Hyfforddiant a Datblygu'r Gweithlu

Datblygu’r Gweithlu: Sgiliau - Pobl - Llwyddiant

Rhaglen Datblygu’r Gweithlu

Gallwn helpu eich busnes wneud ei orau trwy ddatblygu sgiliau eich gweithlu. Dan Raglen Datblygu Gweithlu Llywodraeth Cynulliad Cymru gallwn ddarparu gwasanaethau cynghorydd sgiliau profiadol i helpu i chi adolygu eich strategaeth bresennol ddatblygu staff a chynorthwyo taro nodau eich busnes.

Fel arfer, byddwn yn gwneud adolygiad diagnostig o ddatblygiad staff yn eich busnes i gael dealltwriaeth dda o’r canlynol:

  • eich agwedd bresennol at reolaeth a hyfforddiant
  • eich anghenion hyfforddi
  • cyfeiriad eich busnes

Byddwn yn gweithio gyda chi i lunio cynllun hyfforddiant ar gyfer eich busnes, fydd ar sail y dewisiadau hyfforddiant mwyaf priodol i anghenion eich busnes. Byddwn hefyd yn helpu i chi gael gafael ar yr hyfforddiant sydd arnoch ei angen, a allai gynnwys atebion mewnol neu brynu o’r tu allan.

Bydd anghenion hyfforddi a nodwyd yn ystod yr adolygiad yn gymwys i dderbyn cyllid dewisol o 50% o’r gost hyd at uchafswm o £1000.

Mae’r adolygiad sgiliau AM DDIM A HEB YMRWYMIAD – y cyfan fydd angen i chi ei ymrwymo yw eich amser.

Yr adolygiad diagnostig

Yn ystod yr adolygiad diagnostig byddwn yn gwneud y canlynol:

  • edrych ar eich strategaeth bresennol datblygu staff i sicrhau fod yr hyfforddiant a ddarparwch yn cyfrannu tuag at amcanion eich busnes
  • helpu i chi lunio a gweithredu cynllun datblygu sefydliadol i wella eich agwedd at reolaeth a hyfforddiant lle bo angen
  • nodi eich anghenion hyfforddi a datblygu a chynhyrchu cynllun dysgu cytûn i’w diwallu
  • nodi cyrsiau hyfforddi addas a’ch rhoi mewn cysylltiad â darparwyr hyfforddiant priodol
  • eich cynghori ynghylch unrhyw gynlluniau hyfforddiant a chyllid sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a allai fod yn briodol i’ch busnes
  • rhoi cyngor am ddim i helpu i chi gyflawni safon Buddsoddwyr mewn Pobl sy’n cael ei chydnabod ledled y wlad ar gyfer datblygu’r gweithlu (os yw’n berthnasol)

Gweithdai arweinyddiaeth a rheolaeth

Lluniwyd gweithdai arweinyddiaeth a rheolaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i helpu chi a’ch rheolwyr wella eich sgiliau arwain. Mae’r gweithdai hyn yn ymarferol dros ben ac yn canolbwyntio’n bendant ar ddatblygu sgiliau rheoli hanfodol.

Cânt eu cyflwyno gan rwydwaith o ddarparwyr sicr eu hansawdd a’u cynnal yn rheolaidd ar hyd a lled Cymru. Mae modd eu cyflwyno trwy gyrsiau agored neu sesiynau hyfforddi pwrpasol yn eich eiddo ac adeiladau.

Gall eich cynghorydd sgiliau awgrymu yn eich adolygiad sgiliau eich y byddech chi a’ch uwch-reolwyr yn elwa ar fynychu gweithdy i wella’ch galluoedd arwain.

Beth mae’r gweithdai’n gwmpasu?

Mae pob gweithdy’n canolbwyntio ar agwedd benodol ar reolaeth, fel sut i wneud y canlynol:

  • gwella cynhyrchiant a phroffidioldeb
  • creu timau effeithiol
  • cynllunio strategaethau ar gyfer llwyddiant
  • cynyddu boddhad mewn gwaith
  • symbylu staff

Cyllid sydd ar gael i fynychu gweithdai

Os yw eich busnes yn cyflogi llai na 250 o bobl yna mae 70% o gost pob cynrychiolydd sy’n mynychu’r gweithdai hyn yn cael ei noddi. Gall busnesau mwy gael cymhorthdal safonol o 50%. Gall mynychu’r gweithdai fod yn ffordd gost-effeithiol iawn o atgyfnerthu rheolaeth yn eich busnes.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Steve O’Neill ar 01978 667000.

Useful External Links

Sgiliau•Pobl•Llwyddiant

Gwybodaeth am Sgiliau•Pobl•Llwyddiant gan Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ffôn 0845 60 661 60.

 

ReAct – Cefnogaeth hyfforddiant i unigolion a busnesau

Pecyn cymorth i bobl sydd wedi’u colli’u gwaith yw ReAct i’w cefnogi i fynd yn ôl i waith cyn gynted à phosibl.

Gwybodaeth mwy am ReAct a ProAct

ITeC

Mae ITeC Wrecsam yn cynnig ystod o gyrsiau hyfforddi ar gyfer gweithwyr, cyflogwyr a phobl sy’n bwriadu dychwelyd i’r gweithle. 

Mae ein hystod o hyfforddiant yn cynnwys:

  • Technoleg Gwybodaeth yn cynnwys Talpiau TG
  • Rhaglen Prentisiaid Modern (Sylfaen ac Uwch)
  • NVQau
  • Adeiladu Sgiliau

Caiff llawer o’n cyrsiau eu cyllido gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a chânt eu cynnig i gyflogwyr a gweithwyr heb unrhyw gost uniongyrchol.

I wybod mwy am wasanaethau ITeC cliciwch yma

yn ôl i'r brig