Digwyddiadau Busnes a Rhwydweithio

Ydych chi'n dymuno ehangu eich gwybodaeth mewn maes penodol o fyd busnes, dod o hyd i seminarau a gweithdai yn yr ardal neu rwydweithio gyda busnesau eraill er mwyn sefydlu cysylltiad a rhannu gwybodaeth?.

Digwyddiadau Busnes

O bryd i’w gilydd, mae Llinellfusnes yn cynnal digwyddiadau lle y gall pobl broffesiynol leol rannu eu gwybodaeth a chynnig syniadau ar eu maes arbenigol, am ddim, er budd y gymuned fusnes. Yn ystod y blynyddoedd  diwethaf, rydym wedi cydlynu nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus ar bynciau megis gwneud yn fawr o’r rhyngrwyd, cynyddu elw, datblygu strategaeth farchnata ar-lein yn ogystal â seminar ar ddatblygu modelau busnes traddodiadol yn unol â datblygiadau’r 21ain ganrif. Os hoffech chi i ni eich hysbysu am unrhyw weithgareddau rydym yn eu trefnu, neu am seminarau eraill yn ardal Wrecsam, rhowch eich manylion isod ac yna fe wnawn ni anfon negeseuon ebost atoch chi fel y bo’n briodol.

Rhwydweithio

Mae Llinellfusnes yn trefnu digwyddiadau rhwydweithio o bryd i’w gilydd. Mae rhwydweithio yn rhoi cyfle i berchenogion busnes gyfarfod â darpar gleientiaid, sefydlu cysylltiadau, rhannu neu gasglu syniadau a chymysgu â phobl o’r un anian. Os hoffech chi i ni eich hysbysu am unrhyw ddigwyddiadau rhwydweithio y byddwn ni’n eu trefnu neu am unrhyw sesiynau rhwydweithio sydyn achlysurol rydym yn ymwybodol ohonynt, rhowch eich manylion i ni ar y ffurflen isod os gwelwch yn dda.

Ymunwch â’n rhestr bostio:

Cysylltwch â thîm Llinellfusnes yn:

Llinellfusnes
Llyfrgell Wrecsam
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1AU

Ffôn: 01978 292092
Ffacs: 01978 292611
Ebost: businessline@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig