Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
 
English
 
 

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 

Cwestiynau Cyffredin

 

Teledu Cylch-caeëdig (TCC)


Beth yw teledu cylch caeëdig?

Mae teledu cylch caeëdig (TCC) yn system deledu sy'n gweithredu ar sail 'dolen gaeëdig'. Yn wahanol i deledu a ddarlledir sydd ar gael i unrhyw un â derbynnydd addas, mae lluniau TCC ar gael dim ond i'r rhai hynny sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r ddolen, sef yr ystafell rheoli a monitro ganolog, yn achos Wrecsam. Mae'r ddolen yn gyswllt corfforol sy'n cynnwys cebl opteg ffeibrau sy'n cario'r llun o'r camera i fonitor.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pwy sy'n gweld y lluniau?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cyflogi 8 o swyddogion i fonitro'r lluniau 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Caiff unrhyw luniau a wêl y gweithredwyr eu gweld yn gydamserol gan Ranbarth Dwyreiniol Heddlu Gogledd Cymru a Chanolfan Gyfathrebiadau Heddlu Gogledd Cymru yn Llanelwy.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Am faint o amser y cedwir y recordiadau?

Cedwir recordiadau am fwyafswm o 2 fis oni bai bod eu hangen ar gyfer dibenion tystiolaeth mewn erlyniad troseddol. Yn yr achosion hyn, mae Heddlu Gogledd Cymru'n cadw'r tapiau hyd nes i'r achos llys ddod i ben, gan gynnwys unrhyw apeliadau. Ar ddiwedd y 2 fis, mae unrhyw dâp nad oes ei angen fel tystiolaeth mewn llys yn cael ei ddileu.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Sawl camera sydd yn Wrecsam?

Mae 85 o gamerâu yn y fwrdeistref sirol ar hyn o bryd.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Beth yw nodau'r system TCC yn Wrecsam

Mae nodau'r system TCC fel a ganlyn:

  • helpu i atal troseddu,
  • helpu i ddatgelu troseddau a darparu tystiolaeth mewn achosion llys,
  • helpu i leihau gofidion pobl am droseddau,
  • helpu i leihau anhrefn,
  • gwella diogelwch cymunedol,
  • cynyddu effeithiolrwydd y broses o atal troseddu,
  • helpu i reoli canol tref a bwrdeistref sirol Wrecsam,
  • helpu i ddatblygu lles economaidd y sir ac annog mwy o bobl i ddefnyddio canol y dref,
  • helpu'r Awdurdod Lleol â'i waith gorfodi a rheoleiddio,
  • helpu i reoli traffig,
  • helpu i gefnogi achos sifil sy'n helpu i ddatgelu troseddau,
  • helpu'r Awdurdod Lleol i gyflawni ei ddyletswyddau.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Sawl digwyddiad ac arestiad y bu TCC yn allweddol iddynt?

Yn y 9 mlynedd ddiwethaf, mae TCC Wrecsam wedi dal 9,235 digwyddiad sydd wedi arwain at fwy nag 13,205 o arestiadau.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Pa fath o ddigwyddiadau a ddaliwyd ar TCC?

Yn 2005/06, roedd 28% yn ymwneud â lladrad, 14% â throsedd treisiol, 2% â byrgleriaeth, 2% â throseddau ceir, 6% â difrod troseddol, 6% â chyffuriau, 6% ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a 36% â digwyddiadau eraill.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     


CBSW
Hawlfraint