Llyfrgell Fusnes

Mae Llinellfusnes yn cadw amrywiaeth eang o lyfrau busnes, CD-ROMs a chyfeiriaduron cyfredol arbenigol sy’n cwmpasu holl feysydd allweddol busnes. Caiff eitemau eu dosbarthu a’u grwpio yn ôl maes busnes ar ein silffoedd, sy’n caniatáu lleoli adnoddau ar gyfer pwnc arbennig yn rhwydd. Rhoddir crynodeb o’n cyfundrefn ddosbarthu isod:

Maes Busnes Lliw'r Silff
Dechrau Busnes Gwyrdd
Cyfathrebu Oren
Marchnata Coch
Adnoddau Dynol Gwyrdd tywyll
Rheoli Gwinau
Gweithgynhyrchu Llwyd
Y Gyfraith / Eiddo Deallusol Pinc
Cyllid Glas
TG Melyn
Ystadegau Gwyn
Cyfeiriaduron Busnes Du
Diwyddiannau Penodol Gwyn

Yna caiff pob categori o fusnes ei isrannu’n faes mwy penodol. Er enghraifft, rydym wedi rhannu adnoddau yn ein hadran farchnata yn feysydd sy’n cwmpasu marchnata cyffredinol, cynlluniau marchnata, ymchwil farchnad, marchnata uniongyrchol, marchnata ar y we, hysbysebu, brandio, rheoli perthynas â’r cwsmer, rheoli gwerthiant, gwasanaethu cwsmeriaid a chysylltiadau cyhoeddus. I gael dadansoddiad llawn o’r mathau o lyfrau sydd gennym, cofiwch lawrlwytho copi o becyn trosolwg gwasanaeth Llinellfusnes.

Os byddwch eisiau gweld a oes gennym lyfr penodol neu os hoffech weld rhestr o’r holl lyfrau sydd gennym mewn categori penodol, gallwch chi wneud hynny trwy alw i mewn neu trwy ddefnyddio catalog ar-lein y llyfrgell, i chwilio o gysur eich cartref neu eich  swyddfa eich hun. Dim ond clicio ar ‘dosbarth’ ar ben y dudalen a rhoi lliw'r maes busnes sydd o ddiddordeb i chi sydd angen i chi ei wneud. Gan ddefnyddio’r catalog ar-lein byddwch hefyd yn gallu neilltuo eitemau ac ymestyn cyfnod benthyca unrhyw lyfrau sydd gennych ar fenthyg ar y pryd.

Peidiwch â phetruso cyn cysylltu â ni os bydd gennych gwestiwn ynghylch unrhyw un o’r gwasanaethau y gallwn gynnig. Mae croeso i chi gyflwyno cwestiwn neu gais am wybodaeth gan ddefnyddio ein ffurflen ymholiadau ar-lein, trwy’r ddolen gyswllt isod.

Cysylltwch â thîm Llinellfusnes yn:

Llinellfusnes
Llyfrgell Wrecsam
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1AU

Ffôn: 01978 292092
Ffacs: 01978 292611
Ebost: businessline@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig