidiadau mawr.
Yn dilyn yr asesiad effaith, cyflwynir systemau monitro i sicrhau bod y newidiadau’n cyflawni eu canlyniadau dymunol.
Rydym yn cydnabod bod gan ein cwsmeriaid wahanol anghenion a gallwn gynnig nifer o ddewisiadau am ddim i sicrhau y gall pawb gael gafael ar wybodaeth a chyfathrebu â ni.
Mae gan staff derbynfeydd amrywiaeth o gyfarpar ar gael i helpu pobl â nam gweld – gan gynnwys dalennau mwyhau a blociau arwyddo
Sefydlwyd Grÿp Wrecsam Hygyrch gan Gyngor Wrecsam i hyrwyddo gweithio ar y cyd rhwng Cyngor Wrecsam a phobl leol anabl a grwpiau anabledd a mynediad.
Gallwch gysylltu â’r Cyngor trwy ysgrifennu atom, ein ffonio, anfon ebost neu ffacs neu os oes gennych ffôn destun, gallwch ffonio prif dderbynfa’r Cyngor ar y ffôn minicom. Bydd y sawl sydd ar y dderbynfa’n hapus i gymryd neges a chyfleu hon i’r unigolyn priodol. Fel arall, gallwch gysylltu â’ch dewis adran yn uniongyrchol trwy ddefnyddio Typetalk, y gwasanaeth cyfleu negeseuon, trwy ddeialu’r rhifau 18001 a dilyn hyn gan y rhif ffôn llawn gan gynnwys y côd lleol.
Gallwch fynd i wefan y Cyngor i gael mwy am wasanaethau’r Cyngor. Mae ar gael mewn sawl iaith wahanol a chynlluniwyd hi trwy ddefnyddio safonau a osodwyd allan gan yr RNIB (Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol y Deillion).
Cysylltwch â Rheolwr Cydraddoldeb, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ar 01978 292808.
Helpwch ni i’ch helpu chi
O bryd i’w gilydd, byddwn yn gofyn i chi am farn a syniadau ac yn ymgynghori â chi am ein cynlluniau. Mae atborth yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu ein gwasanaethau ac mae’n ein helpu i sicrhau bod ein gwasanaethau’n bodloni anghenion cwsmeriaid. Os hoffech rannu eich barn neu wneud awgrym, rhowch wybod i ni. Os bydd angen unrhyw gymorth neu gefnogaeth arnoch wrth ddefnyddio ein gwasanaethau, gofynnwch i aelod o staff.