Mae gan Wrecsam ddewis ardderchog o adeiladau masnachol sy’n amrywio o ran eu maint a’u hansawdd, felly mae rhywbeth a fydd yn addas ar gyfer pob math o fusnes.
Mae’r gyfradd lenwi’n uchel iawn ond mae cwmnïau’n dueddol o symud o gwmpas yr ardal ac mae’r sefyllfa’n newid yn gyson. Mae gan yr awdurdod lleol ei hun bortffolio helaeth o ryw 350 o unedau sy’n cynnwys rhyw 73,000 troedfedd sgwâr o unedau diwydiannol a swyddfeydd.
Mae gan Uned Datblygu Busnes y Cyngor gronfa ddata o’r holl adeiladau a’r tir diwydiannol sydd ar gael.
Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys adeiladau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a gellir chwilio am adeiladau dan benawdau penodol, gan gynnwys categorïau diwydiant, swyddfeydd, tir a manwerthu.
Mae’r manylion cyswllt fel a ganlyn:-
E-bost: Property@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 297266
Ffacs: 01978 292756
Mae rhyw 20 o wahanol ystadau diwydiannol a pharciau busnes yn Wrecsam. Yr un mwyaf yw Ystad Ddiwydiannol Wrecsam sy’n ymestyn dros 1000 o erwau a hon yw’r ystad ddiwydiannol fwyaf yng Nghymru ac un o’r 10 mwyaf yn y DU hefyd o ran ei maint. Mae mwyafrif yr ystadau llai wedi’u datblygu’n llawn ond ceir dewis da o dir datblygu yn y fwrdeistref sy’n amrywiaeth o safleoedd tir llwyd a thir glas sy’n amrywio o 100 o erwau i lai nag erw. Mae gan nifer o ddatblygwyr dir yn Wrecsam ac maent yn cynnig gwasanaeth llunio ac adeiladu ar gyfer adeiladau ar brydles neu adeiladau rhydd-ddaliol. Gan fod y mwyafrif o’r cwmnïau hyn yn gysylltiedig â rhaglenni datblygu hapfasnachol, mae’n eithaf hawdd iddynt addasu cynlluniau presennol i fodloni gofynion penodol cleientiaid newydd. Mae hyn yn cyflymu’r broses yn sylweddol ac yn gwneud y broses llunio ac adeiladu’n ddewis ymarferol, hyd yn oed i’r cwmnïau hynny sydd â therfynau amser llym.
Cyswllt i |
|
| Sir Wrecsam | |
| Lleoliad a Thrawsgludiaeth | |
| Mynediad i Farchnadoedd | |
| Cyfathrebiadau | |
| Gwasanaethau | |
| Sut i Gysylltu â Ni | |
| Cysylltiadau Busnes | |
| Busnes a Diwydiant | |