Trwyddedu
Trwyddedau Cerbydau Hacnai a Hurio Preifat
Cofrestru ar gyfer loterïau
Cofrestru fel goruchwylwyr drws
Casgliadau stryd ac o dy i dy
Gweler hefyd gwybodaeth am drwyddedau a ffurflenni cais trwyddedu – ar gael i'w lawrlwytho o'r wefan hon.
A oes angen trwydded arnaf i gasglu arian ar y stryd neu o dy i dy?
Oes. Mae angen trwydded gan yr Awdurdod arnoch er mwyn casglu arian ar y stryd neu mewn tafarndai neu o dy i dy. Bydd gofyn i chi roi rhybudd o 28 diwrnod o'r bwriad i wneud y casgliad. Gallwch lawrlwytho ffurflenni cais a nodiadau cyfarwyddyd neu maent ar gael o'r cyfeiriad uchod.
Cyswllt i weld ffurflenni cais trwyddedu | Cyswllt i lawrlwytho ffurflenni cais trwyddedu
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A fydd raid i mi dalu ffi i gasglu arian ar y stryd neu o dy i dy?
Na fydd, nid oes unrhyw daliadau.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut wyf yn dod yn weithredwr hurio preifat?
- Mae angen trwydded gweithredwr hurio preifat arnoch er mwyn cario teithwyr mewn cerbydau hurio preifat. Mae'n bosibl y bydd raid i chi gael caniatâd cynllunio gan Adran Gynllunio'r Cyngor er mwyn defnyddio'r adeilad.
-
Bydd angen tystysgrif o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus arnoch os oes gan y cyhoedd fynediad i'r eiddo e.e. ystafell aros, ayb. Fodd bynnag, os nad yw'r cyhoedd yn mynd i mewn i'r adeilad i aros ac ati neu os bwriadwch weithredu eich cerbyd eich hun o'ch cartref, ni fydd angen yr yswiriant hwn arnoch.
Mae'n rhaid gwirio i weld a oes gennych unrhyw euogfarnau. Bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen gais datgelu sylfaenol a gyflwynir i'r Swyddfa Cofnodion Troseddol.
Gofynnir i chi ddod â dogfennau cefnogol gyda chi, fel a ganlyn:
- eich trwydded yrru sy'n dangos eich cyfeiriad presennol
- eich pasport a/neu dystysgrif geni
- dau lun lliw maint pasport
- Mae'r ffi'n dibynnu ar nifer y cerbydau y bwriadwch eu gweithredu.
- Gallwch lawrlwytho ffurflenni cais a nodiadau cyfarwyddyd neu gallwch eu cael o'r depo ar Ffordd yr Abaty. Rhaid dychwelyd y ffurflenni'n bersonol ynghyd â'r dogfennau cefnogol.
Sut i gysylltu...
Ffurflenni Cais, Trwyddedau a Phrofi Cerbydau:
Cyfeiriad: Adran yr Amgylchedd
Depo Cludiant
Ffordd yr Abaty
Ystad Ddiwydiannol Wrecsam
Wrecsam LL13 8ZE
Ffôn: 01978 729600
Materion Gorfodaeth:
Ffôn: 01978 292040
Adran Tai a Diogelu'r Cyhoedd
Is-Adran Trwyddedu
Adeiladau'r Goron
Stryt Caer
Wrecsam LL13 8BG
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut wyf yn cael trwydded gyrrwr cerbyd hacnai/hurio preifat?
- Gallwch lawrlwytho ffurflenni cais a nodiadau cyfarwyddyd neu gallwch eu cael o'r depo ar Ffordd Abaty. Rhaid dychwelyd y ffurflenni'n bersonol ynghyd â'r dogfennau cefnogol.
-
Mae'n rhaid gwirio i weld a oes gennych unrhyw euogfarnau. Bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen gais datgelu sylfaenol a gyflwynir i'r Swyddfa Cofnodion Troseddol.
