Mynediad i Farchnadoedd

Un o gryfderau mwyaf Wrecsam yw ei lleoliad sy’n ei gwneud yn hawdd mynd i farchnadoedd ledled y DU a gweddill y byd.

Wedi ei lleoli ger cytrefi enfawr gogledd-ddwyrain Lloegr a ger ffyrdd sy’n ei gwneud yn hawdd cyrraedd Birmingham a Chanolbarth Lloegr, mae Wrecsam o fewn awr neu ddwy o draean o boblogaeth y DU a hanner ei diwydiant cynhyrchu.  

Mae lleoliad Wrecsam tu allan i’r canolfannau poblogaeth a diwydiant enfawr hyn yn rhoi mantais amlwg iddo gan nad yw hi’n dioddef gormod o dagfeydd ar ei ffyrdd.

Ffyrdd Awyr – Cludo Nwyddau
Trenau Môr
Awyr - Teithwyr Danfonwyr Nwyddau a Gwasanaethau Cludiant

 

Ffyrdd

Mae amserau gyrru o fewn y DU yn arbennig o fyr a rhoddir detholiad o’r rhain isod:

PEN TAITH PELLTER AMSER GYRRU

Llundain

217 milltir

3 awr 30 munud

Birmingham

73 milltir

1 awr 30 munud

Manceinion

52 milltir

1 awr

Newcastle

170 milltir

3 awr 20 munud

Glasgow

230 milltir

3 awr 20 munud

Bryste

180 milltir

2 awr 50 munud

Lerpwl

38 milltir

45 munud

 

Gweld map amserau gyrru’r DU

yn ôl i'r brig

Trenau

Yn debyg i’r rhan fwyaf o’r DU, nid yw llawer o gwmnïau’n dewis trenau ar gyfer teithio. Fodd bynnag, gan fod ffyrdd o leihau cludiant ar y ffyrdd yn cael eu harchwilio a gan fod sôn am gymhorthdal i annog symud pobl i ffwrdd o’r ffyrdd ac ar y trenau, gallai’r ffaith fod gan Wrecsam ddwy orsaf a’i bod yn gysylltiedig â dwy linell wahanol brofi i fod yn ddefnyddiol yn y dyfodol. Yn fwy perthnasol i gwmnïau Wrecsam ar hyn o bryd yw datblygiad canolfan cludiant trenau ym Mhorthladd Mostyn ryw 30 milltir o Wrecsam. Lleolir ail orsaf fawr ym Manceinion, rhyw 40 milltir i ffwrdd.

yn ôl i'r brig

Awyr - Teithwyr

Maes Awyr Manceinion

Mae’r maes awyr hwn yn 45 milltir o Wrecsam ac yn faes awyr rhyngwladol mawr ac un o’r rhai sy’n tyfu’n gyflymaf yn y byd.  Mae ei leoliad a pha mor hawdd mae i’w gyrraedd o Wrecsam yn bwysig.  O safbwynt busnes, mae’r ffeithiau canlynol yn arbennig o sylweddol:

  • 17eg yn y byd o ran nifer y teithwyr rhyngwladol
  • 40 ehediad uniongyrchol yr wythnos i’r Unol Daleithiau
  • Ehediadau uniongyrchol i 4 o ddinasoedd yr UD – Efrog Newydd (JFK a Newark), Chicago, Atlanta a Dallas
  • Ehediadau uniongyrchol 5 cyfandir, 38 o ben teithiau Ewropeaidd a 18 dinas tu allan i Ewrop
  • Ehediadau i 16 o feysydd awyr yn y DU
  • Amser hedfan o 45 munud i Heathrow
  • Maes awyr cludo nwyddau a adeiladwyd i’r pwrpas
  • Taith 45 munud o Wrecsam

Maes Awyr Lerpwl

Mae’r maes awyr hwn ryw 40 munud i ffwrdd ac mae’n hedfan i ddetholiad cynyddol o ben teithiau Ewropeaidd, ynghyd â sawl maes awyr yn y DU.

