Cwestiynau a Ofynnir yn Aml Safonau Masnach
- Beth yw'r camau cyntaf y dylwn eu cymryd pan fo gennyf broblem gyda nwyddau new wasanaeth?
- Beth yw fy hawliau os byddaf yn newid fy meddwl ynghylch eitem rwyf wedi brynu mewn siop, a phen derfynu nad wyf ei eisiau?
- A oes unrhyw amgylchiadau lle bo gennyf hawl i newid fy meddwl yn ôl y gyfraith?
- A all manwerthwyr mynnu fy mod yn delio â'r gwneuthurwr pan fydd problem yn codi?
- A oes raid i fasnachwyr roi gwarantiad ysgrifenedig i mi?
- Os na chaf warant ysgrifenedig, beth yw'm hawliau a pha mor hir fydd yr hawliau hyn yn para?
- A oes gennyf unrhyw hawliau wrth brynu nwyddau ail-law?
- A oes gennyf unrhyw hawliau os byddaf yn prynu gan werthwr preifat e.e. car neu nwyddau eraill o hysbyseb bychan yn y papur newydd lleol?
- A yw'n bosibl i fasnachwyr arddangos rhybuddion "Dim ad-daliadau", a dibynnu ar y rhybuddion hyn i wrthod ad-daliad ar gyfer nwyddau diffygiol?
- A yw prynu ar gredyd yn rhoi unrhyw ddiogelwch ychwanegol i mi?
- A oes angen i mi geisio barn arbenigwr ar y broblem?
- A ydych yn ymdrin â phroblemau gyda gwasanaethau ariannol ac yswiriant?
Gweler hefyd gywbodaeth mwy am Safonau Masnach.
Beth yw'r camau cyntaf y dylwn eu cymryd pan fo gennyf broblem gyda nwyddau new wasanaeth?
Hysbysu'r masnachwr y prynasoch y nwyddau ganddynt neu'r person y gwnaethoch eu contractio I ddarparu'r gwasanaeth. Os na chaiff y broblem ei datrys ar unwaith, y peth callaf fyddai cyflwyno eich cwyn yn ysgrifenedig. Anfonwch y llythyr drwy ddanfoniad cofnodedig. Mae gennym lyfryn I'ch helpu gyda hyn.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw fy hawliau os byddaf yn newid fy meddwl ynghylch eitem rwyf wedi brynu mewn siop, a phen derfynu nad wyf ei eisiau?
Nid oes gennych hawl awtomatig I gael ad-daliad o dan yr amgylchiadau hyn. Fodd bynnag, mae nifer o fanwerthwyr yn caniatáu i chi newid eich meddwl o fewn cyfnod arbennig, ar yr amod bod modd ailwerthu'r nwyddau. Byddant fel arfer yn gofyn am brawf eich bod wedi prynu'r nwyddau e.e. y dderbynneb.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A oes unrhyw amgylchiadau lle bo gennyf hawl i newid fy meddwl yn ôl y gyfraith?
Oes - mewn rhai amgylchiadau, os byddwch wedi llofnodi cytuneb y tu allan i'r adeilad busnes e.e. yn eich cartref, efallai y bydd gennych gyfnod ailfeddwl lle gallwch newid eich meddwl. O ran cytundebau credyd a lofnodwyd y tu allan i'r adeilad busnes, fel arfer bydd gennych gyfnod o bum niwrnod i'w canslo. O ran cytundeb a wnaed yn eich cartref yn dilyn ymweliad digymell gan y masnachwr, fel arfer bydd gennych saith diwrnod i'w ganslo. Fodd byn nag, os bydd masnachwr yn darparu gwasanaeth yn ystod y cyfnod ailfeddwl, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw waith a gyflawnir.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A all manwerthwyr mynnu fy mod yn delio â'r gwneuthurwr pan fydd problem yn codi?