Gofynnir i chi ddod â dogfennau cefnogol gyda chi, fel a ganlyn:
- eich trwydded yrru sy'n dangos eich cyfeiriad presennol
- eich pasport a/neu dystysgrif geni
- dau lun lliw maint pasport
- Nid oes raid i chi gwblhau'r ffurflen feddygol ar hyn o bryd. Gallech aros hyd nes i'r gwiriadau gofynnol gael eu cwblhau a'u dychwelyd atom.
Sut i gysylltu...
Ffurflenni Cais, Trwyddedau a Phrofi Cerbydau:
Cyfeiriad: Adran yr Amgylchedd
Depo Cludiant
Ffordd yr Abaty
Ystad Ddiwydiannol Wrecsam
Wrecsam LL13 8ZE
Ffôn: 01978 729600
Materion Gorfodaeth:
Ffôn: 01978 292040
Adran Tai a Diogelu'r Cyhoedd
Is-Adran Trwyddedu
Adeiladau'r Goron
Stryt Caer
Wrecsam LL13 8BG
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth os oes gennyf euogfarnau?
Ni fydd datgelu record troseddol neu unrhyw wybodaeth arall yn eich atal rhag cael trwydded oni bai bod y Cyngor yn teimlo nad ydych yn unigolyn priodol ac addas i ddal trwydded. Os nad yw euogfarnau wedi dod i ben, cewch eich cyfeirio at y Pwyllgor Trwyddedu Amgylcheddol sy'n cynnwys 14 aelod etholedig.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut wyf yn cael trwydded cerbyd hacnai/hurio preifat?
Mae ffurflenni cais ar gael o'r depo ar Ffordd yr Abaty, Wrecsam. Nid oes terfyn oedran ar gyfer cerbydau ond mae'n rhaid iddynt gydymffurfio ag amodau cerbyd y Cyngor. Gwneir profion yn y depo, ffoniwch i gael apwyntiad. Unwaith i'r cerbyd gael ei blât, mae'n destun dau brawf y flwyddyn. Mae'r prawf cyntaf ar gyfer platiau blwyddyn ac mae'r ail brawf yn gwirio cydymffurfiad.
Bydd ffi'n daladwy. Cyswllt i weld y Ffioedd Ymgeisio
Sut i gysylltu...
Ffurflenni Cais, Trwyddedau a Phrofi Cerbydau:
Cyfeiriad: Adran yr Amgylchedd
Depo Cludiant
Ffordd yr Abaty
Ystad Ddiwydiannol Wrecsam
Wrecsam LL13 8ZE
Ffôn: 01978 729600
Materion Gorfodaeth:
Ffôn: 01978 292040
Adran Tai a Diogelu’r Cyhoedd
Is-Adran Trwyddedu
Adeiladau'r Goron
Wrecsam
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng cerbydau hacnai a cherbydau hurio preifat?
Dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a Deddf Cymalau Heddlu Trefi 1847, mae'r Is-Adran Trwyddedu'n gyfrifol am drwyddedu cerbydau hacnai a gyrwyr cerbydau hacnai a cherbydau, gyrwyr a gweithredwyr hurio preifat.
Yn y fwrdeistref hon, mae dau fath o gerbyd – cerbyd hacnai a cherbyd hurio preifat. Mae'n hawdd gwahaniaethu rhwng y ddau. Mae cerbydau hacnai'n dacsis 'Llundain' a adeiladwyd i'r pwrpas. Mae cerbydau hurio preifat yn gerbydau 'salwn' ond maent yn cynnwys bysiau mini sy'n cynnwys hyd at 8 sedd i deithwyr.
Mae cerbydau hacnai'n arddangos plât porffor ar gefn y cerbyd, sy'n dwyn y rhif cofrestru a dyddiad dod i ben y plât. Bydd arwydd 'tacsi' wedi ei oleuo ar do'r cerbyd.
Mae gan gerbydau hurio preifat blât gwyn tu blaen a thu cefn i'r cerbyd, unwaith eto â'r rhif cofrestru a'r dyddiad dod i ben. Bydd rhif y cerbyd hurio preifat ar y drysau.
