Hamdden
Mae cyfleusterau hamdden Wrecsam yn cynnwys pwll nofio a chanolfan hamdden
a foderneiddiwyd yn ddiweddar, ei chae ras ei hun ym Mangor Is y Coed,
stadiwm athletau, stadiwm bêl-droed newydd, theatr a sinema aml-sgrîn.
Ceir dewis rhagorol o westai, rhai'n cynnig llety ac addurn cyfnod atyniadol.
Mae sawl bwyty a chaffi-bar da hefyd. Mae gan Wrecsam ddau eiddo Ymddiriedolaeth
Genedlaethol ysblennydd - Erddig a Chastell y Waun ac amgueddfa ac oriel
gelf fach. Amgylchynir Wrecsam gan gefn gwlad annisgwyl o dlws - da ar
gyfer cerdded - ac mae Afon Dyfrdwy yn enwog am ei physgota. Am dref eithaf
bychan, mae Wrecsam yn uchelgeisiol iawn yn y ffordd mae'n hyrwyddo'i
hun drwy weithgareddau hamdden sydd â chanolbwynt rhanbarthol neu genedlaethol.
Mae ganddi Wyl Gelf reolaidd, mae'n cynnal Rali Vauxhall Cymru
ac mae hefyd yn gartref Gwyl Ryngwladol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Wrecsam.
Lleolir Wrecsam o fewn taith 20 munud o Eryri - un o Barciau Cenedlaethol
enwocaf y DU. Mae Eryri ei hun yn cynnig posibiliadau diddiwedd ar gyfer
gweithgareddau hamdden awyr agored ac, ynghyd â Chanolbarth Cymru ac ardaloedd
cyfagos Gogledd Orllewin Lloegr, mae'n rhaid bod yr ardal yn darparu ar
gyfer bron bob gweithgaredd awyr agored posibl. Mae'r arfordir hefyd yn
hawdd i'w gyrraedd ac eto mae rhywbeth i blesio pawb o fewn taith rwydd
o Wrecsam.
Fel tref eithaf bychan, mae Wrecsam yn ddi-os yn elwa o'i hagosrwydd
at nifer o brif ddinasoedd sy'n ddigon mawr i gael y math o gyfleusterau
y gellir eu cynnal gan ganolfannau poblogaeth mawr yn unig. Mae dinas
hynafol Caer yn ddim ond 12 milltir i ffwrdd a gellir cyrraedd dinasoedd
Lerpwl a Manceinion o fewn awr. Rhwng y rhain, mae'r tair dinas hon yn
cynnig y gorau mewn cerddoriaeth, theatr, bale a'r celfyddydau - ar sail
barhaol a rheolaidd. Mae lleoliad canolog Wrecsam hefyd yn ei gwneud yn
bwynt cychwyn delfrydol ar gyfer pobl sy'n chwilio am fynediad i'r amrywiaeth
gynyddol eang o weithgareddau hamdden sydd ar gael drwy'r gogledd-orllewin
a Gogledd Canolbarth Lloegr.
Cyswllt i gwybodaeth bellach hamdden
Siopa
Mae Wrecsam, fel y nodwyd eisoes, yn Brif Ganolfan Siopa yng Ngogledd
Cymru. Mae ganddi gymysgedd da o siopau bychain preifat a siopau cadwyn
cenedlaethol mawr. Mae dau ddatblygiad canol tref newydd gwerth miloedd
o bunnoedd a pharc adwerthu da allan o'r dref. O safbwynt siopwyr lleol
mae Wrecsam wedi gwella'n ddifesur yn y blynyddoedd diwethaf ac mae'r
tuedd yn parhau. Bydd yn wastad y dewis cyntaf am siopa bob dydd i bobl
a ddenir o ardal eang iawn ac mae'n gallu delio fwyfwy â galw am nwyddau
mwy arbenigol. Fodd bynnag, wrth i siopa ddod yn fwy o weithgaredd hamdden,
mae'n rhaid wynebu'r ffaith bod siopwyr yn disgwyl mynd ymhellach ac mae
pobl Wrecsam yn teimlo'n ffodus mewn cael cymaint o ddewis o ganolfannau
adwerthu y gellir mynd atynt yn rhwydd yn y siroedd cyfagos. Tra nad yw
perchnogion siopau Wrecsam o bosibl yn gwerthfawrogi hyn, mae'n rywbeth
sy'n ychwanegu at atyniad Wrecsam fel lle i fyw ynddo.
Mae pobl Wrecsam yn hoff iawn o Gaer, oherwydd ei hagosrwydd a'i chyfaredd
ganoloesol ac oherwydd y nifer helaeth o siopau arbenigol bychain a siopau
cadwyn mawr sydd ganddi. Ar raddfa llawer yn fwy, mae gan Lerpwl a Manceinion
amrywiaeth lawn o fannau gwerthu ardderchog a gellir cyrraedd y ddwy yn
rhwydd â char neu drên.
Yn unol â'r tuedd cynyddol am siopa allan o'r dref, mae nifer o ddatblygiadau
parciau adwerthu mawr yn y gogledd-orllewin. O sylw arbennig mae Parc
Adwerthu Broughton yn Sir y Fflint gerllaw (yn dal yng Nghymru) a'r Designer
Outlet Village ger Ellesmere Port yn Sir Gaer.
|