Gwasanaeth gwybodaeth fusnes yw Llinellfusnes sy’n cael ei ddarparu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i bawb sy’n dechrau busnes, sydd eisoes mewn busnes neu sy’n astudio busnes.
Bydd ein hadnoddau a gwybodaeth yn helpu i chi wneud y canlynol:
Bydd pobl fusnes yn gwneud penderfyniadau bob dydd, ond ydych chi erioed wedi ystyried sut fyddwch chi’n gwneud y penderfyniadau hynny a sut mae hyn yn effeithio ar eich llwyddiant? Mae penderfyniadau da’n deillio o wybodaeth dda, ond gall fod yn anodd cael hyd i wybodaeth dda neu gall fod mewn cronfeydd data drud. Fodd bynnag, fel gwasanaeth gwybodaeth fusnes arbenigol mae Llinellfusnes yn prynu amrywiaeth o adnoddau fel nad ydych chi’n gorfod. Ar y cyd â’n gwybodaeth eang o faterion busnes, ffynonellau gwybodaeth fusnes a’n sgiliau ymchwilio gallwn gael hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, gan arbed eich amser. Felly peidiwch â gwastraffu amser yn chwilio’r rhyngrwyd, gadewch i ni chwilio ar eich rhan. Wrth gwrs gallwch bori a defnyddio’r adnoddau sydd ar gael ac, os byddwch angen arweiniad ar ble i edrych neu gyfarwyddyd ar fater arbennig, cofiwch ofyn.
Mae gan dîm Llinellfusnes gyfoeth o brofiad, gwybodaeth a chymwysterau mewn rheoli busnes a gwybodaeth. Mae cymwysterau’n cynnwys gradd anrhydedd mewn Rheoli Busnes a Diploma Ôl-raddedig mewn Gwybodaeth.
Gallwn helpu’r canlynol:
Gwasanaethau a ddarparwn:
Croeso i chi lawrlwytho pecyn trosolwg Llinellfusnes, sy’n rhoi cipolwg mwy cynhwysfawr ar ddetholiad o’n gwasanaethau a’r adnoddau mwyaf poblogaidd. Mae pecynnau sefydlu busnes ar gael yn ddi-dâl ac mae croeso i chi ofyn am gopi gan ddefnyddio ein ffurflen ymholi ar-lein. Mae dolen gyswllt iddi isod:
Cysylltwch â thîm Llinellfusnes yn:
Llinellfusnes
Llyfrgell Wrecsam
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1AU
Ffôn: 01978 292092
Ffacs: 01978 292611
Ebost: businessline@wrexham.gov.uk