|
Ffurfiwyd
Fforwm Canol Tref Wrecsam drwy amrywiaeth eang o fusnesau a sefydliadau
â diddordeb cyffredin yn natblygiad ffyniannus Wrecsam. Mae aelodau Fforwm
Canol y Dref yn cydweithio i ddylanwadu a sicrhau datblygiadau, gweithgareddau
a blaengareddau cadarnhaol yn y dref.
Amcan Fforwm Canol Tref Wrecsam yw "Hyrwyddo gweithgaredd partneriaeth
cydweithiol wedi ei gynllunio i sicrhau bod Canol Tref Wrecsam yn cael
ei chydnabod fel amgylchedd deniadol, glân a diogel er mwyn uchafu ei
photensial fel prif ganolfan siopa, twristiaeth a diwylliant Gogledd Cymru."
Er mwyn hwyluso hyn, trefnir y Fforwm i grwpiau ffocws sy'n edrych ar
feysydd penodol o ddiddordeb iddynt, sef :-
-
Mynediad - Sicrhau bod pob sector o'r gymuned yn gallu mwynhau mynediad
effeithlon i, ar draws ac o fewn Wrecsam bob amser.
-
Diogelwch - Sicrhau ardal ddi-drosedd yng Nghanol Tref Wrecsam.
-
Amgylchedd - Sicrhau argraff weledol ddeniadol a chofiadwy o Wrecsam.
-
Marchnata - Creu ymwybyddiaeth gadarnhaol o Wrecsam yn rhanbarthol
ac yn genedlaethol.
-
Cyd-drefniant Digwyddiadau - Sicrhau cyfranogiad eang mewn a pherchenogaeth
o ddigwyddiadau hyrwyddol yn Wrecsam.
-
Hyfforddiant - Annog pob busnes yn Wrecsam i gymryd rhan mewn cynlluniau
hyfforddi addas, effeithiol, wedi eu targedu.
Os hoffech gyfrannu neu gymryd rhan mewn hyrwyddo unrhyw un o amcanion
Fforwm Canol Tref Wrecsam, cysylltwch â Rheolwr Canol y Dref, Cyngor Bwrdeistref
Sirol Wrecsam, Stryt y Lampint, Wrecsam, LL11 1WS. Ffôn: 01978 292457.
|