Meddwl am sefydlu eich busnes eich hun?

Rydym yn deall bod sefydlu eich busnes eich hun yn gallu bod yn brofiad cyffrous ond brawychus. Mae Llinellfusnes yn tanysgrifio i nifer o adnoddau arbenigol, sy’n caniatáu i ni ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau sy’n anelu’n benodol at unigolion sydd am fynd i fyd hunangyflogaeth. Waeth pa mor bell rydych chi wedi mynd, gallwn ni eich helpu chi.

Yn hytrach na threulio oriau’n ceisio gweld sut i sefydlu busnes, gadewch i ni roi’r wybodaeth angenrheidiol i chi, gan fanylu ar sut i sefydlu math penodol o fusnes, posibiliadau’r farchnad y bwriadwch fynd iddi ac unrhyw faterion cyfreithiol i fod yn ymwybodol ohonynt, ac ati. Rydym hefyd yn gallu cael gafael ar amrywiaeth eang o ddeunyddiau cyffredinol ar sefydlu busnes.

Fel golwg byr dros ein hadnoddau, byddant yn helpu i chi wneud y canlynol:

  • Lleihau amser sefydlu eich busnes
  • Llunio cynlluniau busnes a marchnata
  • Ymchwilio i’ch marchnad yn drwyadl, gan nodi tueddiadau allweddol y farchnad, rhagolygon a phroffiliau defnyddiwr ac ati
  • Nodi ac ymchwilio i’ch cystadleuwyr lleol
  • Lleoli cyflenwyr
  • Marchnata eich busnes
  • Cyflogi staff
  • Creu rhestri postio penodol er mwyn targedu cwsmeriaid newydd
  • Ymchwilio i statws credyd eich cyflenwyr a chwmnïau sy’n gweithio gyda chi
  • Nodi cefnogaeth ariannol a all fod ar gael i’ch busnes 
  • Deall agweddau cyfreithiol a rheoleiddiol ar fusnes
  • Gwneud penderfyniadau busnes effeithiol o ddydd i ddydd

Gadewch i ni dynnu’r ansicrwydd o’ch proses benderfynu trwy roi gwybodaeth awdurdodol, gyfredol a pherthnasol i chi, gyda’r mwyafrif mawr yn cael ei darparu’n gyfan gwbl DDI-DÂL. Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gost-effeithiol ac effeithlon.

Y canlynol yw ychydig o’r adnoddau electronig arbenigol sydd ar gael gennym ar eich cyfer:

Cobweb

Mae cronfa ddata Cobra’n cynnwys toreth o wybodaeth i bawb sy’n sefydlu, yn rhedeg neu’n astudio busnes. Mae ynddi gannoedd o ffeithlenni defnyddiol unswydd ar gyfer dechrau mathau penodol o fentrau ac agweddau arbennig ar redeg busnes. Mae’r gronfa ddata hefyd yn darparu rhestri digwyddiadau, manylion cyswllt sefydliadau defnyddiol, arweiniad ar ddeddfwriaeth a chrynodebau o lawer o farchnadoedd.

Keynote Market Research Reports

Mae’r adroddiadau hyn yn rhoi dadansoddiad ystadegol trylwyr o farchnadoedd penodol, gan nodi tueddiadau allweddol, ac yn darparu rhagolygon o’r farchnad ac ati. Delfrydol ar gyfer cefnogi cynlluniau busnes.

CCH Business Focus

Mae’r adnodd defnyddiol hwn yn rhoi gwybodaeth am farchnad dros 90 o grefftau a galwedigaethau, gan fanylu ar natur crefftau, deddfwriaeth, dangosyddion perfformiad, ystadegau a llawer mwy. 

J4B Advisor

Cronfa ddata o grantiau, cyllid a dyfarniadau i fusnesau ym Mhrydain. Mae modd chwilio’r adnodd hwn gan ddefnyddio hidlyddion niferus, fel lleoliad, neu ar gyfer beth mae angen grant, er enghraifft prynu TG. Ni restrwyd pob grant sydd ar gael yn y gronfa ddata hon ac, felly, dylid ei thrin fel arweiniad yn unig ac ymchwilio i lwybrau eraill gyda chyrff cefnogi busnes.

