Mae rhai adnoddau gwych i blant i’w helpu i ddarganfod, creu a chysylltu â phlant eraill ledled y byd. Mae’r rhyngrwyd yn ddefnyddiol, hwyliog ac addysgol. Os defnyddir ef yn ddiogel, gall fod yn arf gwerthfawr.
Cadwch y cyfrifiadur mewn ystafell lle gall y teulu cyfan ei ddefnyddio.
Trafodwch a gosodwch reolau a chanllawiau rhesymol ar gyfer defnyddio’r cyfrifiadur a chadwch y rhain ger y cyfrifiadur i atgoffa’ch plant.
Dywedwch wrth eich plant NA ddylent ddatgelu manylion personol (enw, cyfeiriad, cyfrineiriau na chyfeiriadau ebost) na lluniau oni bai eich bod chi a’ch plentyn yn adnabod ac yn ymddiried yn yr unigolyn dan sylw.
Peidiwch â gadael i’ch plant gyfarfod â rhywun maent wedi eu cyfarfod ar y rhyngrwyd heb eich caniatâd a dim ond pan allwch chi neu oedolyn cyfrifol arall fod yn bresennol.
Gadewch i’ch plant wybod y gallant siarad â chi os teimlant yn anghyfforddus neu’n ofnus am rywbeth maent wedi ei ddarllen neu ei weld ar y rhyngrwyd. Dywedwch wrthynt nad eu bai nhw yw hyn.
Dysgwch gymaint ag y gallwch am y rhyngrwyd a’r gwasanaethau sydd arno. Ceisiwch ddeall y gwefannau y mae eich plant yn eu defnyddio a dewch i adnabod eu ffrindiau ar-lein fel y byddech eu ffrindiau eraill.
Os yw eich plant yn derbyn negeseuon ac atodiadau neu’n dadlwytho ffeiliau gan bobl neu gyrff nad ydynt neu nad ydych chi’n eu hadnabod, dilëwch nhw ar unwaith. Gallent gynnwys feirysau neu negeseuon drwg.
Cysylltiadau Defnyddiol Mae’r wefan hon yn rhoi gwybodaeth i helpu rhieni a gofalwyr i gynghori eu plant ar sgwrsio’n ddiogel ar-lein.
![]()
Cynhyrchwyd y wefan hon gan Childnet International, corff nid-er-elw sy’n gweithio gydag eraill i helpu i wneud y rhyngrwyd yn lle gwych i blant.
![]()
Mae’r Internet Watch Foundation yn gweithio gyda darparwyr, cwmnïau ffonau arferol a symudol, darparwyr meddalwedd, yr heddlu a’r llywodraeth i leihau cynnwys anghyfreithlon ar y rhyngrwyd.
![]()
ChildLine yw’r llinell gymorth 24 awr am ddim i blant a phobl ifanc yn y DU. Gall plant a phobl ifanc ffonio ein llinell gymorth ar 0800 1111 am unrhyw broblem, ar unrhyw adeg – dydd a nos. Gall plant sy’n fyddar neu sy’n ei chael hi’n anodd defnyddio ffôn arferol ddefnyddio ein gwasanaeth ffôn testun ar 0800 400 222. Mae cynghorwyr ChildLine yno i’ch helpu i ddatrys pob problem.
![]()
Llinell Gymorth Diogelu Plant yr NSPCC
Yr NSPCC (National Society for the Prevention of Cruelty to Children) yw prif elusen y DU yn arbenigo mewn diogelu plant ac atal creulondeb i blant. Rydym wedi bod yn ymroddedig i ddiogelu plant ac ymgyrchu ar eu rhan ers 1884.
![]()
Llinell Wybodaeth Pornograffi Plant yr Heddlu
Mae’r Gwasanaeth Heddlu, drwy’r Uned Pedoffilia yn New Scotland Yard, yn dal yn ymroddedig i ganlyn yr unigolion hynny sy’n torri’r gyfraith dan Ddeddf Diogelu Plant 1978.
![]()