Tai
- Sut allaf roi fy enw ar Gofrestr Tai'r Cyngor?
- A yw’r gofrestr tai yn agored i bawb?
- Beth yw polisi dosbarthiad y Cyngor?
- Beth os oes gennyf broblem feddygol neu broblem symudedd?
- Oes angen i mi adnewyddu fy nghais am dŷ?
- A yw pob un o denantiaid y Cyngor yn gymwys i gyfnewid tai?
- Oes gennych chi restr o’r tenantiaid sydd â diddordeb mewn cyfnewid tai?
- Rwyf wedi dod o hyd i rywun sydd am gyfnewid tai, beth sy’n digwydd nawr?
- Rwyf am ddod â’r denantiaeth i ben, beth ddylwn ei wneud?
- Beth os nad ydwyf yn rhoi 4 wythnos o rybudd?
- Rwyf wedi mynd i ôl-ddyled gyda’r rhent. Beth ddylwn ei wneud?
- Ni allaf fforddio’r rhent gan fy mod yn ennill incwm isel. A oes unrhyw help ar gael i mi?
- Rwyf wedi derbyn Rhybudd o Fwriad i Geisio Meddiant ar gyfer ôl-ddyledion rhent. Beth fydd yn digwydd?
- Beth sy’n digwydd os wyf yn derbyn llythyr yn fy rhybuddio am achos llys yn fy erbyn ar gyfer ôl-ddyledion rhent?
- Sut allaf dalu’r rhent ar gyfer fy nhŷ Cyngor?
- Mae gennyf gyfrif banc, beth yw’r ffordd orau i dalu rhent?
- Sut wyf yn rhoi gwybod i chi am waith trwsio?
- Pryd fyddwch yn cwblhau’r gwaith trwsio?
- A allaf wneud gwelliannau i’m tŷ Cyngor?
- Pryd fyddaf yn cael drws PVCu?
- A allaf gael ffens bren yn lle’r ffens dolen gadwyn?
- Pwy sy’n gyfrifol am gysylltu’r cyflenwad trydan yn y tŷ?
- Pwy sy’n gyfrifol am gysylltu’r cyflenwad nwy yn y tŷ?
- Beth fydd yn digwydd os byddaf yn difrodi’r tŷ?
- Beth yw Cymdeithas Drigolion a Thenantiaid?
- A oes Cymdeithas Drigolion a Thenantiaid yn fy ardal i?
- Sut ydw i’n sefydlu Cymdeithas Denantiaid yn fy ardal i?
- A oes unrhyw nawdd ar gael i Grwpiau Tenantiaid?
Sut allaf roi fy enw ar Gofrestr Tai'r Cyngor?
Gall ymgeiswyr gwblhau Ffurflen Gais am Dŷ i gael eu rhoi ar Gofrestr Tai’r Cyngor. Mae ffurflenni cais ar gael ar gais gan y Gwasanaethau Tai, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, ac ym mhob un o’r Swyddfeydd Tai.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A yw’r gofrestr tai yn agored i bawb?
Mae Cofrestr Tai’r Cyngor ar agor i bawb sydd am wneud cais.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw polisi dosbarthiad y Cyngor?
Mae polisi dosbarthiad y Cyngor yn seiliedig ar anghenion tai'r ymgeiswyr ac yn amodol ar system bwyntiau lle rhoddir pwyntiau i ymgeiswyr am fodloni meini prawf penodol.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth os oes gennyf broblem feddygol neu broblem symudedd?
Yn ogystal â llenwi eu ffurflenni cais am dŷ, gall ymgeiswyr gwblhau Ffurflen Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r ffurflen hon ar gael gan y Gwasanaethau Tai, Ffordd Rhuthun ac mewn Swyddfeydd Tai lleol ar gais. Efallai y bydd angen i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth ategol ynghyd â’r Ffurflen Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel tystiolaeth o’u problemau meddygol/symudedd.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Oes angen i mi adnewyddu fy nghais am dŷ?
