Cefnogaeth Fusnes

Mae Adran Datblygiad Economaidd Wrecsam yn cynnig ystod eang o wasanaethau cefnogi ar gyfer busnesau lleol. Mae gan ein hymgynghorwyr busnes brofiad helaeth ac maent yn deall anghenion a gofynion busnesau o bob maint ac o bob sector.

Mae ein hamrywiaeth o wasanaethau ar gyfer busnesau lleol o bob maint yn cynnwys:

  • Cymorth gyda phob agwedd o’ch cynllunio busnes
  • Adolygiad o berfformiad busnes cyfredol
  • Cyngor diduedd am ddim ar ystod eang o bynciau busnes yn cynnwys cyllid, gwerthiannau a marchnata, polisïau cyflogaeth, gweithrediadau a TG
  • Mynediad at gyngor arbenigol
  • Y wybodaeth ddiweddaraf ar gyllido a chefnogaeth gan asiantaethau eraill fel Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyllid Cymru
  • Cymorth gyda cheisiadau am grant a benthyciad
  • Cyngor ar dendro yn y sectorau cyhoeddus a phreifat

Gallwn hefyd gynhorthwyo gyda chwilio am leoliadau drwy ein cyfleuster mewnol i wneud hynny. Gallwn ddefnyddio’r adnoddau helaeth sydd ar gael drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ddod o hyd i atebion i’ch anghenion.

Am sgwrs gychwynnol am yr hyn y gallwn ei gynnig i’ch busnes, ffoniwch ni ar 01978 667000 neu e-bostiwch business@wrexham.gov.uk.

Cefnogwyd gan Lywodraeth Cymru.

yn ôl i'r brig