Crewyd Arsyllfa Band Eang Cymru oherwydd gwelwyd yr angen am gorff annibynnol i fonitro a darparu gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth am gynnydd ynghyd â materion eraill er mwyn bodloni targedau Rhaglen Band Eang Cymru.
Improvement and Development Agency (IDeA)
Cofrestru enw parth a gwasanaethau band eang ar gyfer ysgolion Wrecsam.
Cofrestrir enwau parth ar gyfer ysgolion Wrecsam gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam drwy Nominet UK, sy’n rheoli’r gronfa ddata awdurdodol ar gyfer cofrestriadau enwau parth .UK. Drwy gofrestru enw parth â Nominet UK gellwch gael gwasanaethau rhyngrwyd yn arbennig ar gyfer eich ysgol h.y. e-bost / gwefannau.
Mae’r diwydiant rhyngrwyd, defnyddwyr a Llywodraeth y DU yn cydnabod Nominet UK fel y gofrestrfa ar gyfer enwau parth .UK. Fel cwsmer i Nominet UK, mae ysgolion sydd wedi cofrestru eu henwau parth neu sy’n dymuno gwneud hynny, yn rhwym i delerau ac amodau Nominet UK ac mae’n rhaid iddynt gytuno â nhw.
Drwy gofrestru enw parth .UK, rydych yn dechrau ar gytundeb cofrestru â Nominet UK ar y telerau a’r amodau canlynol www.nominet.org.uk/disputes/terms/ . Mae hwn yn gytundeb ar wahân i unrhyw drefniadau a all fod gennych gyda rhywun arall ar gyfer darparu gwasanaethau rhyngrwyd. Dylech ei ddarllen cyn parhau â’ch archeb.
Society of Information Technology Management (SOCITM)
Welsh Local Government Association