Oes, mae angen i ymgeiswyr adnewyddu eu ceisiadau am dŷ Cyngor. Anfonir llythyr adnewyddu at bob ymgeisydd yn flynyddol, ac mae’n rhaid i ymgeiswyr ei gwblhau a’i ddychwelyd.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A yw pob un o denantiaid y Cyngor yn gymwys i gyfnewid tai?
Nid yw pob un o denantiaid y Cyngor yn gymwys i gyfnewid tai. Gall tenantiaid sicr y Cyngor wneud cais i gyfnewid tai’r Cyngor, ond nid oes gan denantiaid rhagarweiniol na thenantiaid sydd wedi’u diraddio hawl i wneud hynny.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Oes gennych chi restr o’r tenantiaid sydd â diddordeb mewn cyfnewid tai?
Mae gan bob Swyddfa Dai leol gofrestr o’r ymgeiswyr sydd am gyfnewid tai. Gellwch ofyn i'r derbynnydd am gymorth gyda’r gofrestr hon.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Rwyf wedi dod o hyd i rywun sydd am gyfnewid tai, beth sy’n digwydd nawr?
Cysylltwch â’ch Swyddfa Dai leol. Byddant yn rhoi ffurflen gais i chi ar gyfer cyfnewid tai’r Cyngor. Ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen wedi’i chwblhau, bydd Swyddog Tai yn ymweld â chi ac yn cwblhau’r gwiriadau perthnasol i benderfynu p’un a ydych yn gymwys i gyfnewid tai ai peidio.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Rwyf am ddod â’r denantiaeth i ben, beth ddylwn ei wneud?
I ddod â’ch tenantiaeth i ben, rhaid i chi roi 4 wythnos o rybudd yn ysgrifenedig, naill ai drwy lythyr neu drwy gwblhau’r ffurflen berthnasol yn eich Swyddfa Dai leol.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth os nad ydwyf yn rhoi 4 wythnos o rybudd?
Gellwch ymestyn y cyfnod rhybudd dros y cyfnod arferol o 4 wythnos drwy gysylltu â’ch Swyddfa Dai leol. Fodd bynnag, os ydych yn gadael yr eiddo o fewn y cyfnod o 4 wythnos, rhaid i chi barhau i dalu o leiaf 4 wythnos o rent ar yr eiddo.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Rwyf wedi mynd i ôl-ddyled gyda’r rhent. Beth ddylwn ei wneud?
Cysylltwch â’ch Swyddfa Dai leol ar unwaith. Bydd y staff yn eich helpu ac yn trafod gwahanol ffyrdd o dalu’ch ôl-ddyledion rhent.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Ni allaf fforddio’r rhent gan fy mod yn ennill incwm isel. A oes unrhyw help ar gael i mi?
Gall tenantiaid wneud cais am Fudd-dâl Tai i’w helpu i dalu’r rhent. Caiff Budd-dâl Tai ei asesu, ac mae ffurflenni cais ar gael gan eich Swyddfa Dai leol a’r Is-adran Budd-daliadau, Adran Gyllid, Stryt y Lampint, Wrecsam.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Rwyf wedi derbyn Rhybudd o Fwriad i Geisio Meddiant ar gyfer ôl-ddyledion rhent. Beth fydd yn digwydd?
Os na fyddwch yn gwneud rhywbeth, bydd camau’n cael eu cymryd drwy’r llys i geisio meddu ar eich eiddo. Rhaid i chi gysylltu â’r Swyddfa Dai leol ar unwaith, naill ai drwy alw heibio’n bersonol neu dros y ffôn i drefnu i dalu unrhyw ôl-ddyledion rhent sy’n ddyledus.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth sy’n digwydd os wyf yn derbyn llythyr yn fy rhybuddio am achos llys yn fy erbyn ar gyfer ôl-ddyledion rhent?
