Cyfarwyddiadau i Wrecsam

Wrecsam yw prif dref Gogledd Cymru. Lleolir Wrecsam ychydig filltiroedd yn unig o ffin Cymru/Lloegr ac fe'i cydnabyddir yn eang fel prif ddinas a phrif ganolfan fasnachol yr ardal. Mae Wrecsam o fewn taith dwy awr i draean o boblogaeth y DU a hanner ei diwydiannau cynhyrchu.

 

Cyfarwyddiadau i Wrecsam o’r gogledd

O'r gogledd ewch ar yr M56 tuag at Warrington

  • Ar gyffordd 15 yr M56 / cyffordd 11 yr M53, trowch i'r chwith (de-ddwyrain) ar yr M53 am 2.9 milltir tuag at Caer
  • Ar gyffordd 12 yr A56 (de-ddwyrain) ewch ar hyd yr A55 am 5.6 milltir. Tuag at Queensferry
  • Ar y gyffordd, trowch i'r chwith (tuag at y de) ar yr A483 am 7.2 milltir tuag at Wrecsam
  • Ewch oddi ar yr A483 yng nghyffordd 6 tuag at yr A534 Nantwich ac Ystad Ddiwydiannol Wrecsam
  • Yn y gylchfan, cymerwch y drydedd drofa sef yr A5152 Ffordd Caer i'r de tuag at Ganol y Dref am 1.3 milltir (2.1km)
  • Yn y gylchfan nesaf (ar waelod yr allt) cymerwch y drydedd drofa (yn syth ymlaen) ar yr A5152 Ffordd Caer i'r de am 0.3 milltir (0.5km)
  • Ewch yn syth ymlaen yn y goleuadau traffig.
  • Yn y gylchfan nesaf, cymerwch yr ail drofa (yn syth ymlaen) sef Stryt Caer am 0.1 milltir.
  • Ar ôl 0.1 milltir (0.2km) - mae maes parcio'r Byd Dwr ar yr ochr chwith, a meysydd parcio Llyfrgell Wrecsam a Neuadd y Dref ar yr ochr dde.

yn ôl i'r brig

Cyfarwyddiadau i Wrecsam o’r de

Ewch ar hyd yr A483 tuag at Wrecsam. Ar ôl cyrraedd Wrecsam

  • Ewch oddi ar yr A483 ar gyffordd 6 tuag at Nantwich ac Ystad Ddiwydiannol Wrecsam.
  • Yn y gylchfan cymerwch y chweched drofa sef yr A5152 Ffordd Caer i'r de tuag at Ganol y Dref am 1.3 milltir (2.1km)
  • Yn y gylchfan nesaf (ar waelod yr allt) cymerwch y drydedd drofa (yn syth ymlaen) ar yr A5152 Ffordd Caer i'r de am 0.3 milltir (0.5km)
  • Ewch yn syth ymlaen yn y goleuadau traffig
  • Yn y gylchfan nesaf, cymerwch yr ail drofa (yn syth ymlaen) sef Stryt Caer am 0.1 milltir.
  • Ar ôl 0.1 milltir (0.2km) - mae maes parcio'r Byd Dwr ar yr ochr chwith a meysydd parcio Llyfrgell Wrecsam a Neuadd y Dref ar yr ochr dde.

yn ôl i'r brig

Cyfarwyddiadau i Wrecsam

Mae'r ddogfen yma gael i ddadlwytho yn y fformat isod:

Cyfarwyddiadau i Wrecsam - fersiwn Word 331Kb

Cyfarwyddiadau i Wrecsam - Fersiwn PDF 215Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Accessible Adobe® Reader.

 

I weld ac argraffu ffeiliau Microsoft Word, rhaid fod Microsoft Word wedi ei sefydlu ar eich cyfrifiadur neu gallwch ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan microsoft i ddadlwytho Meddalwedd Gwyliwr Microsoft Word

yn ôl i'r brig