
Bydd Llinellfusnes, mewn cydweithrediad gydag Europe Direct Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn cydlynu rhaglen o fwy na 25 o ddigwyddiadau, yn eu plith cyfleoedd i fusnesau rwydweithio, amrediad eang o seminarau a gweithdai am ddim, cynhadledd cefnogi busnesau, Arddangosfa Fusnes Wrecsam ynghyd â chyflwyniad ar frandio gan Chris Hughes, gynt o Mars, Pillsbury UK a Dunlop Slazenger. Bydd yr wythnos lawn o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal rhwng y 3ydd a’r 7fed o Hydref yn Wrecsam er mwyn dathlu Wythnos SME – ymgyrch sy’n hyrwyddo menter busnes ar draws Ewrop.
Cynhaliwyd 1,500 o ddigwyddiadu ledled Ewrop y llynedd gyda’r nod sylfaenol o alluogi busnesau i rannu eu profiad a datblygu eu hunain ymhellach. Bydd pob seminar, gweithdy a chyflwyniad ar agor i fusnesau, i unigolion sy’n bwriadu agor eu busnes eu hunain ac i fyfyrwyr sy’n ymddiddori ym maes busnes.
Mae’n siwr y bydd y digwyddiadau’n gyfle gwych i bobl fusnes lleol rwydweithio, cyfnewid syniadau a dysgu sgiliau newydd. Gobeithiwn yn fawr y bydd y digwyddiadau’n rhoi syniadau newydd, gwybodaeth, ysbrydoliaeth ac ysgogiad y byddwch chi’n gallu eu defnyddio yn eich busnes.
Mae mwyafrif y digwyddiadau am ddim; fodd bynnag, mae nifer y lloeoedd yn y seminarau yn gyfyngedig, felly mae’n hanfodol eich bod yn neilltuo lle ymlaen llaw. Er mwyn osgoi’r siom o golli digwyddiadau, rydym yn eich annog i fwcio lle ar unrhyw seminar sydd o ddiddordeb i chi cyn gynted ag y gallwch chi os ydych yn bendant eich bod eisiau bod yn bresennol.
Os hoffech chi dderbyn copi o’r rhaglen o ddigwyddiadau ar e-bost, cwblhewch y ffurflen isod os gwelwch yn dda:
Diogelu Data | Datganiad Preifatrwydd