Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
 
English
 
 

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 

Cwestiynau Cyffredin

 

Trafnidiaeth Gyhoeddus yn Wrecsam

Sut allaf gael gwybodaeth am wasanaethau bws lleol yn Wrecsam?
Sut allaf gael gwybodaeth am wasanaethau coetsis?
Sut allaf ddod o hyd i amseroedd trenau?
Sut allaf gyflwyno awgrymiadau ar gyfer y gwasanaeth bws?
Sut allaf gwyno am y gwasanaeth bws?
Pwy ddylwn i siarad â nhw am eiddo coll?
Pwy sydd â hawl i deithio am ddim?
Ar ba wasanaethau y gellir teithio am ddim?
A oes unrhyw adegau pan nad yw'r tocynnau mantais yn ddilys?
Beth fydd ei angen arnaf i deithio am ddim?
A ydych yn codi tâl am docynnau mantais?
Sut ydw i'n gwneud cais am docyn mantais?
Beth yw Bws Gwennol Wrecsam?
Pam fu i'r Cyngor gyflwyno Bws Gwennol Wrecsam?
Sut ydw i'n defnyddio Bws Gwennol Wrecsam?
Pwy sy'n talu am Fws Gwennol Wrecsam?
A fyddwch yn cyflwyno'r gwasanaeth mewn rhannau eraill o'r fwrdeistref sirol?

 

 


^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

Sut allaf gael gwybodaeth am wasanaethau bws lleol yn Wrecsam?

Galwch heibio i swyddfa Llinell Fysiau Wrecsam yn yr orsaf fysiau newydd, Stryt y Brenin.

Oriau agor:

Dydd Llun i ddydd Gwener 0845 - 1300 a 1330 - 1700,
dydd Sadwrn 0845 - 1300.

  • Ffoniwch Linell Fysiau Wrecsam ar 01978 266 166.
    dydd Llun i ddydd Gwener 0845 - 1700 a dydd Sadwrn 0845 - 1300.
  • Ffoniwch Traveline Cymru 0871 200 22 33.
  • Ceir gwybodaeth hefyd yn.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 


Sut allaf gael gwybodaeth am wasanaethau coetsis?

Ffoniwch: National Express ar 08705 808080 neu asiantau lleol: Key Travel, Stryt y Brenin, Wrecsam ar 01978 351948.

Gwybodaeth ychwanegol: www.nationalexpress.com

^ back to the top | Back to FAQ Index

 

Sut allaf ddod o hyd i amseroedd trenau?

Ffoniwch y Llinell Ymholiadau Genedlaethol ar 0845 48 49 50 (Cymraeg: 0845 60 40 500) neu defnyddiwch y teclyn cynllunio teithiau sydd ar y we - www.nationalrail.co.uk.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 

Sut allaf gyflwyno awgrymiadau ar gyfer y gwasanaeth bws?

Cysylltwch â'r Cyngor Bwrdeistref Sirol yn Adeiladau'r Goron, Stryt Caer, Wrecsam LL13 8BG, ffoniwch 01978 297131, neu anfonwch e-bost at webmaster@wrexham.gov.uk

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 



Sut allaf gwyno am y gwasanaeth bws?

Mae angen i chi gysylltu â'r cwmni bysiau dan sylw. Os nad ydych yn fodlon â'r ymateb a gewch, ysgrifennwch at: Bus Appeals Body, PO Box 320, Portsmouth PO5 3SD. Gweler y weithdrefn gwyno yn: www.bususers.org/complain.htm

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 

Pwy ddylwn i siarad â nhw am eiddo coll?

Mae angen i chi gysylltu â'r cwmni bysiau dan sylw. I ddod o hyd i'w manylion, ewch i: www.wrexham.gov.uk/welsh/LINKS_W/links_transport.htm.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 



Pwy sydd â hawl i deithio am ddim?

Mae tocynnau mantais ar gael i drigolion Wrecsam sydd naill ai dros 60 oed neu sydd ag anableddau penodol. Am fanylion a ffurflen gais, ewch i: www.wrexham.gov.uk/welsh/travel/bus/concessionary_travel.htm

Fel arall, cysylltwch â Teithio am Ddim ar 01978 292037 e-bost webmaster@wrexham.gov.uk

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 



Ar ba wasanaethau y gellir teithio am ddim?

