Cwestiynau Cyffredin

Budd-dâl Analluogrwydd

Gweler hefyd Gwybodaeth am Fudd-dâl Analluogrwydd ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau

Pwy all hawlio Budd-dâl Analluogrwydd?

Mae'r Budd-dâl Analluogrwydd ar gyfer:

  • Pobl na allant weithio oherwydd salwch, sydd

  • rhwng 16 a 60 oed ar gyfer benywod, neu rhwng 16 a 65 ar gyfer gwrywod, ac

  • sydd wedi talu cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol, ac

  • nad ydynt yn derbyn Tâl Salwch Statudol.

Hwyrach y gellwch hawlio Cymhorthdal Incwm hefyd, neu gymorth arall gyda chostau tai. Mae rheolau arbennig ar gyfer pobl rhwng 16 a 60 oed.

Er mwyn hawlio, rhaid i chi gael nodyn salwch gan eich Meddyg Teulu (GP).

 

yn ôl i'r brig