Llamu Cysylltiadau    
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam - cartref
 
Cartref | Canllawiau Mynediad | Map o'r Safle | Gwasanaethau A-Y | Cwestiynau Cyffredin | Cysylltwch â Ni | Ieithoedd
 
English
 
 

   
Cyngor    

   
Busnes a
Diwydiant
   

   
Cymuned
a Bywyd
   

   
Addysg    

   
Gwasanaethau
Lleol y Cyngor
   

   
Hamdden a
Thwristiaeth
   

   
Cwestiynau Cyffredin    

   
Cyfleusterau Ar Lein    

   
   
   
   
     
 

Cwestiynau Cyffredin

 

Twristiaeth

 

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau

Pa lyfrynnau cyhoeddusrwydd y mae'r Adran Dwristiaeth yn eu darparu?

Ceir dau brif lyfryn twristiaeth: Gororau Gogledd Cymru sy'n cwmpasu'r ardal ddaearyddol ehangach a Wrecsam Go Iawn, sef canllaw pwrpasol i ymwelwyr am y fwrdeistref sirol gyfan.

Mae gan y ddau ohonynt ddosbarthiad eang a cheir costau hysbysebu drwy gysylltu â'r Adran Dwristiaeth ar 01978 292010 neu tourism@wrexham.gov.uk. Gellwch ofyn am gopi caled neu lawrlwytho copi oddi ar y gwefannau priodol www.borderlands.co.uk, www.wrecsam.gov.uk. Mae Wrecsam Go Iawn hefyd ar gael yn y Gymraeg.

'Be' sy' 'Mlaen?'

Mae'r Adran hefyd yn cynhyrchu 'Digwyddiadur' cynhwysfawr gan roi manylion digwyddiadau a gynhelir yn y fwrdeistref sirol. Mae hwn ar gael yn ddwyieithog ac fe'i gynhyrchir unwaith bob chwarter. Os ydych am gynnwys digwyddiad yn y canllaw, defnyddiwch y ffurflen ar y wefan hon neu ffoniwch yr Adran Dwristiaeth ar 01978 292010. I gael copi, e-bostiwch tic@wrexham.gov.uk lle gellwch hefyd wneud cais i gael eich cynnwys ar y rhestr bostio. Mae'r canllaw hefyd ar gael mewn amrywiaeth eang o leoliadau ledled y fwrdeistref sirol.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau



A oes unrhyw ystadegau ar gael am dwristiaeth?

Mae Adran Dwristiaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cydlynu rhaglen ymchwil barhaus ar gyfer gogledd Cymru o'r enw STEAM. Nod y prosiect yw gwerthuso maint a gwerth twristiaeth ac mae'n casglu gwybodaeth am nifer yr ymwelwyr a chyfraddau llenwi ar gyfer pob gweithredwr twristiaeth yng ngogledd Cymru. Ceir crynodeb o'r canlyniadau ar wefan y Cyngor drwy'r tudalennau twristiaeth.

Mae mwy o wybodaeth am ystadegau twristiaeth ar gael ar gais. Ffoniwch 01978 292010 neu e-bostiwch tourism@wrexham.gov.uk

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau



A yw'r Cyngor yn darparu grantiau ar gyfer busnesau twristiaeth?

Nid oes gan CBSW unrhyw raglen grantiau penodol ar gyfer twristiaeth - dylid cysylltu â Bwrdd Croeso Cymru ar 01745 589024 neu drwy'r wefan www.wtbonline.gov.uk.

^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau



Sut i gael arwyddion brown ag ysgrifen wen ar gyfer lleoliadau yn y fwrdeistref sirol?

Mae ffurflenni ar gael gan yr Adran Gludiant ar 01978 297139 ond ceir cyngor ar feini prawf cymhwyster gan yr Adran Dwristiaeth ar 01978 292010 neu tourism@wrexham.gov.uk


^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau


Sut allaf ddod o hyd i lety?

Cysylltwch â'r Ganolfan Groeso ar 01978 292015. Maent yn cadw rhestr ddiweddar o'r holl letyau graddedig yn yr ardal a gallant neilltuo ar eich rhan yn lleol ac ar draws y DU.


^ yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau



 
         
     
Yn ôl i'r brig

Cysylltwch â Ni | Ymateb Gwefan | ebost: webmaster@wrexham.gov.uk |
Datganiad Preifatrwydd | Gwybodaeth Diogelu Data | Rhyddid Gwybodaeth | Ymwadiadau

     


CBSW
Hawlfraint