Tendro

Diddordeb mewn tendro am gytundebau sector gyhoeddus ond ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng PQQ ac ITT?

Gwerir dros £4 biliwn gan y sector gyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn – ac mae rhaid tendro am lawer o’r gwario hwn.  Eto ar hyn o bryd, dim ond 35% ohono sy’n cael ei wario gyda busnesau yng Nghymru.   

Rydym yn cynnig cyngor arbenigol ar agweddau perthnasol i dendro.  Mae ein gwasanaeth yn cynnwys:

  • Cymorth un i un ar sut i lunio tendr
  • Adolygiad o bolisïau i sicrhau y bydd unrhyw gynnig a gyflwynir yn un cystadleuol
  • Cysylltiadau ardderchog gyda chysylltwyr Caffaeliad ledled gogledd Cymru
  • Cyngor ar sut i fynd at brynwyr y sector gyhoeddus
  • Gweithdai 'Sut i Dendro'
  • Adolygu eich cyflwyniadau a chyngor didwyll a diduedd ar beth i’w wneud nesaf.

Cysylltwch â ni heddiw am Archwiliad Tendro. Gallwn hefyd roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar y farchnad leol a llawer o gyngor defnyddiol ac ymarferol ar ble i edrych am hysbysiadau tendro a’r cyfleoedd sy’n iawn ar gyfer eich busnes chi.

Yn ychwanegol, gallwn adolygu eich busnes cyfredol a rhoi awgrymiadau ar sut i gael eich busnes yn barod ar gyfer tendro. Os na wyddoch y gwahaniaeth rhwng EOI, PQQ a ITT, yna mae’r gefnogaeth yma i chi gael gwybod beth yw eu hystyron a mwy!

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 667000 neu e-bostiwch business@wrexham.gov.uk.

Cefnogir gan Lywodraeth Cymru.

yn ôl i'r brig