Cyfleusterau Meddygol

Lleolir Ysbyty Maelor Wrecsam ar gyrion y dref a dyma'r ysbyty GIC mwyaf yng Ngogledd Cymru. Cafodd raglen foderneiddio helaeth drwy'r 1990au, gyda buddsoddiad o tua 34 miliwn, ac mae'r cyfleusterau'n ardderchog. Mae 4 miliwn ychwanegol i'w wario erbyn 2002.

Yn ogystal gweithgareddau cyffredin yr ysbyty, mae Ysbyty Maelor yn ymwneud ag Ymchwil a Datblygiad mewn gofal iechyd meddygol a chymdeithasol. Mae ganddo adran addysgu helaeth ac mae'n gweithio ar flaengareddau ar y cyd NEWI (Sefydliad Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru) a chyda Phrifysgol Feddygaeth Cymru. Cefnogir gweithgareddau'r ysbyty gan ddatblygiad nifer o gwmnau meddygol a fferyllol sydd wedi arbenigo'n uchel ym Mharc Technoleg cyfagos Wrecsam.

Mae gan Wrecsam ysbyty preifat hefyd - ysbyty Il BUPA a leolir ger Ysbyty Maelor Wrecsam.

Cyswllt i gwybodaeth bellach am Ysbyty Wrecsam

yn ôl i'r brig