Mae gwefannau rhwydweithio cymdeithasol yn boblogaidd iawn ac mae’n bwysig bod Cyngor Wrecsam yn parhau i fanteisio ar dechnolegau newydd ac yn aros yn ymwybodol o welliannau ym myd cyfathrebu. Bydd hyn yn sicrhau bod gwybodaeth am y gwasanaethau rydym yn eu darparu’n hygyrch i’n trigolion.
Mae Cyngor Wrecsam yn parhau i roi mynediad i’w gwsmeriaid i’n gwasanaethau a gwybodaeth yn y dulliau mwyaf priodol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi dechrau grŵp ar Flickr. Nod 'Bwrdeistref Sirol Wrecsam' (cyswllt allanol) yw gwahodd pobl i arddangos eu lluniau eu hunain o Wrecsam.
Nid yn unig y gall defnyddio Flickr i arddangos lluniau o’r Fwrdeistref helpu i ddenu ymwelwyr ond gall ddangos rhannau o’r Fwrdeistref i’r rheiny sy’n byw yma eisoes efallai na fyddant wedi ystyried ymweld â hwy o’r blaen.
Mae’r grŵp ar gael i unrhyw un ei weld, ond mae’n rhaid i chi ddod yn aelod os byddwch am gyflwyno eich lluniau eich hun. Caiff yr hyn y byddwch yn ei gyflwyno ei roi mewn ciw i’w adolygu cyn ymddangos ar wefan Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae Rheolau (cyswllt allanol) ar gael ar dudalen y grŵp.
Bellach gall defnyddwyr Facebook yn Wrecsam ddefnyddio gwybodaeth a gwasanaethau sydd fel arfer i’w gweld ar ein gwefan drwy hafan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (cyswllt allanol) Mae’r wefan hon yn cynnwys porthyddion o’n rhannau Newyddion, Beth sy’n Digwydd, Sgoriau Arolygu Hylendid Bwyd yn ogystal â gwybodaeth a dolenni am Strydoedd o Fri, Talu eich Biliau a Dolenni Poblogaidd ar y wefan.
Rydym hefyd yn defnyddio Facebook fel ffordd o amlygu digwyddiadau neu ymgyrchoedd mawr. Roedd ein gwefan Hwyl Hurt yr Haf yn llwyddiant ysgubol. Roedd cynnwys y llyfryn ar Facebook yn boblogaidd gyda thrigolion a oedd yn gallu gweld yr holl weithgareddau a oedd ar gael dros wyliau’r Haf a llwyddwyd i annog y rheiny o bell i ymweld â ni.
Gall y rheiny sy’n mwynhau defnyddio Twitter a’n gwefan fwynhau’r gorau o ddau fyd. Rydym yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’n dilynwyr ar ffurf Newyddion, Beth sy’n Digwydd, Beth sy’n Newydd ar y Wefan a Sgoriau Arolygon Hylendid Bwyd.
Mae cbswrecsam (cyswllt allanol) yn ffordd boblogaidd eisoes o aros yn ymwybodol o newyddion a gwybodaeth amdanom ni.
Mae gan y rhan fwyaf o gymunedau ar-lein eu rheolau a’u canllawiau eu hunain, y byddwn yn eu dilyn bob amser. Rydym yn cadw’r hawl i ddileu unrhyw gyfraniadau sy’n torri rheolau neu ganllawiau y gymuned berthnasol, neu unrhyw un o’r canlynol: