Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
 
English
 
 

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 

Cwestiynau Cyffredin

 

Busnes

A oes unrhyw grantiau ar gael i helpu fy musnes?
Beth yw maint y safleoedd neu adeiladau busnes sydd ar gael yn ardal Wrecsam ar hyn o bryd?
A oes unrhyw gymorth ar gael i'm helpu i ddechrau busnes?
A oes unrhyw gwmni lleol sy'n cynhyrchu neu'n cyflenwi………...?
Fedrwch chi fy helpu i godi arian yn y sector preifat i ddechrau neu ddatblygu fy musnes?
Beth all y Cyngor ei wneud i helpu fy musnes?

 



A oes unrhyw grantiau ar gael i helpu fy musnes?

Mae dros 2,000 o becynnau grantiau a chymorth ariannol arall ar gael yn y DU i helpu busnesau i dyfu a datblygu. Yma yn Wrecsam, ceir dros 60 o raglenni grantiau a chymorth ariannol a allai helpu busnesau cymwys. Penderfynir cymhwyster trwy amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys lleoliad y busnes, ers pryd y sefydlwyd y busnes a pha fath o fusnes ydyw.

Gall Tîm Datblygu Busnes a Menter y Cyngor eich helpu i gydosod y pecynnau gorau i chi. Fodd bynnag, gellir fel arfer penderfynu ar gymhwyster yn dilyn trafodaeth â'r busnes dan sylw. Ceir cyfleuster am ddim i'ch helpu i chwilio am grantiau yn www.wrexham.gov.uk/welsh/business_w/funding.htm.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


 

Beth yw maint y safleoedd neu adeiladau busnes sydd ar gael yn ardal Wrecsam ar hyn o bryd?

Mae Tîm Datblygu Busnes a Menter y Cyngor yn cadw cronfa ddata o'r holl safleoedd ac adeiladau sydd ar gael ar hyn o bryd yn ardal Wrecsam. Mae'r wybodaeth a gedwir yn y gronfa ddata'n cynnwys manylion adeiladau sydd ym mherchnogaeth y Cyngor a'r sector preifat. Mae'r wybodaeth yn y gronfa ddata yn cael ei chynnal a'i chadw'n rheolaidd gan ddefnyddio manylion gan asiantau eiddo lleol, perchnogion tir a datblygwyr.

Cysylltwch â'r tîm ar 01978 366366 neu business@wrexham.gov.uk.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau



A oes unrhyw gymorth ar gael i'm helpu i ddechrau busnes?

Mae'r Tîm Datblygu Busnes a Menter yn cynnig Rhaglen Dechrau Busnesau Newydd sy'n cynnwys rhaglen o hyfforddiant, cwnsela a mentora pwrpasol a fydd yn helpu unigolion i baratoi eu hunain ar gyfer hunangyflogaeth. Gall rhaglenni gynnig cymorth o ran marchnata, cynllunio ariannol, codi'r arian sydd ei angen, trethi ac ati. Fel rheol, cynhelir y cyrsiau ddwywaith y mis, a gall y dyddiadau a'r amseroedd amrywio.

Cynigir rhai cyrsiau yn ystod y dydd, gyda'r nos ac ar benwythnosau, Cysylltwch â'r tîm ar 01978 366366 neu business@wrexham.gov.uk.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


A oes unrhyw gwmni lleol sy'n cynhyrchu neu'n cyflenwi………...?

Mae gan y Tîm Datblygu Busnes a Menter gronfa ddata sy'n cynnwys manylion bron i 4,000 o fusnesau lleol. Rhan o Strategaeth Datblygiad Economaidd y Cyngor yw annog busnesau i darddu a chyflenwi nwyddau a gwasanaethau'n lleol. Gallai chwilio drwy'r gronfa ddata helaeth ddod o hyd i gwmni lleol neu ranbarthol sy'n cyflenwi nwydd neu wasanaeth.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Fedrwch chi fy helpu i godi arian yn y sector preifat i ddechrau neu ddatblygu fy musnes?

Mae gan y Tîm Datblygu Busnes a Menter fanylion cyfalafwyr menter yn y sector preifat, banciau, buddsoddwyr preifat a sefydliadau ariannol eraill a allai fod yn barod i roi cyfalaf i mewn i fusnes. Mae'n bosibl y gall ein tîm o gynghorwyr busnes hyfforddedig helpu cwmnïau priodol i gael yr arian hwn.

Cysylltwch â'r tîm ar 01978 366366 neu business@wrexham.gov.uk.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


 

Beth all y Cyngor ei wneud i helpu fy musnes?

Mae gan y Cyngor ystod eang o wasanaethau ymarferol i helpu busnesau. Gellwch gael cefnogaeth gan y Tîm Datblygu Busnes a Menter, gan rwydwaith o asiantaethau eraill sy'n cynnig cefnogaeth i fusnesau neu gan adrannau eraill y Cyngor, megis Cynllunio, Gwasanaethau Eiddo, Iechyd Amgylcheddol ac ati. Yn y lle cyntaf, cysylltwch â'r tîm ar 01978 366366 neu business@wrexham.gov.uk.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     


CBSW
Hawlfraint