Kompass Extranet

Cyfeiriadur busnes amrywiol a thrylwyr iawn. Mae modd defnyddio’r gronfa ddata hon er mwyn dod o hyd i gyflenwyr, cwmnïau ymchwil, i greu rhestri postio penodol ac ati. Mae modd lawrlwytho gwybodaeth gan gynnwys cysylltiadau penodol i amrywiaeth o fformatau ffeiliau.

Thomson Business Search Pro

Cyfeiriadur busnes hyblyg a thrwyadl. Mae modd defnyddio’r gronfa ddata hon ar gyfer nodi ac ymchwilio i’ch cystadleuwyr yn y farchnad ac i greu rhestri postio penodol sy’n diwallu eich gofynion penodol. Eto, mae modd allforio gwybodaeth o’r gronfa ddata hon i nifer o fformatau ffeiliau.

Credit Safe

Ymchwiliadau i statws credyd / cyfraddiadau. Diogelwch eich cwmni rhag dechrau gwneud busnes gyda chwmni cyfyngedig sydd â sgôr credyd gwael

Companies House Direct

Mae cronfa ddata Tŷ’r Cwmnïau’n gadael i ni weld manylion am gyfarwyddwyr, cyfrifon, cwmnïau a ddiddymwyd a chyfarwyddwyr gwaharddedig.

Croner-I

Cronfa ddata Adnoddau Dynol sy’n darparu gwybodaeth drylwyr am ddeddfwriaeth a chydymffurfio, cyfarwyddyd a chyngor, ffeithlenni, enghreifftiau o ffurflenni a pholisïau, a mwy. Gall staff Llinellfusnes chwilio hon ar eich rhan.

IDS Pay Benchmark

Adnodd delfrydol ar gyfer pawb sydd â diddordeb mewn gwybod beth yw cyfartaledd cyflogau sectorau, swyddi a rhanbarthau penodol.

Mae Llinellfusnes yn rhan o rwydwaith o weithwyr proffesiynol cefnogi busnes ac, felly, mae ganddynt gysylltiadau da gyda chynghorwyr busnes a chyrff cefnogi busnes eraill o’r fath yn yr ardal, sy’n rhoi cyngor annibynnol am ddim. Os na fuoch mewn cysylltiad â’r cyrff hyn, byddem yn falch dros ben o’ch cyfeirio at y rhai sy’n briodol i’ch diwydiant.

Rhwydwaith

Os oes gennych ddiddordeb mewn rhwydweithio gyda busnesau lleol eraill, byddwch yn falch o glywed ein bod yn cynnal  clwb busnes ar gyfer mentrau bach yn yr ardal. Enw’r clwb yw Rhwydwaith. Mae Rhwydwaith yn darparu amgylchedd cyfeillgar a chefnogol lle gall pobl fusnes ryngweithio, rhannu profiadau, datrys problemau a sefydlu cysylltiadau. Cewch gyfle i gyfarfod â phobl newydd, hyrwyddo eich busnes a gwrando ar siaradwyr perthnasol ar amrywiaeth o bynciau drwy gydol y flwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth ewch i adran clwb rhwydwaith ein gwefan.

Croeso i chi lawrlwytho pecyn trosolwg Llinellfusnes, sy’n rhoi cipolwg mwy cynhwysfawr ar ddetholiad o’n gwasanaethau a’r adnoddau mwyaf poblogaidd. Mae pecynnau sefydlu busnes ar gael yn ddi-dâl. Croeso i chi ofyn am gopi gan ddefnyddio ein ffurflen ymholi ar-lein.

Cysylltwch â thîm Llinellfusnes yn:

Llinellfusnes
Llyfrgell Wrecsam
Ffordd Rhosddu
Wrecsam
LL11 1AU

Ffôn: 01978 292092
Ffacs: 01978 292611
Ebost: businessline@wrexham.gov.uk

yn ôl i'r brig