Bydd yr asiantaeth lywodraethol hon yn darparu darpar gyflogwyr gwasanaeth recriwtio rhad ac am ddim sy'n cynnwys:
Cyngor ar gaffaeladwyedd gweithwyr medrus
Cyfarwyddyd o ran cyfraddau cyflog, rheoliadau cyflogaeth a.y.b.
Cymorth ymarferol wrth adnabod anghenion personl
Hysbysebu swyddi gwag yn y wasg leol; drwy'r rhyngrwyd, ar safle rhwydwaith cenedlaethol y Canolfannau Gwaith ac ar hysbysfyrddau mewnol
Hidlo ymatebion a threfnu apwyntiadau ar gyfer cyfweliad
Darparu ystafelloedd hyfforddi a chyfweld
Cymhelliannau i gyflogwyr ar gyfer cyflogi a hyfforddi pobl ddi-waith
Mae nifer o asiantaethau recriwtio yn Wrecsam, y rhan fwyaf yn delio ag amrywiaeth lawn o waith a bydd pob un yn recriwtio staff un ai parhaol neu dros dro. Os oes angen ceisio uwch bersonl neu arbenigwyr allweddol mewn maes penodol, gellir dod o hyd i asiantaethau recriwtio mawr ym Manceinion a Lerpwl, sydd hefyd yn gwasanaethu ardal Wrecsam.
Mae gan Sefydliad Addysg Uwch Gogledd Cymru (NEWI) ei asiantaeth recriwtio ei hun, sy'n delio graddedigion yn unig. Cyn-fyfyrwyr NEWI yw'r rhan fwyaf ond mae hefyd yn gweithredu ar gyfer graddedigion sefydliadau eraill sy'n byw yn yr ardal.
Mae NEWI hefyd yn ymwneud sawl blaengaredd sy'n cymorthdalu'r gost o osod graddedigion gyda chyflogwyr i weithio ar brosiectau penodol. Mae nifer o gyflogwyr yn darganfod bod y cynlluniau hyn yn cynnig ffordd ddefnyddiol o adnabod staff allweddol.
Mae Cyngor Menter a Hyfforddiant Gogledd Cymru, CELTEC, yn gorff a ariannir yn gyhoeddus sydd chyfrifoldeb dros hyfforddiant galwedigaethol a datblygiad adnoddau dynol o fewn y gymuned fusnes. Mae CELTEC hefyd yn casglu a dadansoddi gwybodaeth ar gaffaeladwyedd gweithwyr, prinder sgiliau ac anghenion sgiliau'r dyfodol. Mae Rheolwyr Cwsmeriaid y sefydliad yn rhoi cymorth a chyngor i gwmnau ar faterion hyfforddi a gallent, mewn rhai achosion, ddarparu arian ar gyfer hyfforddiant, er bod hyn fel arfer ar lefel rheolwyr.