Maes Awyr Penarlâg

Mae’r maes awyr hwn yn rhyw 20 munud i ffwrdd o Wrecsam ac mae ganddo gyfleusterau ar gyfer jetiau personol.

yn ôl i'r brig

Awyr – Cludo Nwyddau

Mae maes awyr cludo nwyddau Manceinion a adeiladwyd i’r pwrpas yn cynyddu ei fewnbwn a disgywlir i’r ffigwr presennol o ryw 154,000 tunnell y flwyddyn barhau i godi.

  • Mae’r mewnbwn presennol o nwyddau’n dair gwaith mewnbwn unrhyw faes awyr arall yn y DU, tu allan i Lundain
  • Y tri phrif ben taith yw Hong Kong, Chicago ac Efrog Newydd (JFK)
  • UDA yw’r prif ben taith ar gyfer cludo nwyddau
  • Mae gan gwmnïau Wrecsam fynediad i lawer o’r danfonwyr nwyddau cenedlaethol a lleol sy’n defnyddio’r cyfleuster hwn

yn ôl i'r brig

Môr

Mae nifer o opsiynau ar gael i gwmnïau Wrecsam pan ddaw i anfon pethau ar long:

  • Mae gan Wrecsam dri phorthladd ‘lleol’ pob un o fewn taith awr - Mostyn, Lerpwl a Garston – ac mae pob un yn cynnig gwasanaeth byd-eang helaeth.  
  • Mae porthladd Caergybi’n bwysig oherwydd ei gysylltiadau ag Iwerddon.  Mae’n rhyw 55 milltir i ffwrdd, yn cynnig taith gyflym (90 munud) ar yr hydroffoil ynghyd â’r teithiau fferi traddodiadol.  
  • Mae cysylltiadau traffyrdd gwych i borthladdoedd megis Hull, Immingham a Felixstowe i’r dwyrain ac mae cwmnïau Wrecsam yn ei chael yn ymarferol i ddefnyddio’r cyfleusterau ar gynnig.  I roi rhyw fath o syniad o amseru, gall lori gyrraedd Hull o fewn rhyw 3 awr.
  • Mae gan bob un o’r tri phorthladd ‘lleol’ eu nodweddion eu hunain.

Dociau Mostyn

Mae’r safle ym Mostyn yn cwmpasu oddeutu 75 erw, sy’n cynnwys safle datblygu o 5 erw.  Mae gwaith helaeth wedi trawsffurfio Doc Mostyn o borthladd â ffenestr llanw o awr yn unig i un sy’n weithredol 24 awr y dydd erbyn hyn.  Mae dyfnder y dŵr yn amrywio o 9 metr i 27 metr.  Gall y porthladd ymdopi â llongau hyd at 7000 tunnell ar hyn o bryd ond bydd cwblhau’r datblygiad Cam II yn ei alluogi i dderbyn llongau hyd at 30,000 tunnell.
Mae gwasanaeth trên rheolaidd i Hull a Tilbury ac mae cynlluniau’r dyfodol yn cynnwys darparu ‘pont dir’ i nwyddau a gludir i Fostyn o Iwerddon i’w hanfon ymlaen o borthladd arall.  Mae taith nwyddau wythnosol o Fostyn i Milan trwy Dwnnel y Sianel eisoes wedi ei sefydlu a gellid estyn hon i roi mynediad i unrhyw un o’r teithiau cludo nwyddau traws-Ewropeaidd.
Prif fanteision Mostyn o safbwynt defnyddwyr yw:

  • Mae’n borthladd dan berchnogaeth breifat ac mae’r arferion gwaith yn gwbl hyblyg.
  • Cafwyd buddsoddiad sylweddol yn ddiweddar iawn.
  • Ymdrinnir â chynhwyswyr llawn neu rannol i ac o Ewrop a’r Unol Daleithiau
  • Mae gan y porthladd ei beilotiaid ei hun.
  • Mae cyfle i gwmnïau anfon cynnyrch swmpus, defnyddio’r storfeydd neu’r cyfleusterau cynhyrchu a danfon nwyddau gorffenedig allan mewn cynhwyswyr.
  • Mae cysylltiadau trên i arfordir y dwyrain (3 gwaith yr wythnos i Hull) a Tilbury, ynghyd â gwasanaethau rheolaidd trwy Dwnnel y Sianel, gyda’r posibilrwydd o anfon nwyddau i unrhyw le ar rwydwaith trenau Ewropeaidd.  Un daith reolaidd yw Mostyn – Milan sy’n cymryd 36 awr, o gymharu â 3 diwrnod llawn ar long.
  • Mae cynlluniau yn eu lle i greu Gorsaf Nwyddau ym Mostyn ar gyfer Gogledd Cymru.