Rhaid i chi gysylltu â’r Swyddfa Dai leol ar unwaith, naill ai drwy alw heibio’n bersonol neu dros y ffôn, i drefnu i dalu unrhyw ôl-ddyledion rhent sy’n ddyledus. Os bydd achos llys yn dechrau yn eich erbyn, mae’n bosibl y byddwch yn mynd i gostau llys sylweddol yn ogystal â’r ôl-ddyledion rhent sy’n ddyledus.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut allaf dalu’r rhent ar gyfer fy nhŷ Cyngor?
Ceir nifer o wahanol ffyrdd o dalu. Y rhain yw:
- Debyd Uniongyrchol wythnosol lle y didynnir y rhent o’ch cyfrif banc ar ddydd Gwener yr wythnos rent.
- Archeb Sefydlog fisol lle y didynnir y rhent o’ch cyfrif banc ar ddyddiad penodol. Fel rheol, gwneir hyn ar ddiwrnod cyntaf y mis, ond os yw dyddiad arall yn well gennych, gellir trefnu i ddidynnu’r arian ar y dyddiad hwnnw.
- Talu ag arian parod gan ddefnyddio cerdyn a anfonwyd gan y Cyngor i’ch galluogi i dalu’n wythnosol, bob pythefnos neu’n fisol mewn Swyddfeydd Tai lleol.
- Gyda cherdyn debyd/credyd drwy system awtomatig (rhif ffôn: 0845 309 6064) neu yn y Swyddfa Arian, Stryt y Lampint, Wrecsam.
- Gellwch dalu drwy anfon siec drwy’r post at un o’r Swyddfeydd Tai lleol neu’r Swyddfa Arian, Stryt y Lampint, Wrecsam.
- Gellwch dalu dros y rhyngrwyd drwy wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
- Os ydych yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gellwch dalu’n uniongyrchol o’ch cyflog (anfonwch ganiatâd ysgrifenedig at yr Is-adran Gyflogau, Adran Gyllid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Stryt y Lampint, Wrecsam).
I drefnu i dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol/Archeb Sefydlog, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol ynghylch eich cyfrif rhent, cysylltwch â’r Is-adran Cyfrif Rhent Tai, Gwasanaethau Tai, Ffordd Rhuthun, Wrecsam.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Mae gennyf gyfrif banc, beth yw’r ffordd orau i dalu rhent?
Y ffordd orau i dalu eich rhent a sicrhau eich bod yn talu’n rheolaidd yw Debyd Uniongyrchol. Os oes angen ffurflen gais arnoch i dalu eich rhent trwy Ddebyd Uniongyrchol, cysylltwch â’r Gwasanaethau Tai, Ffordd Rhuthun, neu ewch i’ch Swyddfa Dai leol.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut wyf yn rhoi gwybod i chi am waith trwsio?
Mae gan y Cyngor rif ffôn am ddim ar gyfer gwaith trwsio yn nhai’r Cyngor. Y rhif ffôn yw 08000 855 808 ac mae’r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr bob dydd.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Pryd fyddwch yn cwblhau’r Atgyweiriadau?
Rydym yn blaenoriaethu gwaith trwsio yn ôl 3 chategori:
- Atgyweiridau Argyfwng: - Bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau o fewn 24 awr – Mae'r gwaith hwn yn cynnwys gwaith trwysio a allay beryfly eich iechyd neu'ch bywyd a gwaith i amddiffyn gweneuthuriad yr adeilad.
- Atgyweiridau Brys: - cwblheir o fewn 7 diwrnod.
- Atgyweiridau Arferol: - Cwblheir o fewn 7 diwrnod.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A allaf wneud gwelliannau i’m tŷ Cyngor?
Gellwch wneud gwelliannau mewn tai/fflatiau’r Cyngor, ond rhaid i chi dderbyn caniatâd ysgrifenedig gan y Swyddfa Dai leol cyn i chi ddechrau ar y gwaith.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Pryd fyddaf yn cael drws PVCu?
