Llyfrgelloedd
Sut mae ymuno â'r Llyfrgell?
Gallwch chi ymaelodi â'r Llyfrgell am ddim. Bydd angen dwy ddogfen
adnabod a rhaid i un ohonyn nhw ddangos eich enw a'ch cyfeiriad presennol.
Rhaid i'r llall ddangos eich llofnod.
O dan 16 mlwydd oed: Mae angen i chi ddangos prawf adnabod. Myfyrwyr
o'r tu allan i'r ardal: mae angen prawf o naill ai eich cyfeiriad cartref
neu eich cyfeiriad lleol. Rydym yn barod i dderbyn llythyr oddi wrth diwtor
ar bapur swyddogol.
yn ôl i'r brig | yn ôl i Fynegi FAQ
Faint o eitemau y galla i eu benthyhca, am faint
y galla' i eu cadw, ac a alla i eu hadnewyddu dros y ffôn?
Gall oedolion fenthyca hyd at 15 eitem; gall aelodau iau fenthyca hyd
at 10 eitem. Y cyfnod benthyca yw tair wythnos. Gallwch chi adnewyddu
eitemau dros y ffôn, ffacs, drwy lythyr, ar e-bost, arlein, neu
drwy alw i mewn yn y llyfrgell. Dyfynnwch eich rhif sydd ar y cerdyn aelodaeth.
yn ôl i'r brig | yn ôl i Fynegi FAQ
Pryd rydych chi ar agor?
Mae oriau agor ein llyfrgelloedd yn amrywio. Ewch i'n gwefan
i gael manylion am eich llyfrgell leol chi.
yn ôl i'r brig | yn ôl i Fynegi FAQ
A alla' i fynd ar y Rhyngrwyd yn y llyfrgell
ac a ydych chi'n cynnig hyfforddiant?
Mae mynediad am ddim i'r Rhyngrwyd ymhob llyfrgell. Byddai'n well i chi
fwcio ymlaen llaw er mwyn gwneud yn siwr bod cyfrifiadur ar gael ar eich
cyfer ar yr adeg rydych chi eisiau galw i mewn. Dewch â'ch cerdyn
aelodaeth o'r llyfrgell gyda chi neu brawf o'ch enw a'ch cyfeiriad os
gwelwch yn dda. Mae'r cyfan am ddim.
Gall y staff roi cyflwyniad syml i chi i'r Rhyngrwyd. Gallan nhw eich
helpu chi i ddod o hyd i gwrs addas yn yr ardal hefyd, neu, os yw'n well
gennych, gallwch chi ddysgu sut i ddefnyddio'r Rhyngrwyd am ddim yn y
Llyfrgell. Gofynnwch i aelod o'r staff am fanylion.
yn ôl i'r brig | yn ôl i Fynegi FAQ
Alla i wneud ychydig o waith teipio yn y llyfrgell?
Mae pob llyfrgell yn cynnig cyfleusterau prosesu geiriau AM DDIM. Fe'ch
cynghorir i fwcio cyfrifiadur ymlaen llaw. Dewch â'ch cerdyn aelodaeth
o'r llyfrgell neu brawf o'ch enw a'ch cyfeiriad os gwelwch yn dda.
yn ôl i'r brig | yn ôl i Fynegi FAQ
A oes gennych chi beiriant ffacs neu lungopïwr
lliw?
Mae'r cyfleusterau hyn ar gael yn Llyfrgell Wrecsam, Ffordd Rhosddu,
Wrecsam (ffôn: 01978 292090). Pris anfon neges ffacs o fewn Prydain
yw £1.50 am y dudalen A4 gyntaf (60c y dudalen am bob tudalen arall).
Pris derbyn neges ffacs ydy £1.00 am y dudalen A4 gyntaf (50c am
bob tudalen arall). Mae peiriant ffacs yn Llyfrgell Brynteg hefyd.
Costau llungopïo:
Du a gwyn: 10c am dudalen A4; 15c am dudalen A3
Lliw: £1 am dudalen A4; £1.50 am dudalen A3
Mae cyfleusterau llungopïo du a gwyn ar gael yn llyfrgelloedd Brymbo,
Brynteg, Cefn Mawr, Rhos a'r Waun.
|