eLlywodraeth
Beth yw e-Lywodraeth neu Lywodraeth electronig?
Mae e-Lywodraeth neu lywodraeth electronig yn ymwneud â’r sector cyhoeddus yn defnyddio technolegau, megis y rhyngrwyd, i ddarparu gwasanaethau gwell sy’n canolbwyntio mwy ar gwsmeriaid. Mae pobl yn dymuno cyfathrebu â llywodraeth leol a chanol mewn ffordd sy’n gyfleus iddynt, yn hytrach na chael eu hatal gan oriau agor a lleoliadau swyddfeydd cynghorau neu’r Llywodraeth. Mae e-lywodraeth yn ymwneud â chael gwasanaethau yn y sector cyhoeddus i weithio’n fwy effeithiol trwy ddefnyddio technolegau i wella prosesau busnes a gwella gwasanaethau i’r cyhoedd.
Yn Wrecsam, mae e-lywodraeth wedi datblygu i mewn i strategaeth ar gyfer gwella mynediad cwsmeriaid i wasanaethau. Mae gwefan Wrecsam wedi ennill sawl gwobr yn y blynyddoedd diwethaf ac mae’n cynnig mynediad parhaus i wybodaeth a chyfleusterau gweithrediadol. Ceisia cynlluniau’r Cyngor adeiladu ar hyn a symud tuag at wella mynediad wyneb yn wyneb a thros y ffôn y mae’r cyhoedd wedi eu nodi fel y ffyrdd gorau ar gyfer cysylltu â’r Cyngor a gwasanaethau eraill. Bydd gwelliannau’n cynnwys datblygu timau teleffoni penodedig â mynediad i dechnoleg a fydd yn delio’n fwy effeithiol ag ymholiadau dros y ffôn. Mae gan y Cyngor gynlluniau hefyd i ddatblygu ‘siop un stop’ (yn dibynnu ar adnoddau) i ddarparu man cyfleus i’r cyhoedd alw heibio a defnyddio gwasanaethau’r Cyngor.
Mae e-lywodraeth yn perthyn i lywodraeth unedig hefyd. Golyga hyn gwella cyfathrebiadau rhwng asiantaethau yn y sector cyhoeddus, er enghraifft, os oes angen gofal ar unigolyn ar ôl bod yn yr ysbyty, mae’n bosibl y byddant wedi bod mewn cyswllt â’r gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaethau iechyd, yr Asiantaeth Budd-Daliadau a chartref preifat. Dymunwn sicrhau bod yr unigolyn hwn yn cael ei g/chefnogi yn ystod y broses ac, i wneud hyn, rhaid i aelodau o staff o’r holl gyrff hyn wybod beth sy’n digwydd bob amser – a gellir gwneud hyn trwy ddefnyddio technoleg gyffredin.
I gloi, mae e-lywodraeth yn ymwneud â chadw ein dinasyddion mewn cyswllt â democratiaeth leol. Mae nifer y bobl sy’n pleidleisio mewn etholiadau wedi bod yn siomedig felly er mwyn annog pobl i gymryd rhan yn y dyfodol, gellir cefnogi ffyrdd eraill o bleidleisio e.e. dros y ffôn, mewn ciosg neu dros gyswllt diogel ar y rhyngrwyd.
Os hoffech fwy o wybodaeth am yr uchelgeisiau am Gymru ddigidol, ewch i wefan Arsyllfa Band Eang Cymru - www.bbwo.org.uk/.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
|