Rhwydwaith Canolfannau Cymorth TGCh Wrecsam

Mae'r rhwydwaith o Ganolfannau Cymorth TGCh ar draws Cymru yn darparu cyngor diduedd Rhad Ac Am Ddim i fusnesau bach a chanolig eu maint.

Mae cynghorwyr cymwys yn arwain busnesau trwy'r broses o ddewis a dechrau defnyddio Technolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh). Mae Wrecsam yn un o 24 o Ganolfannau yn y rhwydwaith hwn, a leolir ledled Cymru, ac a reolir gan Awdurdod Datblygu Cymru.

Canolfan Gymorth TGCh Wrecsam Gwybodaeth ac Arweiniad ar:

  • Y rhyngrwyd a defnyddio gwefannau
  • Rhwydweithio Caledwedd a Meddalwedd
  • Ategu Data

Gwasanaethau Arbenigol ar gael:

  • E-Farchnata a Datblygu Gwefan
  • Rhwydweithio Di-wifr
  • Pecynnau Cyfrifon

Arddangosiadau Band Eang

Mae gan y Canolfannau ystod o dechnolegau Band Eang ac maent yn cynnig gwasanaeth 'Profi cyn Prynu' am ddim i ymgeiswyr. Gofynnwch am ragor o fanylion.

Cymhwyster

Os ydych yn fusnes yng Nghymru, yr ydych yn gymwys i gael hyd at hanner diwrnod o gymorth a chyngor TGCh Di-Dâl.

Cyngor a Chymorth Busnes Am Ddim

Mae'r Canolfannau Cymorth TGCh yn darparu ar gyfer busnesau sydd angen

atebion uniongyrchol I gwestiynau fel:

  • Sut y caf fynediad i e-bost a'r we?
  • Sut mae defnyddio cofnodion electronig?
  • Sut y gallaf ddewis y feddalwedd gyfrifyddu gywir ar gyfer fy musnes i?

Cewch gyngor ar ran y WDA gan eich awdurdod unedol lleol / asiantaeth mentrau leol. Mae gan yr ymgynghorwyr gefndir mewn TGCh a busnes a bydd ganddynt gymhwyster Technoleg Mewn Busnes @TEB neu maent yn gweithio tuag gael y cymhwyster.

yn ôl i'r brig