Mae pob gyrrwr cerbyd hacnai/hurio preifat yn cario bathodyn adnabod â llun arno. Dylech wirio bod gan eich gyrrwr y bathodyn hwn cyn teithio yn y cerbyd.
Y gwahaniaeth sylfaenol rhwng y ddau fath o gerbyd yw bod modd 'fflagio' cerbydau hacnai ar y stryd ond mae'n rhaid neilltuo cerbydau hurio preifat ymlaen llaw. Os yw gyrrwr hurio preifat yn derbyn teithwyr ar y stryd heb iddynt neilltuo'r cerbyd ymlaen llaw, gellir ei erlid. Os byddwch yn teithio mewn cerbyd hurio preifat rydych wedi fflagio'r gyrrwr ar y stryd, dylech gofio ei fod yn bosibl na fydd y cerbyd wedi ei yswirio i gario teithwyr yn y ffordd hon ac os cewch eich anafu oherwydd damwain yn y cerbyd hwnnw, ni fyddwch yn gallu hawlio iawndal.
Dim ond gyrwyr a drwyddedir i yrru cerbydau hacnai/hurio preifat all yrru'r ddau fath o gerbyd.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut wyf yn cwyno am yrrwr hacnai/hurio preifat?
Gallwch gwyno mewn llythyr trwy ysgifennu at y:
Prif Swyddog Tai a Diogelu'r Cyhoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adeiladau'r Goron
Stryt Caer
Wrecsam LL13 8BG
neu drwy ffonio'r Is-Adran Trwyddedu ar 01978 292040.
Byddai'n ddefnyddiol pe gallech roi manylion o rif cofrestru neu rif plât y cerbyd neu rif bathodyn adnabod y gyrrwr.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Gwybodaeth am Oruchwylwyr Drysau: Mae Pethau'n Newid!
Lansiwyd yr Awdurdod Diwydiant Diogeledd ar 2 Ebrill 2003 er mwyn gweithredu Deddf Diwydiant Diogeledd Preifat 2001. Bydd raid i oruchwylwyr drysau gael eu cymeradwyo a'u trwyddedu gan yr ADD. Rhoddir y drwydded yn amodol ar wiriad heddlu a chwblhau hyfforddiant a bennir gan yr ADD. Mae modd defnyddio'r drwydded ledled Cymru a Lloegr. Bydd y rhaglen yn cael ei hestyn ledled y wlad yn raddol gan ddechrau yn Hampshire. Yn y cyfamser, byddwch yn parhau i gael eich trwyddedu gan Gyngor Wrecsam.
Gallwch gofrestru gyda'r ADD nawr a byddant yn rhoi'r manylion diweddaraf i chi. Gallwch roi eich manylion iddynt ar 08702 430 100.
Am fwy o wybodaeth am y drefn drwyddedu newydd, ewch i: www.the-sia.org.uk.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A oes raid i mi gofrestru i werthu tocynnau loteri?
Os yw'r tocynnau'n cael eu gwerthu i'r cyhoedd, mae'n rhaid i chi ymgeisio i'r Awdurdod. Gallwch lawrlwytho ffurflenni cais a nodiadau cyfarwyddyd neu maent ar gael o'r cyfeiriad canlynol.
Unwaith i ni gymeradwyo eich cais ac unwaith i chi dalu'r ffi, byddwn yn anfon y dystysgrif gofrestru atoch.
O fewn 3 mis o ddiwrnod y loteri, rhaid i chi ddychwelyd ffurflen wybodaeth atom. Gallwch lawrlwytho hon neu mae ar gael o'r cyfeiriad canlynol.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw'r gost?
Cyswllt i weld Ffioedd Ymgeisio am Drwydded | Cyswllt i lawrlwytho Ffurflenni Cais Trwyddedu
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Gwybodaeth gyswllt:
Ffôn: 01978 292040
Ffacs: 01978 297003
Ebost: environmental@wrexham.gov.uk | Ffurflen ymholiadau cyffredinol ar-lein
Cyfeiriad:
Adran Tai a Diogelu'r Cyhoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adeiladau'r Goron
Wrecsam
LL13 8BG
|