Pob gwasanaeth bws lleol sydd wedi cofrestru. Ni fyddwch yn gallu teithio am ddim ar goetsis sy'n teithio'n bell, ar drenau nac ar y rhan fwyaf o wasanaethau cludiant cymunedol. Nid oes unrhyw gyfyngiadau penodol o ran teithio am ddim, cyn belled â bod:

(a) deilydd y tocyn mantais yn ei ddefnyddio ar wasanaethau dilys,

(b) deilydd y tocyn mantais yn cydymffurfio ag amodau'r cynllun,

(c) y daith yn dechrau neu'n gorffen yng Nghymru

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 



A oes unrhyw adegau pan nad yw'r tocynnau mantais yn ddilys?

Nac oes. Gellwch ddefnyddio'r tocyn mantais ar unrhyw adeg ac ar unrhyw ddiwrnod yn ystod yr wythnos.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 



Beth fydd ei angen arnaf i deithio am ddim?

Bydd angen tocyn bws arnoch a ddosberthir gan y cyngor lleol. A fyddech cystal â nodi nad yw tocynnau'n cael eu dosbarthu ar unwaith - cânt eu postio atoch ar ôl iddynt gael eu prosesu. Am ffurflen gais, ewch i: www.wrexham.gov.uk/welsh/travel/bus/concessionary_travel.htm

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 



A ydych yn codi tâl am docynnau mantais?

Nac ydym. Fodd bynnag, rydym yn codi tâl am amnewid unrhyw gardiau sydd wedi'u colli, eu dwyn neu eu difrodi.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 



Sut ydw i'n gwneud cais am docyn mantais?

Mae ffurflenni cais ar gael gan y rhan fwyaf o swyddfeydd y Cyngor, neu drwy ffonio 01978 297131 neu e-bostio: webmaster@wrexham.gov.uk.

Fel arall, dilynwch y cyswllt hwn: www.wrexham.gov.uk/welsh/travel/bus/concessionary_travel.htm

Bydd angen i chi ddarparu llun diweddarach ohonoch sydd o faint llun pasbort, tystiolaeth o'ch cyfeiriad a'ch hawl i gael tocyn mantais.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 



Beth yw Bws Gwennol Wrecsam?

Gwasanaeth cludo yw Bws Gwennol Wrecsam a sefydlwyd gan Gyngor Wrecsam i ddarparu cludiant i bobl sy'n byw yn ardaloedd Borras, Acton, Rhosddu a Garden Village yn Wrecsam ac sydd am deithio i Ystad Ddiwydiannol Wrecsam. Rhaid i chi gofrestru i ddefnyddio'r gwasanaeth. Ceir mwy o wybodaeth a chyfleuster neilltuo teithiau drwy ffonio'r ganolfan alwadau ar 08708 50 51 55.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 



Pam fu i'r Cyngor gyflwyno Bws Gwennol Wrecsam?

Roedd Cyngor Wrecsam yn dyheu am gyflwyno gwasanaeth a fyddai'n ymateb i'r galw a fyddai'n rhoi dewis ymarferol arall i'r car preifat i bobl sy'n byw mewn ardaloedd heb unrhyw gludiant uniongyrchol i'r ystad, sy'n cyflogi ryw 7,000 o staff. Gobeithir y bydd cyflwyno'r gwasanaeth hwn yn arwain at lai o dagfeydd, gwell recriwtio a dargadw ymhlith y gweithwyr a mynediad rhwyddach i'r ystad, yn enwedig i'r rheiny sydd heb eu cludiant eu hunain.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 



Sut ydw i'n defnyddio Bws Gwennol Wrecsam?

Cewch fwy o wybodaeth am y Bws Gwennol drwy ofyn am daflen (sydd ar gael gan nifer o gwmnïau neu'r orsaf fysiau ar Stryt y Brenin, neu drwy ffonio'r Gwasanaeth Cydlynu Cludiant ar 01978 297130/1). Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gofrestru ac yna cysylltu â'r ganolfan alwadau ar 08708 50 51 55 i neilltuo'r daith neu gyfres o deithiau.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 



Pwy sy'n talu am Fws Gwennol Wrecsam?

Ariennir Bws Gwennol Wrecsam gan Grant Cludiant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, gyda Chyngor Wrecsam yn darparu canran lai o'r costau gweithredu.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau



A fyddwch yn cyflwyno'r gwasanaeth mewn rhannau eraill o'r fwrdeistref sirol?

Mae Cyngor Wrecsam yn gobeithio y gall ymestyn manteision y gwasanaeth ymatebol hwn i ddalgylch ehangach yn y dyfodol, ond bydd hyn yn dibynnu ar dderbyn mwy o nawdd.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     


CBSW
Hawlfraint