Eisoes yn rhedeg eich busnes eich hun?

Mae Llinellfusnes yn ymrwymo i gefnogi mentrau lleol ac mae’n gallu darparu amrywiaeth o wasanaethau i helpu busnesau sefydledig. Mae gennym danysgrifiadau i nifer o adnoddau blaenllaw’r farchnad ac felly rydym yn gallu gweithio gyda chwmnïau i gyflawni eu nodau a’u hamcanion trwy ddarparu gwybodaeth fusnes.

Rydym yn cynnig dewis eang ac amrywiol o wasanaethau all helpu eich cwmni:

  • Cynhyrchu trywyddau gwerthu a nodi cyfleoedd marchnata
  • Lleoli cyflenwyr newydd
  • Cadarnhau statws credyd eich cyflenwyr a chwmnïau sy’n gweithio gyda chi
  • Rheoli eich adnoddau dynol yn effeithiol
  • Dod yn fwy ymwybodol o dechnegau rheoli modern
  • Ymchwilio i gwmnïau penodol
  • Nodi cyfleoedd a hawl i grantiau
  • Gwneud penderfyniadau busnes effeithiol o ddydd i ddydd
  • Ymchwilio i sectorau arbennig o’r farchnad am dueddiadau allweddol, proffiliau defnyddwyr ac ati
  • Rhwydweithio eich busnes

Mae Llinellfusnes yn gallu’ch helpu chi i wneud y canlynol:

Creu Rhestri Postio / Gwerthu dros y Ffôn

Eisiau targedu cwsmeriaid newydd a gwella eich gwerthiant presennol? Os felly, peidiwch â gwastraffu amser ac arian yn cynhyrchu eich rhestri postio eich hun, nad ydynt efallai’n nodi’r busnesau sydd o ddiddordeb penodol i’ch cwmni. Mae Llinellfusnes yn gallu cael gafael ar nifer ar draws Prydain o gronfeydd data cwmnïau arbenigol h.y. Kompass Extranet a Thomson Business Search Pro. Gadewch i’n tîm profiadol greu rhestr cwmnïau wedi ei theilwra i’ch union anghenion a gofynion. Mae modd hidlo’r cronfeydd data yn drwyadl trwy ymgorffori dewisiadau chwilio niferus, fel lleoliad daearyddol, math, maint (yn ôl nifer y cyflogeion a throsiant) y busnesau yr ydych yn dymuno’u targedu. Mae modd allforio gwybodaeth, sy’n cynnwys cysylltiadau penodol o fewn sefydliadau, ar ffurf taenlen sy’n hawdd creu rhestri postio ohoni.

Lleoli cyflenwyr newydd

Manteisiwch ar ein cronfeydd data a chyfeiriaduron arbenigol er mwyn cael gafael ar gyflenwyr newydd i’ch cwmni. Mae Kompass Extranet, cronfa ddata genedlaethol rydym yn tanysgrifio iddi, yn cynnwys gwneuthurwyr a dosbarthwyr, gyda mwy na 57,000 o benawdau cynnyrch a gwasanaeth a thros 23 miliwn o gyfeiriadau cynnyrch. Mae hyn yn caniatáu i chi leoli’r union gwmnïau sydd o ddiddordeb i chi. Mae modd darparu canlyniadau eich gofynion chwilio naill ai ar ffurf PDF neu daenlen. Yn ogystal â’n cronfeydd data ar-lein mae gennym fynediad hefyd at nifer o gyfeiriaduron cyfredol sy’n neilltuol i ddiwydiannau penodol a sectorau’r farchnad.

Nodi Tueddiadau’r Farchnad

Gallwch ymchwilio’r farchnad a all fod yn addas ar gyfer eich cynnyrch neu eich gwasanaeth gan ddefnyddio’r adroddiadau y gallwn eu cael ar eich cyfer. Mae Llinellfusnes yn tanysgrifio i ddarparwyr ymchwil marchnata blaenllaw fel Keynote. Yn aml yn costio dros £500 yr un, gallwn ddarparu dyfyniadau o adroddiadau’n gyfan gwbl ddi-dâl, fydd yn helpu i chi ddadansoddi maint eich marchnad. Bydd llawnder y wybodaeth ystadegol hefyd yn caniatáu i chi nodi tueddiadau allweddol, proffiliau defnyddwyr, rhannau o’r farchnad a’r rhagolygon yn ddiymdrech. Gallai’r wybodaeth hon fod o ddiddordeb arbennig os bydd eich cwmni’n arallgyfeirio i farchnadoedd busnes newydd.

Ymchwilio i’ch cystadleuwyr

Gallwch gynyddu eich gwybodaeth am eich cystadleuwyr allweddol neu ddod o hyd i bartneriaid ar gyfer eich gwasanaeth. Gallwn roi manylion am gwmnïau i chi, a fydd yn rhoi golwg gyffredinol o faint y cwmnïau o ran trosiant a nifer cyflogeion, lleoliad eu heiddo ac adeiladau a dolenni uniongyrchol i wefannau cwmnïau, lle byddwch yn gallu gwneud rhagor o ymchwil gefndir i bob busnes sydd o ddiddordeb i chi.

