Treth y Cyngor
- Beth yw treth y Cyngor?
- Sut gallaf dalu treth y Cyngor?
- Ym mha fand mae fy eiddo?
- Faint o dreth y Cyngor fyddaf yn ei thalu?
- Beth yw band prisio treth y Cyngor?
yn ôl i'r top | dychwelyd i'r mynegai
Mae treth y Cyngor yn dreth leol sy’n cyfrannu at gynnal y gwasanaethau a ddarperir gan gynghorau a’r heddlu.
Dengys eich bil treth y Cyngor ar gyfer pob blwyddyn ariannol yr hyn y disgwylir i chi ei dalu a faint fydd pob awdurdod a restrir isod yn ei dderbyn.
- Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- Eich cyngor cymuned
Mae Treth y Cyngor yn dibynnu i raddau ar wariant y cyrff ond mae’n dibynnu hefyd ar grantiau’r Llywodraeth a’r arian a geir o’r gronfa genedlaethol o drethi busnes ac annomestig.
Os hoffech gymorth neu gyngor am Dreth y Cyngor cysylltwch â’r:
Adran Cyllid a Pherfformiad
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Neuadd y Dref
Wrecsam LL11 1WS
Ffôn: 01978 292031
Ebost: counciltax@wrexham.gov.uk
yn ôl i'r top | dychwelyd i'r mynegai
Sut gallaf dalu Treth y Cyngor?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ymroddedig i greu gwasanaethau sy’n gyfeillgar i gwsmeriaid ac yn hawdd eu defnyddio.
Fel rhan o’n rhaglen ddatblygu, cynigiwn ystod o ddulliau talu ar gyfer Treth y Cyngor a threthi busnes, rhenti tai, dyledion amrywiol ynghyd â’r gallu i dalu biliau gwasanaethau cyhoeddus North Wales Gas a Dee Valley Water yn uniongyrchol ac yn ddiogel i’r Cyngor.
Talu ar-lein – cwestiynau a ofynnir yn aml | Gweld ein polisi preifatrwydd
Ffyrdd o Dalu
Talu biliau ar-lein
Mae’r cyfleuster talu ar-lein hwn yn caniatáu i chi dalu biliau’n uniongyrchol ac yn ddiogel i’r Cyngor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ar gyfer:
- Treth y Cyngor
- Trethi busnes
- Rhenti tai
- Dyledion amrywiol (anfonebau’r Cyngor)
- Dee Valley Water
Talu ar-lein – cwestiynau a ofynnir yn aml | Gweld ein polisi preifatrwydd
yn ôl i'r top | dychwelyd i'r mynegai
Talu biliau ar ffôn ddigidol
Gallwch dalu Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, trwy ddefnyddio’r dewis rhyngweithiol newydd hwn.
Trwy ffonio 0845 309 6064 a dilyn y cyfarwyddiadau syml, gallwch dalu â’ch cerdyn credyd neu ddebyd trwy wasgu’r rhifau priodol.
Mae’r cyfleuster hwn yn caniatáu i chi dalu biliau’n uniongyrchol i’r Cyngor ar gyfer:
- Treth y Cyngor
- Trethi busnes
- Rhenti tai
- Dyledion amrywiol (anfonebau’r Cyngor)
- Housing Benefit
yn ôl i'r top | dychwelyd i'r mynegai
Deby Uniongyrchol
Fe’ch argymhellir i ddefnyddior dull hwn os hoffech dalu 10 rhandaliad. Mae gorchmynion debyd uniongyrchol ar gael isod i’w lawrlwytho ar y dudalen Ffurflen Treth y Cyngor.
yn ôl i'r top | dychwelyd i'r mynegai
Talu trwy'r Post
Os hoffech dalu trwy’r post ac nad oes angen derbynneb arnoch, sicrhewch y defnyddiwch rif eich cyfrif. Os bydd angen derbynneb arnoch, anfonwch y ddogfen gyfan atom ynghyd ag amlen â’ch cyfeiriad arni.
yn ôl i'r top | dychwelyd i'r mynegai
Ymweliad Personol
Gallwch dalu gyda cherdyn debyd / credyd neu arian parod trwy ymweld รข Galw Wrecsam yn 16 Stryt yr Arglwydd.
Ein horiau agor yw dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am i 5.30pm.
Gallwch wneud taliadau hefyd yn eich swyddfa ystad leol hefyd.
yn ôl i'r top | dychwelyd i'r mynegai
Cyswlltwch â ni
I wybod mwy am y gwasanaethau hyn, cysylltwch â ni ar (01978) 292031 neu counciltax@wrexham.gov.uk
Neu gallwch ysgrifennu at yr Is-Adran Treth y Cyngor
Is-Adran Treth y Cyngor
Adeiladau Stryt y Lampint
Blwch SP 1295
Wrecsam
LL11 1WS
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?







