Twyll
- Beth yw twyll budd-dal?
- Pam ddylwn boeni am dwyll budd-dal?
- Beth ydym yn ei wneud i atal y twyll hwn?
- A yw'r ymchwilwyr twyll yn gweithio gyda chyrff eraill?
- Beth sy'n digwydd i bobl sy'n twyllo?
Beth yw twyll budd-dal?
Mae llawer o amgylchiadau sy’n gallu peri bod pobl yn cael budd-dal nad oes ganddynt hawl o gwbl neu’n rhannol iddo. Y rhesymau mwyaf cyffredin yw:
- Peidio â datgan gwaith cyflogedig.
- Peidio â datgan incwm llawn.
- Peidio â datgan holl gyfalaf a chynilion.
- Peidio â datgan oedolyn arall yn byw gyda hwy.
- Cael budd-dal ar gam am eiddo nad ydynt yn byw ynddo.
- Cael budd-dal am eiddo nad ydynt yn atebol i dalu rhent amdano.
- Creu amgylchiadau i gamddefnyddio’r system fudd-daliadau’n fwriadol.
- Rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol am eich amgylchiadau.
Mae pobl sydd o fwriad yn peidio â hysbysu newid yn eu hamgylchiadau hefyd yn cyflawni twyll budd-daliadau, heb ystyried a ydynt yn dal i fod â hawl i fudd-dal neu beidio.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Pam ddylwn boeni am dwyll budd-dal?
Bob blwyddyn, mae twyll budd-dal yn mynd â biliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus.
Hyd yn oes os na thalwch treth incwm, mae pawb yn talu rhyw fath o drethi anuniongyrchol, felly mae'r bobl hyn yn dwyn oddi wrthych chi!
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth ydym yn ei wneud i atal y twyll hwn?
Mae gan Gyngor Wrecsam dm penodol o ymchwilwyr twyll hyfforddedig sy'n defnyddio'r dechnoleg a'r systemau casglu data diweddaraf i atal a datgelu hawliadau twyllodrus.
Mae gan bob ymchwilydd gymwysterau proffesiynol llawn, gallant gyfweld â thwyllwyr honedig yn unol â'r Ddeddf Heddlu a Thystiolaeth Droseddol a pharatoi achosion ar gyfer y llys.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A yw'r ymchwilwyr twyll yn gweithio gyda chyrff eraill?
Gwneir sawl achos ar ffurf cyd-ymchwiliadau gyda swyddogion o'r Adran Gwaith a Phensiynau a dwynir achosion o flaen y llys fel cyd-erlyniadau'n aml. Mae gan ymchwilwyr y Cyngor bwerau i gael gwybodaeth gan Gyllid y Wlad, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cofrestrfa Tir, cofnodion cyflogau gweithwyr, cwmnau bancio a chredyd, darparwyr pensiynau preifat a chwmni, awdurdodau lleol eraill a sawl cofnod arall a ddelir ar systemau data amrywiol.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth sy'n digwydd i bobl sy'n twyllo?
Bydd unrhyw un a euogfarnir mewn llys ynadon neu lys y Goron yn cael cofnod troseddol. Ni chyfeirir bob achos i'r llys a gellir ymdrin ag achosion llai difrifol yn weinyddol, naill ai ar ffurf rhybudd ffurfiol neu gosb weinyddol.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut ydych yn graddio'r wybodaeth / gwasanaeth hwn?