Na, ond mi all fod yn gynt ac yn haws i ddatrys y broblem drwy'r gwneuthurwr o dan warantiad. Yn aml, bydd manwerthwyr eisiau ceisio barn y gwneuthurwr ynglyn â pham bo problem wedi codi, ac fel arfer, byddwn yn eich cynghori i'w caniatáu i wneud hyn.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A oes raid i fasnachwyr roi gwarantiad ysgrifenedig i mi?
Nac Oes.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
Os na chaf warant ysgrifenedig, beth yw'm hawliau a pha mor hir fydd yr hawliau hyn yn para?
Mae gennych hawliau statudol o dan ddeddfwriaeth Gwerthiant Nwyddau. Mae'r ddeddf hon yn dweud bod yn rhaid i'r nwyddau yr ydych yn eu prynu, fod o ansawdd boddhaol. Mae'r term "ansawdd boddhaol" yn cwmpasu materion megis ymddangosiad a gorffeniad, gwydnwch a bod y nwyddau heb ddiffygion. Ni ddiffinnir yr amser yn mae'n rhaid i nwyddau bara yn y ddeddfwriaeth, a bydd hyn yn amrywio o un cynnyrch i'r llall e.e. byddwch fel arfer yn disgwyl i offeryn trydanol bara'n hirach na bwyd ffres.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A oes gennyf unrhyw hawliau wrth brynu nwyddau ail-law?
Oes. Mae'r ddeddfwriaeth yn gymwys i nwyddau ail-law, ond dylech fod yn ymwybodol na fyddwch fel arfer yn disgwyl i nwyddau ail-law fod mewn cyflwr perffaith, nac i bara cyn hired â nwyddau newydd.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A oes gennyf unrhyw hawliau os byddaf yn prynu gan werthwr preifat e.e. car neu nwyddau eraill o hysbyseb bychan yn y papur newydd lleol?
Mae gennych lai o hawliau na phetaech yn prynu oddi wrth fasnachwr. Mae'n hynod bwysig bod y prynwr yn ofalus. Does dim ond angen i'r nwyddau fod fel y'u dis grifiwyd. Nid oes angen i'r nwyddau fod yn berffaith, nac ychwaith yn addas i'w diben.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A yw'n bosibl i fasnachwyr arddangos rhybuddion "Dim ad-daliadau", a dibynnu ar y rhybuddion hyn i wrthod ad-daliad ar gyfer nwyddau diffygiol?
Mae'n drosedd i fasnachwyr arddangos rhybuddion o'r fath, ac nid oes modd iddynt ddileu eich hawliau drwy arddangos y rhybuddion hyn.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A yw prynu ar gredyd yn rhoi unrhyw ddiogelwch ychwanegol i mi?
Ydy. Os yw'r nwyddau neu'r gwasanaethau yn costio mwy na £100, mae'r cwmni cerdyd neu'r cwmni cyllid yr un mor atebol ar gyfer unrhyw gais y byddwch yn ei wneud yn erbyn y cyflenwr o ran nwyddau neu wasanaethau diffygiol. Noder nad yw'r hawliau hyn yn gymwys pan fyddwch yn defnyddio cerdyn debyd.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A oes angen i mi geisio barn arbenigwr ar y broblem?
Efallai y bydd angen i chi geisio barn arbenigwr os â'r mater i'r Llys. Fodd bynnag, nid yw fel arfer yn fuddiol i dalu am arbenigwr yn ystod y camau cyntaf. Os bydd diffyg yn codi gyda nwyddau o fewn 6 mis i chi dderbyn yr eitem, fel arfer bydd angen i'r gwerthwr brofi nad ydynt yn ddiffygiol. Fe'ch cynghorir i geisio cyngor gennym ni cyn cyfarwyddo arbenigwr.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau
A ydych yn ymdrin â phroblemau gyda gwasanaethau ariannol ac yswiriant?
Ymdrinnir â'r rhain gan yr Ombwdsmon Cyllidol fel arfer, a gellir cysylltu â hwy ar 0845 080 1800.
yn ôl i'r brig | Yn ôl i'r Mynegai Cwestiynau







