Tystysgrifau Geni, Priodas a
Marwolaeth
Geni
Priodas
Marwolaeth
Genedigaeth | Priodasau a Phartneriaethau Sifil | Ymdrin  Profedigaeth
Os ydym yn ddi-briod, a oes rhaid i dad
y baban fod gyda mi i gofrestru'r enedigaeth?
Os nad yw rhieni naturiol y baban yn briod â'i gilydd ar adeg geni'r
baban, ac os yw mam y baban yn dymuno cofnodi manylion tad y baban yn
y gofrestr, mae angen i'r ddau riant fod yn bresennol wrth gofrestru'r
enedigaeth.
yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
Os ydym yn ddi-briod ar adeg geni'r baban
ac yn priodi ein gilydd wedi hynny, a oes rhaid i'r tad fabwysiadu ei
blentyn ei hunan?
Os ydym yn ddi-briod ar adeg geni'r baban ac yn priodi ein gilydd wedi
hynny, a oes rhaid i'r tad fabwysiadu ei blentyn ei hunan?
NAC OES - Gellir cael tystysgrif geni newydd yn dangos cyfenw priod y
fam wrth ail-gofrestru genedigaeth y plentyn. (Nid oes terfyn amser ar
y cyfleuster hwn, ac ni chodir tâl, ond bydd copïau ardystiedig
o'r cofnod newydd ar gael am y ffi statudol).
yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
Pa mor fuan y gallwn briodi?
Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno priodi mewn Swyddfa Gofrestru, Adeilad
Cymeradwy (e.e.Gwesty) Eglwys neu Gapel (ac eithrio Eglwys Loegr neu'r
Eglwys yng Nghymru) roi Hysbysiad o Briodas i Gofrestrydd Arolygol yr
ardal y maent yn byw ynddi. (Holwch os gwelwch yn dda, yn eich Swyddfa
Gofrestru leol ynglyn â chymhwyster preswyl).
Mae'n ofynnol rhoi o leiaf 15 diwrnod cyfan o rybudd gan y ddau sydd
am briodi. Mae Hysbysiad o Briodas yn ddilys am 12 mis calendr o'r dyddiad
y rhoddir yr Hysbysiad. (Sylwch nad yw'r cyfleuster o briodi trwy "Drwydded
Arbennig" ar gael bellach.)
yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
Faint mae'n gostio i briodi a pha ddogfennau y
bydd angen i ni eu dangos?
AR HYN O BRYD - Cynllunio Priodi. Pennir ffioedd lleol am briodasau mewn Adeiladau Cymeradwy a
gellir cael y manylion o Swyddfa Gofrestru'r ardal y lleolir yr Adeilad
Cymeradwy ynddi.
Bydd angen i chi ddangos y dogfennau canlynol:
Pasbort Prydeinig Cyfredol
neu
Drwydded Yrru Gyfredol (Trwydded gyda ffotograff fyddai orau)
neu
Dystysgrif Geni Ddilys
Os yw un neu'r ddau barti i'r briodas wedi bod trwy unrhyw ffurf o briodas
flaenorol, (mewn unrhyw wlad), rhaid iddo/iddi gyflwyno dogfennau a fydd
yn cadarnhau ei fod ef/hi yn rhydd i briodi.
Er enghraifft:
(Mewn rhai amgylchiadau, bydd prawf preswylio hefyd yn ofynnol).
yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
A ellir cofrestru'r farwolaeth mewn unrhyw
Swyddfa Gofrestru?
Na ellir. Rhaid cofrestru marwolaeth yn yr ardal lle y digwyddodd. Fodd
bynnag, mae cyfleusterau ar gael i ardystio Datganiad mewn unrhyw Swyddfa
Gofrestru yn Lloegr neu Gymru y gellir ei anfon ymlaen i'r Swyddfa Gofrestru
yn yr ardal briodol.
yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
A fyddaf yn cael y dystysgrif marwolaeth
wreiddiol?
NA FYDDWCH - y dystysgrif marwolaeth 'wreiddiol' yw'r cofnod yn y Gofrestr
Marwolaethau, a gwblheir mewn inc ac sy'n aros yn gofnod parhaol yn y
Swyddfa Gofrestru, ac y gellir cael copïau ardystiedig ohono pan
fo'n ofynnol. Mae'r tystysgrifau sydd ar gael ar adeg y cofrestru ac wedi
hynny, yn gopïau ardystiedig o'r cofnod, a chodir y ffi statudol
amdanynt. (Ar hyn o bryd, mae'r ffi yn £3.50, ond yn codi i £7.00
ar ôl cyfnod penodol o amser).
|