Y Wefan
Sut wyf yn defnyddio’r wefan hon?
-
Mae’r llywiwr cynnwys (ar y chwith ar y rhan fwyaf o dudalennau) yn sefydlog a gellir ei ddefnyddio i neilltuo darnau o’r wefan ar unrhyw adeg
-
Mae llywio cyffredinol yn caniatáu i chi fynd i wahanol gwasanaethau megis cysylltu â ni, cynnwys a hygyrchedd. Mae hyn ar ben ac ar waelod pob tudalen.
-
Mae A-Y o wasanaethau yn caniatáu i chi chwilio am wybodaeth yn nhrefn yr wyddor. Lle’n bosibl, rydym wedi dyblygu gwybodaeth dan eiriau gwahanol e.e. sbwriel/gwastraff.
-
Mae llywio cynnwys penodol ar ochr dde’r dudalen ac mae’n perthyn i gynnwys y dudalen honno’n unig.
- Cyfeiriadau gwe byrrach e.e. www.wrecsam.gov.uk/teithio
Mwy o wybodaeth >>
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
Pa ddewisiadau hygyrchedd sydd?
- Mae achrediad gwefan hygyrch yr RNIB ‘See It Right’ yn sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch iawn fel y cydnabyddir gan yr RNIB.
- bysellau mynediad
- dewisiadau pori
- cynllun cyffredin sy’n caniatáu newid maint a lliw testun i gyd-fynd ag anghenion defnyddwyr
- osgoi fframiau
- osgoi fformatiau cyhoeddi megis Flash
- mae Browsealoud yn caniatáu i bobl wrando ar ein gwefan
Mwy o wybodaeth >>
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
Sut wyf yn newid y gosodiadau ar fy mhorwr gwe?
Gallwch newid y testun a’r lliwiau yn eich porwr gwe. Rydym wedi rhoi cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn:
- Microsoft Internet Explorer ar gyfer CP
- Microsoft Internet Explorer ar gyfer Apple Mac
- Netscape Navigator
Mwy o wybodaeth >>
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
A allaf roi atborth ar y wefan hon?
Gallwch roi atborth ar ystod eang o wasanaethau. Mae ein darn ar gyfer dweud eich dweud yn dangos i chi sut i wneud hyn a’r hyn y mae croeso i chi fynegi eich barn amdano!
Mwy o wybodaeth >>
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
Beth yw Acrobat Reader?
Mae’r wefan hon yn defnyddio fformat PDF (Adobe Acrobat) ar gyfer cyhoeddi dogfennau mawr a chymhleth. Sylwer bod modd trosi dogfennau Adobe Acrobat yn ôl i destun plaen trwy ddefnyddio gwasanaeth trosi Adobe sydd ar y we.
I weld ac argraffu ffeiliau PDF, rhaid i chi osod Adobe® Acrobat® Reader. Darperir cyswllt i wefan Adobe yn erbyn pob dogfen sy’n gofyn i chi ddefnyddio’r meddalwedd hwn.
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
Ydy hi’n ddiogel i dalu ar-lein?
Ydy, mae’n ddiogel i dalu ar y rhyngrwyd. Mae’r wybodaeth a anfonwch yn cael ei seiffro. Golyga hyn na all unrhyw un ei darllen wrth iddi deithio ar draws y rhyngrwyd. Bydd ‘clo’ yn ymddangos ar waelod ochr dde eich ffenestr bori i nodi eich bod mewn man diogel.
Byddwn yn derbyn eich manylion credyd trwy ddefnyddio gwasanaethwr diogel. Golyga hyn fod y gweithrediad yn cael ei seiffro rhwng eich peiriant chi a gwasanaethwr yr Awdurdod. Yn ogystal, ni fyddwn yn cadw eich manylion cerdyn debyd/credyd ar ôl i ni brosesu eich tâl. Mae cyfeiriadau gwe traddodiadol yn dechrau gyda "http" – bydd y cyfeiriad ar gyfer gwefan ddiogel bob amser yn dechrau â "https".
Unwaith i fanylion eich cerdyn credyd/debyd gael eu cyflwyno i ni ac ar ôl i’ch cwmni credyd/debyd gymeradwyo’r tâl, bydd y tâl yn cael ei brosesu.
Mwy o wybodaeth >>
^ yn ôl i'r brig | Yn ôl
i'r Mynegai Cwestiynau
|