Lerpwl

Mersey Docks and Harbour Company, grŵp porthladdoedd ail mwyaf Prydain ac un o 250 cwmni mwyaf y DU, sy’n rhedeg y porthladd.  Mae’n un o’r mwyaf cynhwysfawr a mwyaf o ran maint yn y Deyrnas Unedig ac mae’n trin 30 miliwn tunnell o gargo’r flwyddyn.  Y prif gargo yw cynhwyswyr, pren a chynnyrch coedwigoedd, grawn a bwyd anifeiliaid, hylifau ac olew Tranmere.  Gall Lerpwl dderbyn llongau hyd at 12.8 llwyth dan ddyfnder.  Mae’n cynnig y cyfleusterau canlynol:

  • Mae porthladd Lerpwl yn brif hwb amlgyfrwng ar gyfer masnach rynglwadol, sy’n cludo ar y ffyrdd, y môr a’r trenau.
  • Hwn yw’r rhyngwyneb ar gyfer gwasanaethau cynhwyswyr ar ogledd y Môr Iwerydd a llwybrau môr dwfn eraill, gyda chysylltiadau i Benrhyn Iberia, y Canolfor, Gogledd Ewrop a Sgandinafia.  
  • Gorsaf drenau Ewropeaidd porthladd Lerpwl yw’r unig reilffordd breifat ar gyfer nwyddau sy’n mynd i Dwnnel y Sianel a gwasanaethau cludo domestig.
  • Gall gyrwyr lorïau gyrraedd mwy o ganolfannau cynhyrchu a phoblogaeth y DU yn y diwrnod 8 awr nag o unrhyw borthladd arall.
  • Mae Lerpwl ymysg y 10 porthladd cynhwyswyr gorau yn Ewrop.
  • Freeport 800 erw Lerpwl yw parth rydd fwyaf lwyddiannus Prydain, sy’n gyswllt strategol i’r DU ac Ewrop ar gyfer nwyddau sy’n teithio ar y ffyrdd, y môr neu ar drên.  Mae ganddo 1m tr sg o le storio ac mae 800,000 tr sg pellach yn cael eu datblygu fel rhan o estyniad 70 erw.

Garston

Mae Garston yn aelod o’r grŵp Associated British Ports ac mae ganddo enw da am wasanaeth effeithiol mewn lleoliad o’r radd uchaf.  Mae mwy na 25,000 m sg o storfeydd dan do ar gael, ynghyd â digon o le awyr agored ger y cei, craeniau a lifftiau.  Gall y porthladd drin llongau hyd at 154.2 m o hyd, 19.2 m o led ac 8.3 m o ddyfnder.

  • Mae’r porthladd yn denu ystod eang o gargo sych swmpus a chyffredinol, gan gynnwys cynnyrch dur, mwynau, cemegau, a chargo trwm.
  • Mae Garston yn fan arolygu ffiniau ar gyfer proteinau anifeiliaid wedi eu prosesu.
  • Mae rhaglen fuddsoddi wedi creu cyfleusterau trin a storio arbenigol.

yn ôl i'r brig

Danfonwyr Nwyddau a Gwasanaethau Cludiant

Mae gan ogledd-ddwyrain Cymru draddodiad cryf fel canolfan ddosbarthu oherwydd ei lleoliad canolog mewn perthynas â holl ardaloedd cynhyrchu mawr y DU. Mae’n gartref i nifer o gwmnïau logisteg mawr ynghyd â sawl cwmni cludo llai. Mae Wrecsam yn manteisio ar ystod fawr o ddanfonwyr nwyddau rhyngwladol sydd wedi tyfu o ganlyniad i agosrwydd Maes Awyr Manceinion, y porthladdoedd a rhanbarthau cynhyrchu mawr gogledd-ddwyrain Lloegr. Yn ogystal â chwmnïau mawr fel UPS, DHL, TNT a Parcelforce, mae rhwydwaith prysur iawn o gwmnïau cludiant lleol sy’n helpu i sicrhau prisiau cystadleuol.

yn ôl i'r brig