Cwestiynau Cyffredin

Cynllunio Brys


 Cymru Gydnerth (cyswllt allanol)

Mae gan y Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng ffynhonnell ganolog o wybodaeth  am gynlluniau argyfwng dinesig yng Nghymru. Mae gwefan Cymru Gydnerth yn ffenest  i waith a wneir ar draws Cymru, Fforwm Dycnwch Lleol ac o fewn asiantau unigol. Yn ogystal â darparu Gwasanaeth Cynllunio Argyfwng hefo newyddion a'r ymarfer gorau mae'r safle yn ffynhonnell hefyd o wybodaeth i'r cyhoedd beth i'w wneud yn ystod argyfwng.

Cymru Am Barod (cyswllt allanol)

Yma fe gewch wybodaeth am y gwaith sy'n digwydd i sicrhau fod y rhanbarth yn barod, cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad difrifol. Mae gwybodaeth gyffredinol a chyngor hefyd ar gael i drigolion, busnesau ac ymwelwyr ar ystod eang o argyfyngau, o lifogydd lleol i ymosodiad terfysgol.

Dogfennau Bellach

Asiantaeth yr Amgylchedd

Paratoi am Lifogydd

Cyngor ymarferol ynghylch beth i’w wneud er mwyn eich diogelu chi a’ch eiddo.

Paratoi am lifogydd - fformat PDF 710Kb

Yn Ystod Llifogydd

Cyngor ymarferol ynghylch beth i’w wneud er mwyn aros yn ddiogel mewn llifogydd.

Yn Ystod Llifogydd- fformat PDF 392Kb

Ar ôl Llifogydd

Cyngor ymarferol ynghylch dod dros lifogydd.

Ar ôl Llifogydd - fformat PDF 521Kb

I weld ac argraffu ffeiliau pdf, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader: cliciwch y logo isod i ddadlwytho'r meddalwedd.

Cyswllt o llun hon i wefan Adobe i ddadlwytho Adobe Acrobat Reader

Gellir newid dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio'r Gwasanaeth Newid Abobe.


Ffliw Moch

Cysylltiadau Allanol

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Beth yw cynllunio brys?

Y Tîm Cynllunio Brys sy'n cydgysylltu ymateb y Cyngor i unrhyw sefyllfa frys. Gwneir hyn trwy baratoi cynlluniau yn unol â'r gofynion statudol, hyfforddi swyddogion yn eu swyddogaethau brys a thrwy gyswllt gyda phartneriaid ymateb, gan gynnwys y gwasanaethau brys, y cyfleustodau a'r asiantaethau gwirfoddol.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Beth yw swyddogaeth ymateb brys y Cyngor?

Mae'r Cyngor yn rhoi cymorth ymarferol i'r gwasanaethau brys ym mhob maes ymateb. Gan amlaf, bydd y gofalu am les aelodau'r cyhoedd sy'n gysylltiedig â'r achos brys, yn darparu cymorth technegol ac adnoddau ar safle'r argyfwng, ac yn cydgysylltu gwaith yr asiantaethau gwirfoddol ac adferiad hirdymor yr ardal yr effeithir arni.

N i fydd gwaith y Cyngor yn dod i ben pan fo'r gwasanaethau brys yn ymadael. Y Cyngor sy'n gyfrifol am glirio, glanhau ac ailadeiladu'r gymuned a'r dioddefwyr. Gall y gofal a'r cymorth i ddioddefwyr barhau am wythnosau neu fisoedd lawer.

Y Cyngor hefyd fydd yn sicrhau y cynhelir gwasanaethau hanfodol yn ystod argyfyngau, ac yr adferir cymunedau i'w cyflwr a'u bywyd arferol cyn gynted ag y bo modd.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Sut y bydd y Cyngor yn ymateb i achosion brys?

Seilir ymateb y Cyngor ar yr egwyddor o Reolaeth Argyfwng Integredig. Mae hyn yn sicrhau ymateb cydlynol, beth bynnag fo achos yr argyfwng.

Mae'r Cyngor wedi rhannu ei ymateb i achosion brys yn bedair elfen sylfaenol, ac wedi sefydlu Timau Ymateb i reoli'r meysydd hynny, fel a ganlyn:

Tîm Gwybodaeth Brys

Y tîm hwn sy'n rheoli'r gwaith o gasglu, gwirio a lledaenu pob gwybodaeth yn ymwneud â'r achos brys. Mae hefyd yn rheoli ymholiadau gan y wasg a'r cyfryngau.

Tîm Lles Brys

Y tîm hwn sy'n rheoli lles pawb yr effeithir arnynt gan yr achos brys, gan gynnwys symud pobl o'u cartrefi a'u cynghori.

Tîm Cymorth a Gweithfeydd Brys

Y tîm hwn sy'n rheoli'r holl gymorth technegol a'r adnoddau a ddarperir i gynorthwyo'r gwasanaethau brys i ymateb i'r sefyllfa.

Tîm Adferiad Brys

Y tîm hwn sy'n gyfrifol am waith adfer hirdymor ac am ddychwelyd cymunedau a phreswylwyr i'w cyflwr a'u bywyd arferol.

Mewn unrhyw sefyllfa frys, daw'r pedwar tîm hyn at ei gilydd yng Nghanolfan Frys y Cyngor yn Neuadd y Dref, i gydgysylltu ymateb y Cyngor.

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Sut y gallaf gysylltu â'r Tîm Cynllunio Brys?

Gallwch gysylltu â'r Tîm Cynllunio Brys ar:

Ffôn: 01978 292023 (01978 264240 y tu allan i oriau swyddfa)

Neu e-bost: emergencyplanning@wrexham.gov.uk

Cyfeiriad cyswllt y Tîm yw:
Y Tîm Cynllunio Brys
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Cynllunio
Swyddfeydd Stryt y Lampint
Wrecsam
LL11 1AR

yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?

yn ôl i'r brig