Archwiliad yn Wrecsam
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw pwrpas archwilio?
Mae pwyllgorau archwilio’n cynnwys yr holl aelodau (neu gynghorwyr) nad ydynt yn aelodau o’r ar Bwrdd Gweithredol. Eu prif bwrpas yw olygu a gwella gwasanaethau’r Cyngor, gwneud argymhellion ar ddewisiadau polisi’r dyfodol a gwirio penderfyniadau’r Bwrdd Gweithredol a’I wneud yn atebol am ei benderfyniadau.
Mae’r swyddogaeth archwilio’n bwysig felly or ran dangos atebolrwydd y Cyngor. Er enghraifft, gall aelodau archwilio ofyn I aelodau’r Bwrdd Gweithredol a swyddogion fynychu eu cyfarfodydd I esbonio eu penderfyniadau.
Mae gan Wrecsam bum pwyllgor archwilio:-
Mae’r Grŵp Cydlynu Cyd-Gadeiryddion yn arolygu a chyd-drefnu llwyth gwaith y pum pwyllgor archwilio.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth all pwyllgorau archwilio ei wneud?
- Arolygu polisiau a phenderfyniadau
- Bod yn rhan o ddatblygu polisiau
- Gwneud y Bwrdd Gweithredol a swyddogion y Cyngor yn atebol
- Cyflawni arolygon er mwyn gwella gwasanaethau
- Arolygu ac archwilio gwasanaetha asiantaethau allanol sy’n effeithio are bobl Wrecsam
- Gwneud argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth
- Cyfeirio argymhellion at y Bwrdd Gweithreddol neu’r Cyngor llawn, fel sy’n briodol.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Sut y daw gwaith I'r pwyllgorau archwilio?
Gall pwyllgorau archwilio dderbyn awgrymiadau o sawl ffynhonnell, gan gynnwys y cyhoedd, aelodau unigol a swyddogion. Gall pop pwyllgo nodi eu meysydd arolygu eu hunain.
Byddan yn ysteried blaenoriaethau Wrecsam, beth sydd angen ei wella a sut gallant wneud gwahaniaeth.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A allaf chwarae rhan yn y broses?
Gallwch. Gall y cyhoedd fynychu cyfarfodydd y pwyllgorau archwilio (ac eithrio pan drafodir eitemau personol neu gyfrinachol).
Cyhoeddir agendâu ymlaen llaw ac meant ar gael ar wefan y Cyngor.
Mae pob pwyllgor yn cyfarfod bob mis fel arfer, er y trefnir cyfarfodydd ychwanegol yn dibynnu ar y mater I’w arolygu.
Ar hyn o bryd, cynhelir y rhan fwyaf o’r cyfarfodydd yn Ystafell Bwyllgor 3 Neuadd y Dref. Fodd bynnag, y bwriad yw cynnal cyfrfodydd mewn lleoliadau eraill yn hwyrach.
Gall y Tîm Archwilio roi gwybodaeth bellach I chi ar sut I chwarae rhan.
Tîm Archwilio
Adran Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Blwch SP 1284
Neuadd y Dref
Wrecsam
LL11 1WF
Ffôn: 01978 292257
Ebost: scrutiny@wrexham.gov.uk
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
|