Cadarnhau Statws Credyd Cwmnïau

Ydych chi’n ansicr a fydd cwmni cyfyngedig sy’n gweithio gyda chi yn gallu talu am nwyddau neu wasanaethau y mae’n gofyn i chi eu cyflenwi? Oes gennych chi ddiddordeb mewn cadarnhau hyfywedd ariannol eich darpar gyflenwyr neu rai presennol? Ydych chi eisiau ymchwilio i ddarpar bartneriaid busnes cyn llofnodi contract? Mae croeso i chi fanteisio ar ein gwasanaeth cadarnhau statws credyd cyn penderfynu. Mae’r adroddiadau sy’n cael eu darparu gan Credit Safe yn gynhwysfawr ac o safon ac yn rhoi’r wybodaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau deallus. Yn y pen draw, bydd adroddiadau’n tynnu sylw at unrhyw gwmnïau gyda statws credyd gwael a’r rhai mewn sefyllfa ariannol wael cyn i chi wneud busnes â nhw a lleihau’n fawr y peryglon sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau ariannol.

Rheoli eich staff

Mae angen i bob cwmni sicrhau ei fod yn cydymffurfio â chyfraith cyflogaeth. Nid yn unig bydd ein hadnoddau’n caniatáu i chi wneud hyn yn rhwydd, ond byddant hefyd yn gadael i chi wneud y gorau o’ch personél trwy ddilyn yr arferion gorau. Gadewch i ni eich helpu chi gyda’ch materion cyflogaeth trwy ddarparu templedi am ddim, sy’n rhwymedig gyfreithiol, fel contractau cyflogi. Gallwch chi wedyn eu haddasu’n rhwydd ar gyfer eich cwmni chi. Gallwn ni hefyd ddarparu patrymau polisi, canllawiau gam wrth gam, ffeithlenni ac adroddiadau trylwyr, yn cwmpasu fwy neu lai bob agwedd ar reoli adnoddau dynol. Caiff gwybodaeth ei diweddaru’n gyson yn unol â newidiadau mewn deddfwriaeth ac ati. Rydym hefyd yn gallu rhoi data meincnodi cyflogau bob awr a blynyddol i chi, y mae modd eu mireinio i sectorau, enwau swyddi a rhanbarthau daearyddol penodol.

Nodi grantiau a chyllid y gall eich busnes fod â hawl iddynt

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cael gwybod a oes hawl gan eich busnes i unrhyw grantiau a chyllid arall o’r fath? Mae Llinellfusnes yn gallu defnyddio J4B Advisor sydd, yn y bôn, yn gronfa ddata o grantiau, cyllid a dyfarniadau i fusnesau ar hyd a lled Prydain. Mae modd chwilio’r adnodd hwn gan ddefnyddio hidlyddion niferus, fel lleoliad, neu at ba ddiben mae angen grant, er enghraifft prynu TG. Ni restrwyd pob grant sydd ar gael yn y gronfa ddata hon, felly dylid ei hystyried fel arweiniad yn unig ac ymchwilio i lwybrau eraill gyda chyrff cefnogi busnes.

Cael mewnwelediad i lawer o feysydd busnes

Mae Llinellfusnes yn cynnal llyfrgell sy’n cwmpasu holl brif feysydd busnes, e.e. marchnata, cyfathrebu, rheoli, adnoddau dynol ac ati. Mae mwyafrif mawr ein llyfrau ar gael i’w benthyg yn ddi-dâl. Bydd angen i bawb sydd â diddordeb mewn benthyca llyfrau o’n hadran fod yn aelod o Wasanaeth Llyfrgell Wrecsam. I gael manylion ar sut i ymuno, ewch i brif dudalennau’r llyfrgell os gwelwch yn dda. Mae cronfa ddata Cobra ar gael i ni hefyd, sy’n cynnwys toreth o wybodaeth ar gyfer pawb sy’n rhedeg busnes. Mae modd darparu’r ffeithlenni sydd ar gael o’r adnodd hwn naill ai mewn dull electronig neu fel copi caled.

Network

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhwydweithio gyda busnesau lleol eraill, byddwch yn falch o glywed ein bod yn cynnal clwb busnes ar gyfer mentrau bach yr ardal. Enw’r clwb yw Rhwydwaith. Mae Rhwydwaith yn darparu amgylchedd cyfeillgar a chefnogol i bobl fusnes ryngweithio, rhannu profiadau, datrys problemau a sefydlu cysylltiadau. Cewch gyfle i gyfarfod â phobl newydd, hyrwyddo eich busnes a gwrando ar siaradwyr perthnasol ar amrywiaeth o bynciau drwy gydol y flwyddyn.

Croeso i chi lawrlwytho pecyn trosolwg Llinellfusnes, sy’n rhoi cipolwg mwy cynhwysfawr ar ddetholiad ein gwasanaethau a’r adnoddau mwyaf poblogaidd.

yn ôl i'r brig