Caiff drysau PVCu eu gosod ar gytundeb drwy waith rhaglenedig. Rhaid i bob cais am ddrws fynd ar restr aros, ac felly gallai gymryd hyd at 12 mis i ni ddod i’w osod.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A allaf gael ffens bren yn lle’r ffens dolen gadwyn?
Polisi’r Cyngor o ran ffensys yw amnewid ffensys am rai eraill o’r un math.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Pwy sy’n gyfrifol am gysylltu’r cyflenwad trydan yn y tŷ?
Y tenant sy’n gyfrifol am sicrhau bod ganddynt gyflenwad trydan yn y tŷ.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Pwy sy’n gyfrifol am gysylltu’r cyflenwad nwy yn y tŷ?
Y tenant sy’n gyfrifol am sicrhau bod ganddynt gyflenwad nwy yn y tŷ.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth fydd yn digwydd os byddaf yn difrodi’r tŷ?
Bydd yr Adran Tai yn codi tâl ar denantiaid am unrhyw ddifrod a wneir ganddynt.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw Cymdeithas Drigolion a Thenantiaid?
Cymdeithas Drigolion a Thenantiaid yw sefydliad a ffurfir gan bobl leol sy’n byw ger tai Cyngor. Mae’r gymdeithas yn cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr ac mae’n rhaid iddi fod ar agor i bawb sy’n byw yn yr ardal y mae’n ei chwmpasu.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A oes Cymdeithas Drigolion a Thenantiaid yn fy ardal i?
Ar hyn o bryd, cydnabyddir dros 20 o Gymdeithasau Trigolion a Thenantiaid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cliciwch yma i weld os oes cymdeithas yn eich ardal chi. Am wybodaeth ynghylch sut i gysylltu â Chymdeithas Drigolion a Thenantiaid benodol, ffoniwch y Swyddog Polisi ar 01978 315449 neu e-bostiwch housing@wrexham.gov.uk.
Ar hyn o bryd, mae Cymdeithasau Trigolion a Thenantiaid yn yr ardaloedd canlynol
- Acton a Maesydre
- Afon
- Barracksfield
- Bryn Offa
- Bryn Y Brain (Rhosllannerchrugog)
- Brymbo
- Cefn a’r Cylch
- Coedpoeth a’r Cylch
- Cylch Kingsley
- Huntroyde
- Llwyn Stockwell
- Pant (Rhosllannerchrugog)
- Penycae
- Pentre Maelor
- Plas Madoc
- Pentre Gwyn/Tanycoed
- Rhiwabon
- Rhosnesni
- Spring Lodge
- Stryt Nelson/Sgwâr Napier
- Whitegate
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut ydw i’n sefydlu Cymdeithas Denantiaid yn fy ardal i?
Cysylltwch a’r Swyddog Polisi Cyfathrebu am gyngor arbenigol a chyfeillgar. Bydd ef yn esbonio wrthych sut i sefydlu a rhedeg Cymdeithas Drigolion a Thenantiaid. Gellwch gysylltu ag ef drwy ffonio 01978 315449, ysgrifennu at Wasanaethau Tai Wrecsam, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, LL13 7TU, neu anfon e-bost at housing@wrexham.gov.uk
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A oes unrhyw nawdd ar gael i Grwpiau Tenantiaid?
Mae nawdd ar gael i sefydlu Cymdeithasau Trigolion a Thenantiaid, ac unwaith i chi sefydlu’r gymdeithas a chael cydnabyddiaeth ffurfiol gan y Cyngor, mae cymorth grant pellach ar gael. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddog Polisi Cyfathrebu ar 01978 315449, ysgrifennwch at Wasanaethau Tai Wrecsam, Ffordd Rhuthun, Wrecsam, LL13 7TU neu ebostiwch housing@wrexham.gov.uk.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau







